Y Corrach ar y Silff – y ‘poltergeist heglog Nadoligaidd'

Llun: Misty Ladd, Unsplash

Llun: Misty Ladd, Unsplash

18 Rhagfyr 2023

Gan Dr Alice Vernon, Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

Mae Helen yn 10 oed; mae’n deffro un bore o Ragfyr i weld bod ei drôr sanau wedi’i agor a bod y cynnwys wedi’i wasgaru ar hyd llawr ei llofft. Lawr y grisiau, mae ei brawd yn agor drws y gegin a gweld y gair ‘Behafiwch” wedi’i ysgrifennu’n fygythiol â Skittles ar fwrdd y gegin.

Mae’n swnio fel petai poltergeist ar grwydr yn y tŷ. Ond y gwir yw bod anfadwaith llawer mwy arswydus na rhyw dipyn ysbryd; y sawl sy’n gyfrifol am aflonyddu ar y plant hyn yw’r Corrach ar y Silff.

Yn deillio o lyfr a ysgrifennwyd gan Carol Aebersold a’i merch, a gyhoeddwyd yn 2005, mae’r Corrach ar y Silff wedi sleifio o’r Unol Daleithiau i aelwydydd ym Mhrydain yn y blynyddoedd diweddar, yn sgil ei boblogrwydd ar y cyfryngau cymdeithasol. (Ac yn y Gymraeg mae sawl enw arno, gan gynnwys y Corrach Smonach a Wilff ar y Silff.) Ar y cychwyn, byddai rhieni’n prynu dol corrach i gadw llygad ar ymddygiad eu plant, ond mae’r arfer wedi esblygu nes bod y corrach erbyn hyn i’w gael rywle newydd bob bore, wedi’i ddal ar ganol gwneud rhywbeth gwirion neu, yn eironig, yn cyflawni rhyw ddrygioni. O sgrolio drwy bostiadau ar Instagram fe welwch corachod â blawd drostynt i gyd mewn powlen gymysgu, yn gwneud ‘angel eira’ ar wely o bys, yn bwyta grawnfwyd brecwast allan o esgid, neu wedi’u dal wrthi’n crafu eu pen ôl â brws dannedd plentyn. Mae un peth yn amlwg yn absennol yn y rhan fwyaf o’r lluniau hyn: y silff. Nid yw’r Corrach ar y Silff bellach; mae wedi esblygu’n boltergeist heglog Nadoligaidd.

Er mai ‘ysbryd swnllyd’ yw ystyr ‘poltergeist’, nid yw paraseicoleg fodern ac ymchwil seicig yn cydnabod y ffenomen fel ysbryd o gwbl. Nid ysbryd unigolyn marw mo’r poltergeist, ond yn hytrach mae’n rym sy’n poenydio ac sydd wedi’i wreiddio mewn lleoliad neu’i glymu wrth unigolyn penodol.  Yn fwy penodol, mae ynghlwm – fel y Corrach ar y Silff – wrth blentyn. Er enghraifft, fe wnaeth y poltergeist Sauchie ymgysylltu â Virginia Campbell, merch 11-oed yng nghefn gwlad yr Alban yng ngaeaf 1960. Symudai’r celfi yn ei llofft, fe wnaeth ei chlustog ei throi ei hun o dan ben y ferch, ac fe glywid synau cnocio rhyfedd drwy’r tŷ i gyd. Personoleiddiwyd y ffenomen hon gan Virginia, a roes yr enw ‘Wee Hughie’ arni. Ysgrifennodd yr ymchwilydd seicig A.R.G. Owen, a archwiliodd yr achos, yn ei lyfr ‘Can We Explain the Poltergeist?’ (1964) fod Virginia wedi symud i Sauchie yn ddiweddar, ac wedi dechrau mewn ysgol newydd, ac er ei bod hi’n gorfforol iach, roedd hi’n amlwg yn swil, yn bryderus ac yn unig. Er na chredai fod Virginia yn ffugio’r ffenomena—sef yr hyn sy’n digwydd mewn cynifer o achosion o boltergeisitiad—fe  gyfaddefodd ef eu bod “yn rhannol yn yr isymwybod wedi’u cymell fel dulliau o ddenu sylw.” Diflannodd Wee Hughie wrth i Virginia ddod yn fwy cyfforddus yn ei chartref a’i hysgol newydd.

Ond erbyn hyn yr oedolion, nid y plant, sy’n efelychu ffenomena poltergeistiaid drwy gyfrwng y Corrach ar y Silff. Dywedir wrth blant am beidio â chyffwrdd â’r corrach yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig, rhag ofn iddo golli ei hud a’i ledrith. Er mai annog plant i fod yn dda yw diben y peth, mae mwyfwy o bwysau i’w gweld ar y rheini a’r gwarcheidwaid i ddyfeisio mwyfwy o gampweithiau ffwlbri. Ar ben hynny, ymddengys fod rhyw awydd i’w cofnodi ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn eu cymharu â champau corachod teuluoedd eraill. Os dechreuwch, hyd yn oed, deipio ‘Elf on the Shelf’ i Google, mae’r chwiliadur yn syth yn cynnig rhyw amrywiadau ar ‘syniadau’, ‘syniadau doniol’ ‘syniadau UK’ – sy’n awgrymu rhyw deimladau o bryder a phwysau i ddod o hyd i rywbeth gwell na’r hyn a wnaed y diwrnod cynt. Mae’n swnio’n ofnadwy o debyg i achos drwgenwog Mrs Forbes, neu Alma Fielding fel y’i gwelwid hefyd, yn y 1940au; ymddangosai fel petai’r fenyw honno’n cael ei phlagio gan y gweithgareddau dinistriol ac annaearol sy’n effeithio ar blant fel arfer. Yn wahanol i Virginia, yn y pen draw fe ddarganfuwyd bod Mrs Forbes wedi ffugio’r digwyddiadau. Archwiliwyd achos Mrs Forbes gan y seicdreiddiwr o Hwngari, Nandor Fodor, ac fe ddaeth ef i’r casgliad bod Mrs Forbes yn fenyw â phroblemau, a bod trawma yn ei phlentyndod, afiechyd, a phriodas ddigyffro wedi effeithio arni. Soseri’n chwalu o’u pen a’u pastwn eu hun, drysau’n cau’n glep, a chlociau’n hedfan drwy’r awyr oedd dechrau’r ffenomena. Swynwyd Fodor gan yr achos, ac fe dreuliai lawer o amser yng nghwmni Mrs Forbes, yn dyst i’r digwyddiadau ac yn eu cofnodi. Yn ‘On the Trail of the Poltergeist’ (1958), gwelwn sut y “datblygodd” y poltergeist wrth i Fodor roi sylw i Mrs Forbes a’i gwahodd i gyfarfod ag ymchwilwyr seicig niferus eraill ac i fod yn destun archwiliadau ganddyn nhw. Erbyn hyn nid oedd pethau’n ymsymud o gwmpas y tŷ yn creu’r un argraff, ac fe ddechreuodd Mrs Forbes fod yn fwy uchelgeisiol, gan wneud i bethau rhyfedd ymddangos: blodau, crwban ddŵr ac aderyn cwyrbig. Aeth yr hyn a ddechreuodd yn ddull o gael rhyddhad emosiynol o dan gysgod pwysau’r angen i gyflawni campau paranormal mwyfwy gwyrthiol er mwyn ceisio cadw sylw ei chyfeillion newydd.

Efallai nad yw seicoleg y Corrach ar y Silff mor gymhleth a thywyll ag achosion poltergeistiaid, ond mae elfennau tebyg amlwg. Mae’r ddau yn cynnig cyfle i fod yn ddrygionus heb gymryd cyfrifoldeb, ond mae’r “traddodiad” Nadoligaidd newydd yn dilyn llwybr yn fwyfwy tebyg i’r poltergeist drwy ‘berfformio’ i ennyn sylw ac edmygedd pobl eraill. Os nad ydym am weld y Corrach yn meithrin cysylltiadau seicolegol mwy tywyll, fel rhai’r poltergeist, efallai y byddai’n well ei roi yn ôl ar y Silff.