Cyhoeddi enillydd cyntaf Ysgoloriaeth Milfeddygaeth ‘Defi Fet’

Elan Haf Henderson

Elan Haf Henderson

25 Hydref 2023

Elan Haf Henderson o Landwrog ydy enillydd cyntaf Ysgoloriaeth ‘Defi Fet’ y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Mae’r ysgoloriaeth, sydd werth £2,500 dros gyfnod o bum mlynedd, yn cael ei rhoi i gefnogi myfyriwr sy’n astudio milfeddygaeth drwy gyfrwng y Gymraeg yn Ysgol Gwyddor Filfeddygol gyntaf Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Cafodd yr ysgoloriaeth ei sefydlu ar y cyd rhwng y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Aberystwyth er cof am filfeddyg adnabyddus ac uchel iawn ei barch o ardal Llandysul, y diweddar DGE Davies, oedd yn cael ei adnabod yn lleol fel Defi Fet. Derbyniodd y Coleg rodd hael gan ei ferch, Elaine Davies, a’i theulu i sefydlu’r cynllun a fydd yn gyfraniad at feithrin cenhedlaeth newydd o filfeddygon proffesiynol cyfrwng Cymraeg yng Nghymru.

Fel rhan o’r ysgoloriaeth newydd, bydd Elan yn gwneud dros hanner ei chyfnod o brofiad gwaith ar fferm a phrofiad clinigol drwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal â manteisio’n llawn ar y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ym mlynyddoedd 1 a 2 y cwrs yn y Brifysgol yn Aberystwyth a gefnogir gan Grant Sbarduno y Coleg Cymraeg.

Cafodd Elan ei magu yn y Dwyrain Canol ar ôl i’w rhieni symud o Landwrog i Abu Dhabi pan oedd hi’n chwe oed ar gyfer swydd ei thad. Symudodd yn ôl i Gymru i gyflawni ei TGAU a Lefel A, ac y tymor hwn dechreuodd ar ei chwrs Milfeddygaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae Elan wrth ei bodd i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg am y tro cyntaf:

“Mae’n fraint cael fy newis fel enillydd cyntaf Ysgoloriaeth ‘Defi Fet.’ Rwy’n ddiolchgar iawn i deulu DGE Davies, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Aberystwyth am sefydlu’r ysgoloriaeth sy’n rhoi cyfle i mi hyfforddi yn y maes yn fy mamiaith. Rwyf wedi byw tramor am ran helaeth o fy mhlentyndod sydd wedi atgyfnerthu fy angerdd tuag at Gymru a’r iaith Gymraeg. Rwy’n edrych ymlaen i weithio yn y gymuned fel milfeddyg trwy gyfrwng y Gymraeg yn y dyfodol.”

Meddai’r Athro Darrell Abernethy, Pennaeth Ysgol Gwyddor Filfeddygol Prifysgol Aberystwyth:

”Llongyfarchiadau lu i Elan sy’n llawn haeddu’r ysgoloriaeth o fri hon. Diolch o galon hefyd i Elaine a’r teulu am eu cefnogaeth hael er mwyn i ni allu ei chynnig. Rhan greiddiol o’n gweledigaeth ni ar gyfer Ysgol Gwyddor Filfeddygol cyntaf Cymru yma yn Aberystwyth yw Ysgol sy’n gwasanaethu anghenion Cymru. Mae myfyrwyr fel Elan yn enghraifft arbennig o bwysigrwydd yr Ysgol yn hynny o beth. Rydyn ni’n hynod o ddiolchgar i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am eu cefnogaeth i’n darpariaeth Gymraeg.

“Mae amaeth a’r diwydiannau cysylltiedig yn chwarae rhan bwysig yn economi Cymru ac mae cyfrifoldeb arnom ni i ddarparu’r bobl a’r sgiliau a fydd yn cyfrannu at sicrhau eu bod yn llwyddo am flynyddoedd i ddod. Mae’r Ysgol yn ychwanegu darn newydd hollbwysig i’r jig-so, un sy’n adeiladu gwytnwch yn yr economi wledig drwy addysg ac ymchwil mewn cyfnod o newid a heriau mawr posibl.” 

Dywedodd Dr Dylan Phillips, Uwch Reolwr Academaidd ac Ysgrifennydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:

“Ar ran y Coleg, hoffwn longyfarch Elan ar ennill ysgoloriaeth Defi Fet, a dymunwn bob llwyddiant iddi yn y dyfodol wrth iddi astudio milfeddygaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth a wedyn yn yr RVC yn Llundain. Hoffwn ddiolch yn fawr i Elaine a’i theulu am y rhodd ariannol hynod o hael er cof am ei thad, a fydd yn cefnogi Elan dros y bum mlynedd. Mae’r rhodd yn caniatáu i ni gefnogi myfyriwr bob blwyddyn am y 15 mlynedd nesaf i astudio cyfran o’u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Gyda chanran uwch o weithwyr yn medru’r Gymraeg yn y sector amaethyddol nag yn unrhyw sector arall yng Nghymru, mae’n bwysig ein bod yn meithrin graddedigion sydd â’r sgiliau addas ar gyfer gofynion y byd ffermio.”

Am fwy o wybodaeth neu i ymgeisio am Ysgoloriaeth Milfeddygaeth ‘Defi Fet’ ar gyfer blwyddyn academaidd 2024-25 ewch i wefan y Coleg. Mae’r ffenest ymgeisio yn cau ar 24 Ionawr 2024.