Asiantaeth Ofod y DG i ariannu gwaith i ddisodli cydrannau Rwsiaidd ar grwydryn Mawrth

Dr Matt Gunn, Prif Ymchwilydd ar Enfys, y spectrometr isgoch sy’n cael ei ddatblygu ar gyfer taith ExoMars, gyda model maint llawn o grwydryn Rosalind Frankin ym Mhrifysgol Aberystwyth. Credit: Prifysgol Aberystwyth

Dr Matt Gunn, Prif Ymchwilydd ar Enfys, y spectrometr isgoch sy’n cael ei ddatblygu ar gyfer taith ExoMars, gyda model maint llawn o grwydryn Rosalind Frankin ym Mhrifysgol Aberystwyth. Credit: Prifysgol Aberystwyth

23 Tachwedd 2023

Bydd Asiantaeth Ofod y Derynas Gyfunol yn darparu £10.7 miliwn yn ychwanegol i ddisodli offeryn a wnaed yn Rwsia ar y crwydryn Rosalind Franklin, fel y gellir ei lansio i’r blaned Mawrth yn 2028.

Roedd disgwyl i’r crwydryn, a gafodd ei adeiladu gan Airbus yn Stevenage fel rhan o raglen yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd, gael ei lansio yn 2022 ond diddymwyd y cydweithio gydag asiantaeth ofod Rwsia (Roscosmos) yn dilyn yr ymosodiad anghyfreithlon ar Wcráin.

Bydd y cyllid newydd yn caniatáu i dîm o’r Deyrnas Gyfunol ddatblygu Sbectromedr Isgoch i gymryd lle’r un gafodd ei adeiladu yn Rwsia ar gyfer ExoMars (ISEM) fel y gall y daith adennill ei photensial gwyddonol llawn.

Bydd gwaith ar yr offeryn newydd, Enfys, yn cael ei arwain gan Brifysgol Aberystwyth gyda chefnogaeth gan UCL, STFC RAL Space a Qioptiq Ltd.

Bydd Enfys yn nodi targedau ar wyneb y blaned Mawrth i'w samplu a'u dadansoddi, gan adeiladu ar ddarganfyddiadau gwyddonol taith y crwydryn ar y blaned Mawrth.

Bydd Enfys a PanCam, system gamerâu'r daith sy'n cael ei arwain gan Labordy Gwyddoniaeth Ofod Mullard (MSSL) yn UCL, yn cydweithio i adnabod mwynau a allai gynnwys tystiolaeth o fywyd. Byddant yn galluogi'r crwydryn i ddrilio am samplau i'w dadansoddi gan yr offerynnau eraill sydd arno.

Mae’r £10.7 miliwn yn dod â chyfanswm buddsoddiad Asiantaeth Ofod y Deyrnas Gyfunol yn y crwydryn Rosalind Franklin i £377 miliwn.

Dywedodd Dr Matt Gunn o Brifysgol Aberystwyth, Prif Ymchwilydd ar Enfys:

“Mae hon yn her dechnegol gymhleth sydd â'r potensial i wneud cyfraniad sylweddol at ein gwaith o chwilio am arwyddion o fywyd ar y blaned Mawrth. Mae tîm yr offeryn, yma yn Aberystwyth ac yn y sefydliadau partner i gyd yn edrych ymlaen yn fawr at dderbyn mesuriadau o wyneb y blaned er mwyn ehangu ein gwybodaeth am amgylchedd y blaned Mawrth. Rydyn ni wedi dysgu llawer wrth ddatblygu a phrofi PanCam ac mae’n fraint cael arwain y tîm gwych o bobl a fydd yn rhoi’r wybodaeth honno ar waith unwaith eto i ddatblygu offeryn newydd ar gyfer y daith.

“Mae’r gofod a’r technolegau sy’n cael eu defnyddio i’w archwilio wedi fy swyno erioed, ac felly mae arwain datblygiad un o offerynnau gwyddoniaeth allweddol y daith hon yn destun cryn gyffro i mi. Mae’r buddsoddiad hwn gan Asiantaeth Ofod y Deyrnas Gyfunol hefyd yn gymeradwyaeth enfawr o ansawdd ymchwil y gofod yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, a fydd yn effeithio ar ein byd ac eraill am genedlaethau i ddod.”

Dywedodd Dr Paul Bate, Prif Weithredwr Asiantaeth Ofod y Deyrnas Gyfunol:

“Mae’r crwydryn Rosalind Franklin, sydd wedi’i adeiladu yn y Deyrnas Gyfunol, yn ddarn o dechnoleg sydd ar flaen y gad ym maes archwilio’r gofod. Mae’n wych bod arbenigwyr o’r Deyrnas Gyfunol hefyd yn gallu darparu offeryn allweddol ar gyfer y daith hon, gan ddefnyddio cyllid Asiantaeth Ofod y Deyrnas Gyfunol.

“Yn ogystal â hybu technoleg y gofod o’r radd flaenaf yn y Deyrnas Gyfunol i wella ein dealltwriaeth o’r blaned Mawrth a’i photensial i gynnal bywyd, bydd y cyllid ychwanegol hwn yn cryfhau cydweithio ar draws sector ac economi gofod y Deyrnas Gyfunol sy’n tyfu’n gyflym.”

Dywedodd Orson Sutherland, Arweinydd Grŵp Archwilio Mawrth yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd:

“Gydag Enfys ar ei fwrdd, mae’r crwydryn Rosalind Franklin yn adennill ei allu’n llawn i gyflawni tasgau gwyddonol taith ExoMars. Bydd yr offeryn yn darparu data gwyddonol allweddol gan weithio mewn synergy llawn â gweddill yr offer ar fwrdd y crwydryn.”

Dywedodd Jorge Vago, Gwyddonydd Prosiect ExoMars yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd:

“Rydyn ni’n hapus iawn i roi’r offeryn gwyddonol allweddol hwn ar waith, mae’n angenrheidiol ar gyfer adnabod y targedau mwyaf diddorol i Rosalind Franklin ymchwilio iddyn nhw. Mi fydd data Is-Goch Enfys yn ein galluogi i bennu cyfansoddiad mwynau. Mae'r wybodaeth hon yn ategu ac yn cwblhau'r wybodaeth weledol a gawn o ddelweddau PanCam. Bydd y ddau offeryn yn gweithio ochr yn ochr.”

Dywedodd yr Athro Andrew Coates o UCL-MSSL, Prif Ymchwilydd PanCam ar Rosalind Franklin:

“Mae’n gyffrous gwella gallu gwyddonol camerâu gweladwy ongl eang a chydraniad uchel PanCam gyda gallu Enfys i adnabod mwynau yn yr isgoch. Mae’n tîm yn falch iawn o gymhwyso profiad PanCam at Enfys, ar gyfer yr amgylchedd heriol ar wyneb y blaned Mawrth. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gydweithio ar y wyddoniaeth gydag Enfys.”

Mae gwaith y Deyrnas Gyfunol ar offerynnau eraill yn cynnwys Prifysgol Caerlŷr, Prifysgol Bradford a Labordy STFC Rutherford Appleton fel cyfrannwyr allweddol yn natblygiad y camera CCD ar y Spectrometr Laser Raman (Raman LIBS), a all ganfod presenoldeb cyfansoddion cemegol gan gynnwys mwynau a hefyd mathau penodol o farciwyr biolegol – cemegau sy'n arwydd o fywyd yn y gorffennol neu'r presennol – a gynhyrchir gan ficro-organebau cyntefig i'w galluogi i addasu i fywyd mewn amgylcheddau eithafol.

Daw’r cyhoeddiad ar ddiwrnod olaf Cynhadledd Ofod y Deyrnas Gyfunol sy’n cael ei chynnal rhwng 21 a 23 Tachwedd, yn ICC Belfast, llwyfan byd-eang i arloeswyr gofod, llywodraethau, diwydiant a’r byd academaidd ddod at ei gilydd a siapio dyfodol y gofod.