Twyll Nadoligaidd - nid yw’n ŵyl lawen bob amser

Yr Hen Goleg yn yr eira

Yr Hen Goleg yn yr eira

28 Rhagfyr 2023

Gan Dr Gareth Norris ac Alexandra Brookes, yr Adran Seicoleg

Mae twyll yn weithgaredd tymhorol: o sgamiau treth ar ddiwedd y flwyddyn ariannol i wefannau gwyliau ffug yn yr haf, mae troseddwyr yn ceisio manteisio ar ein hymwneud cylchol â rhai gweithgareddau.

Mae’r Nadolig yn gyfnod arbennig o broffidiol ar gyfer twyll ar-lein, wrth i droseddwyr geisio manteisio ar nodweddion yr ŵyl - mwy o wariant, mwy o weithgarwch ar-lein a thueddiadau emosiynol. Mae'r potensial ar gyfer enillion ariannol uwch yn cymell seiberdroseddwyr i ddwysau eu hymdrechion i weithredu cynlluniau twyll fel dwyn hunaniaeth, twyll cardiau credyd, a sgamiau elusen ffug. Gallai deall sut a pham y mae cynnydd nodedig mewn twyll ar-lein yr adeg hon o’r flwyddyn ein helpu i osgoi Nadolig wedi’i lygru gan weithgarwch troseddol.

Mae tymor yr ŵyl yn gweld ymchwydd sylweddol mewn siopa ar-lein wrth i bobl brynu anrhegion, addurniadau ac eitemau eraill i baratoi ar gyfer y dathliadau. Mae seiberdroseddwyr yn manteisio ar y cynnydd yn nifer y trafodion ariannol - y rhuthr i brynu anrhegion a pharatoadau gwyliau yn tynnu’r sylw - er mwyn twyllo defnyddwyr diniwed i rannu gwybodaeth bersonol neu wneud pryniannau twyllodrus - trwy dactegau fel gwefannau ffug, e-byst gwe-rwydo, hysbysebion camarweiniol, hyrwyddiadau ffug a nwyddau ffug, neu gynhyrchion nad ydyn nhw’n bodoli.

Ar ryw lefel, mae ymddygiad twyllodrus yn mynd yn groes i ethos cyffredinol y Nadolig ac nid yw’r syniad o weithgarwch troseddol yn cyd-fynd yn dda â’r mwynhad a’r anhunanoldeb sy’n gysylltiedig â’r dathliadau. Fodd bynnag, gall anghyseinedd gwybyddol - amharodrwydd bodau dynol i arddel safbwyntiau croes - greu amgylchiadau delfrydol ar gyfer ecsbloetio ariannol. Mae ymchwil emosiynol yn awgrymu tuedd ynddon ni i leddfu hwyliau drwg gyda newyddion da (‘gostyngiad pris o 50%’), tra bydd pobl mewn hwyliau da yn cael eu cymell i brosesu negeseuon sy’n codi’r galon ac osgoi rhai digalon (‘nid ydym wedi gallu dosbarthu eich pecyn') neu wybodaeth negyddol [go iawn] ('mae eich cyfrif ar-lein wedi'i beryglu'). Mae seiberdroseddwyr yn manteisio ar y sbardunau emosiynol hyn ac eraill sy’n gysylltiedig â’r Nadolig, megis anhunanoldeb a haelioni, er mwyn dylanwadu ar unigolion i gyfrannu at elusennau ffug neu gyfrannu at achosion twyllodrus, er mwyn cael arian neu wybodaeth sensitif. Efallai y bydd pobl hefyd yn llai trylwyr ynghylch mesurau seiberddiogelwch dros gyfnod y Nadolig wrth iddynt gymryd gwyliau blynyddol neu dreulio amser gyda’u teulu. Efallai y byddant yn craffu llai ar weithgareddau ar-lein, yn lleihau eu gwyliadwriaeth rhag bygythiadau ar-lein posibl, gan eu gwneud yn fwy agored i dwyll.

Yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig, mae llawer o fanwerthwyr yn cynnig bargeinion unigryw a chynigion cyfnod cyfyngedig i ddenu cwsmeriaid, gan ddechrau yn aml o gwmpas ‘Dydd Gwener Du’ ddiwedd mis Tachwedd. Gall y brys hwn i fanteisio ar ostyngiadau neu fargeinion arbennig arwain pobl i glicio ar ddolenni anghyfarwydd yn gyflym neu brynu o ffynonellau heb eu gwirio, gan agor eu hunain i dwyll.

Mae cardiau rhodd hefyd yn ddewis poblogaidd ar gyfer anrhegion yn ystod yr ŵyl ac mae seiberdroseddwyr yn manteisio ar hyn trwy gynnig bargeinion cardiau rhodd ffug neu anfon e-byst gwe-rwydo yn honni eu bod yn cynnig cardiau rhodd, gan arwain derbynwyr i ddatgelu gwybodaeth bersonol neu wneud taliadau i ffynonellau twyllodrus.

Mae gwefannau twyllodrus neu asiantaethau teithio ffug a allai dwyllo defnyddwyr i wneud taliadau am wasanaethau nad ydynt yn bodoli neu wasanaethau is-safonol yn ffynhonnell gynyddol o sgamiau. Gyda chynnydd naturiol yn y galw a chost teithio yn ystod y gwyliau, mae prinder yn gwneud pobl yn fwy agored i dwyll sy'n gysylltiedig ag archebu llety, hediadau neu becynnau gwyliau. Mae hyd yn oed hysbysebion Nadolig poblogaidd am aduniadau teuluol yn cyfrannu at y syniad bod yr ŵyl yn gyfle unigryw i gwrdd a allai arwain yn y pen draw at golledion ariannol mawr.

Mae'r ymchwydd mewn twyll ar-lein yn ystod y Nadolig yn ganlyniad i nifer o ffactorau yn dod at ei gilydd ar yr un pryd. Mae ymwybyddiaeth ac addysg ynghylch cynlluniau twyll cyffredin a phwyllo cyn prynu neu drosglwyddo arian ar-lein, megis y dull “Take 5” (www.takefive-stopfraud.org.uk) yn hanfodol er mwyn osgoi dioddef o dwyll. Mae gwirio ffynonellau bob amser, gan ddefnyddio dulliau talu diogel a sefydledig yn unig, a diweddaru mesurau seiberddiogelwch yn hanfodol i liniaru'r risgiau sy'n gysylltiedig â thwyll ar-lein yn ystod y tymor gwyliau. Gall mwy o wyliadwriaeth a chwestiynu gweithgareddau ar-lein leihau'n sylweddol y tebygolrwydd o ddioddef twyll, gan sicrhau profiad gwyliau mwy diogel a sicr i ddefnyddwyr.

Yn anffodus, mae’r hen ddywediad ‘nid aur yw popeth melyn’ yn dal yn berthnasol hyd yn oed wrth i ni fwynhau dathliadau’r Nadolig!

Mae Dr Gareth Norris yn uwch ddarlithydd mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn uwch gymrawd yr HE Academy ac yn aelod o fwrdd golygyddol y cyfnodolyn, Personality and Individual Differences. Mae ymchwil ei gyd-ddarlithydd Seicoleg o Aberystwyth, Alexandra Brookes, yn canolbwyntio ar erlid ac atal twyll ar-lein; mae hi ar hyn o bryd yn defnyddio technoleg tracio llygaid i ddeall yn well penderfyniadau pobl wrth iddyn nhw ddioddef o dwyll ar-lein.