Pobl yng Ngholombia yn defnyddio celf i greu heddwch mewn dinas lle bu gwrthdaro

La Fiesta. Credyd: Laura Diosa Vera a Sofia Garcia 'Ponchis'

La Fiesta. Credyd: Laura Diosa Vera a Sofia Garcia 'Ponchis'

13 Hydref 2023

Bydd tîm sy'n ymroddedig i ddefnyddio celf i fynd i'r afael â thrais a gwrthdaro yn ninas Medellín Colombia yn cyflwyno eu canfyddiadau ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Iau 19 Hydref.

Mae murluniau stryd, drama lwyfan a chân salsa wedi cael eu perfformio mewn dinas yng Ngholombia lle bu gwrthdaro, yn rhan o astudiaeth o’r rhan y gall celf gymunedol ei chwarae wrth greu heddwch.

Arianwyd y prosiect Art that Protects gan rwydwaith ymchwil sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Aberystwyth, a bu’n astudio effaith gwaith ugain o sefydliadau diwylliannol gyda chymunedau yn ninas Medellín, Colombia - cymunedau yr effeithiodd gwrthdaro trefol arnynt.

Dangoswyd canfyddiadau'r prosiect i'r cyhoedd drwy gyfrwng sawl math ar waith celf, gan gynnwys pedwar murlun gan yr artist Carlos Tobón a drama lwyfan, La Fiesta, gan Óscar Manuel Zuluaga.

Mae’r gân salsa Arte que Protege, a gyfansoddwyd ac a berfformiwyd gan Gio Monteadentro, yn adrodd hanes y prosiect a'i ganlyniadau, a cheir hefyd fideo o’r gân sy'n dangos gwaith llawer o'r grwpiau cymunedol ar lawr gwlad a fu’n rhan o'r astudiaeth.

Nawr mae tîm y prosiect o Colombia yn teithio dros 5,000 o filltiroedd i gyflwyno ei ganfyddiadau yn Aberystwyth.

Cynhelir y digwyddiad yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth o 10:30-12:00 ddydd Iau 19 Hydref, a bydd yn gyfle i glywed cyflwyniad o ganfyddiadau'r prosiect, gweld clipiau fideo byr o La Fiesta gydag elfennau o theatr fyw, ac ymuno â thrafodaeth yn archwilio grym y celfyddydau i ddarparu gofod mwy diogel mewn cyd-destunau treisgar.

Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad yn rhad ac am ddim a gellir eu harchebu yn: www.eventbrite.com/e/la-fiesta-art-that-protects-tickets-734592334447

Yn ôl Berit Bliesemann de Guevara, Athro Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth a Phrif Ymchwilydd y rhwydwaith Creu Man Diogelach:

"Mewn amgylcheddau trefol fel Medellín, mae’r trigolion wedi dioddef pum degawd o wrthdaro arfog ac mae trais wedi dod yn rhan o’u bywyd bob dydd. 

"Gwelwyd bod celf a pherfformiadau cymunedol yn gyfrwng effeithiol i gryfhau cysylltiadau cymdeithasol, cael gwared ar y ffiniau anweledig sy'n gwahanu cymdogaethau, grymuso grwpiau sydd ar y cyrion ac, yn y pen draw, cyfrannu at greu heddwch yn y tymor hwy."

"Mae'r prosiect Art that Protects wedi dangos bod celf cymunedol ymarferol yn gallu gwneud cyfraniad trawsnewidiol a therapiwtig. Mae'n dod yn gyfrwng lle gall y trigolion fynegi eu hunain a dangos eu gwrthwynebiad i'r gwrthdaro sy’n cael dylanwad mor flaenllaw ar eu cymuned."

Cafodd prosiect Art that Protects ei arwain gan yr Athro Beatriz Arias López o Gyfadran Nyrsio Prifysgol Antioquia, a’r grwpiau o artistiaid Arlequín y Los Juglares (Harlequin and the Jugglers) a Robledo Venga Parchemos.

Mae'n un o 25 o brosiectau ymchwil a gefnogir gan rwydwaith 'Creu Man Diogelach', dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth, sy’n cael ei ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) yn y Deyrnas Unedig drwy'r Gronfa Ymchwil Heriau Byd-eang.

Mae'r rhwydwaith Creu Man Diogelach yn gweithio gydag ymchwilwyr, cymunedau a sefydliadau mewn rhanbarthau y mae gwrthdaro yn effeithio arnynt i archwilio sut y gall y trigolion atal trais yn eu herbyn, a hynny heb fygwth na defnyddio grym. 

Y nod yw gwella a chryfhau gallu’r trigolion i’w hamddiffyn eu hunain a chefnogi ymdrechion lleol i greu mannau mwy diogel lle gall cymunedau greu heddwch parhaol, cynaliadwy.