£3 miliwn gan un o dorwyr cod Enigma ar gyfer ymchwil Prifysgol Aberystwyth

Yr Is-Ganghellor yr Athro Elizabeth Treasure (canol) ac Dr Eva De Visscher, Rheolwr Ymddiriedolaethau a Sefydliadau ym Mhrifysgol Aberystwyth (ail o’r dde) yn nodi lansio gwaddol newydd Joy Welch yng nghwmni rhai sydd wedi derbyn cefnogaeth eisoes;  Dr Valerie Rodrigues (Gwyddorau Bywyd), Dr Alice Vernon (Saesneg ac  Ysgrifennu Creadigol), yr Athro Stephen Tooth (Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear), Tracy Knight, Dr Sarah Dalesman a Dr Rhys Thatcher (Gwyddorau Bywyd) a Dr Rachel Cross (Ffiseg).

Yr Is-Ganghellor yr Athro Elizabeth Treasure (canol) ac Dr Eva De Visscher, Rheolwr Ymddiriedolaethau a Sefydliadau ym Mhrifysgol Aberystwyth (ail o’r dde) yn nodi lansio gwaddol newydd Joy Welch yng nghwmni rhai sydd wedi derbyn cefnogaeth eisoes; Dr Valerie Rodrigues (Gwyddorau Bywyd), Dr Alice Vernon (Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol), yr Athro Stephen Tooth (Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear), Tracy Knight, Dr Sarah Dalesman a Dr Rhys Thatcher (Gwyddorau Bywyd) a Dr Rachel Cross (Ffiseg).

13 Hydref 2023

Mae un o raddedigion o Aberystwyth a gyfrannodd at dorri cod Enigma yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd wedi gadael dros £3m i'w chyn-Brifysgol.

Un o Glagate ger Lancaster oedd Joy Welch a fu’n astudio Economeg, Daearyddiaeth ac Athroniaeth yn Aberystwyth gan raddio yn 1950.

Yn 1943, yn 17 oed, gwirfoddolodd Joy ar gyfer Gwasanaeth Merched y Llynges Frenhinol ac aeth y gwaith â hi i Eastcote,  a oedd wedi ei gysylltu gyda Pharc Bletchley.

Yno bu’n gweithio ar peiriannau a ddefnyddiwyd i dorri cod Enigma’r Amlaenwyr.

Ym 1988 sefydlodd Ymddiriedolaeth Elusennol Addysgol Joy Welch a derbyniodd y Brifysgol gefnogaeth reolaidd ganddi, gan adlewyrchu ei hatgofion melys o'i chyfnod yn Aberystwyth.

Cydnabuwyd ei chefnogaeth hirdymor ym 1998 pan dderbyniodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan y Brifysgol. Bu farw yn 2017.

Cyhoeddwyd y gwaddol newydd o £3.15m gan Ymddiriedolaeth Elusennol Addysgol Joy Welch heddiw, ddydd Gwener 13 Hydref, gan yr Is-Ganghellor yr Athro Elizabeth Treasure yn nathliadau blynyddol Diwrnod Sylfaenwyr y Brifysgol.

Gyda'r alwad gyntaf am geisiadau yng ngwanwyn 2024, bydd y gronfa yn darparu o leiaf 12 grant ymchwil y flwyddyn i ôl-raddedigion ac ymchwilwyr ôl-ddoethurol ar draws pob disgyblaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure; “Rydyn ni wrth ein bodd bod y berthynas barhaus hon ag un o'n cyn-fyfyrwyr wedi cefnogi ymchwilwyr ar draws disgyblaethau a’r rhengoedd ers cymaint o flynyddoedd. Bydd y gwaddol yn sicrhau bod y gefnogaeth hon yn parhau. Mewn byd lle mae rhaglenni ariannu ymchwil yn newid, gan ffafrio rhai meysydd academaidd a mathau o brosiectau ar wahanol adegau, bydd Cronfa Joy Welch yn cynnig cyfleoedd i'n holl ymchwilwyr ac felly yn gwneud gwahaniaeth gwerthfawr”.

Yn ogystal â chefnogi ymchwil ôl-raddedig ac ôl-ddoethurol, mae'r Ymddiriedolaeth hefyd wedi cyfrannu £170,000 tuag at sefydlu Ystafell Seminar Joy Welch yn yr Hen Goleg.

Ychwil wedi ei gyllido gan Ymddiriedolaeth Elusennol Addysgol Joy Welch

Dros y blynyddoedd mae’r Ymddiriedolaeth wedi rhoi dros £400,000 tuag at ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Ymhlith y rhai sydd wedi derbyn cefnogaeth yn y blynyddoedd diweddar mae Dr Otar Akanyeti o’r Adran Gyfrifiadureg, Dr Sarah Dalesman a Dr Sebastian McBride o Adran Gwyddorau Bywyd, a Dr Alice Vernon o’r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol.

Mae gwaith Dr Otar Akanyeti yn canolbwyntio ar ofal i ddioddefwyr strôc. Mae cefnogaeth gan Ymddiriedolaeth Joy Welch wedi galluogi Dr Akanyeti a'i dîm i sicrhau mwy na hanner miliwn o bunnau o gyllid allanol ac ar hyn o bryd maent yn cynnal dwy astudiaeth glinigol yn Aberystwyth a Thwrci.

Dywedodd Dr Akanyeti; "Mae'r gefnogaeth gan Ymddiriedolaeth Joy Welch dros y blynyddoedd wedi ein galluogi i sefydlu grŵp ymchwil newydd sy'n canolbwyntio ar wella llwybrau gofal strôc gan ddefnyddio technoleg a deallusrwydd artiffisial. Mae wedi ein galluogi i ddatblygu a phrofi technoleg newydd ar gyfer monitro cerddediad, ymgysylltu â chleifion strôc a'u teuluoedd, rhannu ein gwaith yng Nghynhadledd Strôc Cymru a sefydlu cydweithrediadau newydd ledled y DU ac yn rhyngwladol.”

Mae Dr Sarah Dalesman a Dr Sebastian McBride o'r Adran Gwyddorau Bywyd wedi bod yn astudio galluoedd gwybyddol cŵn a sut y gallant effeithio ar ddiogelwch a lles hyfforddiant cŵn.

Dywedodd Dr Dalesman; "Mae cyllid Joy Welch eleni wedi ein galluogi i brynu offer a chyflogi myfyriwr sydd bellach yn bwriadu dilyn gradd meistr yn y maes yma. Mae hefyd wedi arwain at gynlluniau ymchwil yn y dyfodol i astudio sut, gan ddefnyddio technegau anfewnwthiol, mae straen yn effeithio ar allu gwybyddol a pherfformiad cŵn.”

Derbyniodd Dr Alice Vernon o'r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol grant Joy Welch yn 2021-22 ar gyfer ei phrosiect 'Inner Workings: How We Understand and Imagine the Inside of the Human Body'.

Dywedodd Dr Vernon; "Roedd cefnogaeth cronfa Joy Welch yn fy ngalluogi i gynnal ymchwil archif yn Llundain am y tro cyntaf, a helpodd i ddatblygu fy sgiliau fel ymchwilydd ac awdur. O ganlyniad i'r gwaith hwn, ces i fy newis i roi darlith yng Ngŵyl y Gelli yn 2022, un o uchafbwyntiau fy ngyrfa hyd yn hyn. Hwn oedd fy llwyddiant grant cyntaf ac roedd yn ddylanwadol wrth fy annog i gyflwyno ceisiadau am ragor o gyllid. Felly, yn 2023 cafodd gwobr Cronfa Ymchwil y Brifysgol ei dyfarnu i mi, a bydda i nawr yn gwneud cais am gyllid allanol gydag Ymddiriedolaeth Leverhulme a'r Academi Brydeinig."