Syr Anthony Hopkins yn anfon neges fideo ar gyfer digwyddiad dathlu 50 mlwyddiant yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu

Gweddnewidiwyd y grisiau sy’n arwain at Ganolfan y Celfyddydau yn lleoliad ar gyfer premiere ffilm wrth ffilmio My Happy Ending

Gweddnewidiwyd y grisiau sy’n arwain at Ganolfan y Celfyddydau yn lleoliad ar gyfer premiere ffilm wrth ffilmio My Happy Ending

03 Hydref 2023

Yn rhan o ddangosiad arbennig o ffilm newydd Andie MacDowell a ffilmiwyd yn Aberystwyth, bydd yr actor Syr Anthony Hopkins yn cyflwyno neges fideo yn arbennig i’r myfyrwyr a fu’n gweithio’n aelodau o’r criw.

Cynhelir y dangosiad o My Happy Ending ddydd Sadwrn yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, yn rhan o ddathliadau 50 mlwyddiant yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu.

Bu 24 o fyfyrwyr yn ogystal â darlithwyr o'r adran yn gweithio gyda rhai o wynebau enwocaf sinema a theledu ar y ffilm, a ffilmiwyd yn Aberystwyth yn 2021.

Mae’r ffilm, sy’n cynnwys Andie MacDowell, Miriam Margoyles, Tom Cullen, David Walliams, Sally Phillips, Tamsin Greig a Rakhee Thakrar, yn gomedi teimladwy am griw o fenywod, ac mae’n seiliedig ar ddrama gan un o ddramodwyr mwyaf nodedig a phoblogaidd Israel, Anat Gov. Mae'n dilyn hynt y seren Hollywood Julia Roth (Andie MacDowell) sy'n ei chael ei hun mewn ystafell ysbyty ym Mhrydain gyda thair menyw arall sy'n ei chynorthwyo ar ei thaith i ddarganfod ei hun.

Bydd Syr Anthony, a anwyd ym Mhort Talbot ac sydd wedi serennu mewn ffilmiau fel The Silence of the Lambs, The Remains of the Day a Nixon, ac wedi ennill Oscar, yn agor y digwyddiad â neges fideo arbennig yn dymuno pen-blwydd hapus i'r adran ac yn nodi’r ffaith bod ei gefnder wedi astudio yno.

Syr Anthony Hopkins

Dywedodd Huw Penallt Jones, Uwch Ddarlithydd Cynhyrchu Ffilm yn y Brifysgol a Chyd-gynhyrchydd My Happy Ending:

"Cefais y pleser o weithio gyda Syr Anthony Hopkins ar ffilm arall a ffilmiwyd yn Iwerddon. Wrth sgwrsio ag ef, soniais fod yr adran ym Mhrifysgol Aberystwyth yn dathlu ei 50mlwyddiant, ac roedd yn awyddus iawn i anfon neges at ein myfyrwyr."

"Bydd yn wych i'n graddedigion diweddar, a fu’n gweithio ar My Happy Ending yn eu hail a'u trydedd flwyddyn, allu dod i’r dangosiad arbennig hwn, ar ôl cael cyfle heb ei ail i weithio dan hyfforddiant ar bob agwedd o’r cynhyrchiad. Bu’n gyfle iddynt gael y math o brofiad ymarferol na ellir ei ddysgu, ac a allai arwain at yrfa yn y diwydiant ffilm. Ni all unrhyw brifysgol arall frolio bod ei myfyrwyr wedi helpu i wneud ffilm nodwedd."

Treuliodd Juliette Daum, a raddiodd mewn Sinematograffeg a Chynhyrchu Ffilm/Fideo o Brifysgol Aberystwyth eleni, saith wythnos yn gweithio fel cynorthwyydd personol i’r cyfarwyddwr tra’n gweithio ar My Happy Ending.  Meddai:

"Roedd cael gweithio ochr yn ochr â chriw ffilm proffesiynol a chast uchel ei broffil yn brofiad hynod werthfawr. O’r gwaith cyn-gynhyrchu hyd at y prif waith ffotograffiaeth cefais brofiad o sgowtio lleoliadau, gweld y set yn cael ei adeiladu, cyfarfodydd gyda'r cyfarwyddwyr, sinematograffydd, y cast a'r dylunydd cynhyrchu. Roedd yn anhygoel gweld sut y mae gan bawb eu rhan i'w chwarae, a sut mae'r cynhyrchiad cyfan yn dod ynghyd. Bu’n gyfle i mi weld pa swyddi y byddai gen i fwyaf o ddiddordeb ynddynt ar ôl graddio."

Cynhelir y dangosiad arbennig ddydd Sadwrn 7 Hydref yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, a bydd yn cael ei gyflwyno gan Ben Lake, AS Ceredigion. Bydd y gwesteion eraill yn cynnwys Cadeirydd Dros Dro y BBC a chyn Bennaeth yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, y Fonesig Elan Closs Stephens.

Bydd cyfle hefyd i aelodau'r cyhoedd weld My Happy Ending pan gaiff ei ddangos yn Sinema Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth o 10-12 Hydref. I gael mwy o wybodaeth ac i archebu tocynnau, ewch i: 
www.aberystwythartscentre.co.uk/cy/whats-on/film