Academydd o Aberystwyth yn eich gwahodd ‘I Mewn i'r Tywyllwch'

09 Tachwedd 2023

Heddiw, mae academydd o Brifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi llyfr sy’n edrych ar ffenomenon naturiol tywyllwch a’r ffordd y mae’n tanio ein dychymyg.

Mae gwaith y darlithydd ysgrifennu creadigol a'r awdur o fri Dr Jacqueline Yallop, ‘Into the Dark:  What darkness is and why it matters’ yn ymdrin yn drylwyr â’n diddordeb cyntefig yn y tywyllwch, a’n hofn ohono.

Wrth edrych ar dywyllwch yn ei holl ffurfiau, mae'r llyfr yn cyfeirio at wyddoniaeth, llenyddiaeth, celf, athroniaeth a hanes wrth ystyried sut mae bodau dynol yn profi'r tywyllwch a sut mae'n ein swyno, ein drysu ac yn ein brawychu. 

Mae Yallop hefyd yn ystyried y tywyllwch trwy lygaid ei thad, a ddatblygodd ddementia a’i sylw fwy, fwy ar y tywyllwch wrth i'w fyd leihau.

Dywedodd Dr Yallop: "Ers yn blentyn, rwyf wedi cael fy nghyfareddu gan y tywyllwch - gan ein hymdrechion i'w ddal neu ei osgoi, gan yr ystyron rydyn ni'n eu rhoi iddo a'r ffordd mae ein hymennydd yn ei brosesu.   Dros y canrifoedd, craffwyd ar y cyflwr o dywyllwch a’i ddadansoddi ym meysydd celf, llenyddiaeth, ffiseg, meddygaeth, crefydd, seicoleg a seiciatreg – ac eto, mae’n parhau i fod yn ddirgelwch i ni.   Mae'n gyflwr sy’n ennyn diddordeb ac hefyd yn gwneud i ni droi i ffwrdd, mae’n absenoldeb ac yn bresenoldeb, yn gysur a bygythiad, yn ddechrau a diwedd.

"Fel bodau dynol, mae’r frwydr barhaus i gael gwared ar y tywyllwch yn ein meddiannu, â’i ddileu un golau stryd ar y tro.   Ond trwy wneud hyn, rydym yn anwybyddu pwysigrwydd y tywyllwch i'n lles.  Mae'r tywyllwch yn cynnig manteision corfforol a meddyliol unigryw i bobl ac mae'n hanfodol i weddill natur.   Rwy'n gobeithio y bydd y llyfr yn gwneud darllenwyr yn chwilfrydig am y tywyllwch ac yn codi’r awydd i brofi’r tywyllwch drostynt eu hunain - ond hefyd i'w drysori fel rhywbeth gwerthfawr a ddylid ei werthfawrogi." 

Mae Dr Jacqueline Yallop yn gweithio yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth, lle mae'n dysgu rhyddiaith ffuglennol a gweithiau ffeithiol creadigol.  Mae hi'n cymryd agwedd ryngddisgyblaethol at addysgu, gan annog myfyrwyr i ddefnyddio eu gwybodaeth am feysydd megis celf, ffilm, theatr, hanes neu natur i lywio eu gwaith fel awduron.

Cyhoeddir ‘Into the Dark:  What darkness is and why it matters’ ar 9 Tachwedd 2023 gan Icon Books.

Dr Jacqueline Yallop

Mae Dr Jacqueline Yallop yn Ddarllenydd yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, ac yn Gyfarwyddwr Canolfan Creadigrwydd a Lles y Brifysgol.

Mae hi wedi ysgrifennu tair nofel a gafodd gryn ganmoliaeth a thri o weithiau ffeithiol.   Enwebwyd ei nofel Obedience (Atlantic) ar gyfer Gwobr Man Booker.  Bu ei chofiant Big Pig Little Pig (Figtree) yn Lyfr yr Wythnos ar Radio 4.  Mae ei gwaith wedi cael ei gyfieithu i nifer o ieithoedd.

Mae Yallop bob amser wedi dangos diddordeb mewn pethau hardd, hanesyddol a hynod.  Ar ôl hyfforddi fel curadur, bu'n gweithio gyda chasgliadau ym Manceinion a Sheffield, gan gynnwys casgliad ‘Ruskin's Guild of St George’.  Roedd ei PhD yn edrych ar naratif mewn arddangosfa, amgueddfa a'r nofel yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn cynnwys, ymysg llawer o bethau eraill, fywydau ecsentrig casglwyr Fictoraidd.