Prawf newydd yn anelu at ddiagnosis cynnar o ganser yr ysgyfaint

Yr Athro Luis Mur

Yr Athro Luis Mur

14 Medi 2023

Gallai fod yn bosibl canfod canser yr ysgyfaint yn gynharach diolch i brosiect a arweinir gan wyddonwyr o Gymru sy’n datblygu pecyn diagnosis cyflym newydd.

Mae canser yr ysgyfaint yn effeithio ar bron i 50,000 o bobl y flwyddyn yn y Deyrnas Gyfunol, yn lladd mwy o bobl nag unrhyw ganser arall ac yn costio mwy na £2.4bn y flwyddyn i’r gwasanaeth iechyd.

Mae diagnosis o'r clefyd yn y camau cynnar yn heriol, gan fod symptomau clinigol ond yn ymddangos os yw'r tiwmor yn fawr iawn neu wedi lledaenu y tu allan i'r ysgyfaint.

Dim ond mewn tua un o bob wyth o bobl y mae llawdriniaeth yn bosibl; gyda'r mwyafrif llethol yn cael cynnig triniaethau i liniaru eu clefyd anwelladwy.

Nod y gwyddonwyr yw datblygu prawf i adnabod yn gyflym y bobl sydd fwyaf tebygol o elwa o sganio.

Gan ddefnyddio ymchwil Prifysgol Aberystwyth, yr amcan yw datblygu pecyn prawf aml-sgrinio newydd hwn a allai adnabod biofarcwyr canser, neu gemegau bach, sy'n bresennol mewn wrin.

Gall y chwe biofarcwr wneud diagnosis o ganser yr ysgyfaint gyda chywirdeb o 90% ac yn y cyfnodau cynnar iawn, cyn i symptomau clinigol ddechrau.

Mae’r gwaith yn rhan o bartneriaeth rhwng y Life Science Group, Highfield Diagnostics, ProTEM Services and Valley Diagnostics, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Aberystwyth.

Dywedodd yr Athro Luis Mur o Brifysgol Aberystwyth:

“Mae canser yr ysgyfaint yn cael effaith ddinistriol ar gynifer o bobl a’u hanwyliaid. Gobeithiwn y gall y cydweithio pwysig hwn gymhwyso’r ymchwil sy’n arwain y byd yma yn Aberystwyth a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Unwaith y bydd y prawf wedi'i ddatblygu'n llawn, rydym yn gobeithio y gellir ei ddefnyddio mewn meddygfeydd teulu neu yn y cartref.

“Mae’r tîm yma eisoes wedi adnabod biofarcwyr mewn wrin sy’n gallu gwneud diagnosis o nifer o ganserau a chlefydau eraill. Gall hefyd nodi ym mha gyfnod y mae'r afiechyd mewn claf. Trwy barhau i weithio mewn partneriaeth, rydyn ni’n gobeithio y gallwn ddatblygu ystod o'r profion diagnostig newydd hyn dros y blynyddoedd i ddod. Ein nod yw y byddan nhw’n gwneud diagnosis ac yn monitro dilyniant, lleoliad ac effeithiolrwydd amrywiaeth eang o glefydau a chanserau. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld y rhain yn arwain at ddiagnosis cyflym, cost-effeithiol a chywir o nifer o gyflyrau mewn meddygfeydd a gartref.”

Dywedodd Jenny Murray, Rheolwr Gyfarwyddwr y Life Science Group ac Arweinydd y Prosiect:

“Mae gan y dechnoleg hon y potensial i chwyldroi profion diagnostig yma yn y Deyrnas Gyfunol ac yn fyd-eang, yn enwedig mewn gwledydd lle mae mynediad cyfyngedig at ganolfannau diagnostig.

“Mae’r tîm yn hyderus bydd y ddyfais hon, a’r rhai eraill a fydd yn dilyn, nid yn unig yn achub bywydau ond hefyd yn gallu dangos arbedion sylweddol yn y gwasanaeth iechyd, ailddatblygu’r llwybr diagnostig a chreu swyddi yng Nghymru a refeniw i’r Deyrnas Gyfunol gyfan.”

Byddai'r prawf, sydd mewn cyfnod cynnar o’i ddatblygiad, yn hawdd i'w ddefnyddio, ac yn mabwysiadu'r dull llif unffordd a ddaeth yn gyfarwydd yn ystod pandemig Covid-19.

Mae’r cydweithrediad rhwng academyddion o Gymru, partneriaid masnachol y Deyrnas Gyfunol a sawl ysbyty yng Nghymru ar hyn o bryd yn ceisio am gyllid gan Innovate UK i gynhyrchu’r offer hyn ar raddfa fawr ar safle newydd yn ne Cymru.