Rhaglenni Teledu Nadolig Cyfareddol y 1930au

Pantomeim BBC, Dick Whittington, Rhagfyr 1937. Credyd: Alexandra Palace Television Society Archive

Pantomeim BBC, Dick Whittington, Rhagfyr 1937. Credyd: Alexandra Palace Television Society Archive

26 Rhagfyr 2023

Mae Jamie Medhurst, Athro Ffilm a'r Cyfryngau yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn edrych yn ôl ar y traddodiad hir o raglenni teledu Nadoligaidd arbennig:

Fel teuluoedd di-ri ledled y Deyrnas Unedig, mae dyfodiad rhifyn dwbl y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd o'r Radio Times yn peri cyffro mawr yng nghartref Medhurst. Er bod ein ffordd o wylio'r teledu wedi newid y tu hwnt i adnabyddiaeth dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r arfer o ddarlledu rhaglenni teledu arbennig yn ystod cyfnod y Nadolig wedi bod yn digwydd ers dros 90 mlynedd.

Darlledwyd un o'r rhaglenni teledu Nadolig cyntaf ar Noswyl y Nadolig 1931. Roedd gan y BBC gytundeb gyda Chwmni Teledu Baird ym mis Medi 1929 i ddarlledu cynhyrchiadau arbrofol gan gwmni John Logie Baird gyda throsglwyddyddion y BBC. Roedd y rhaglen yn cynnwys y diddanwr Nat Lewis fel Joey the Clown, Rupert Harvey oedd yn dylunio cartwnau pantomeim, ac Eve Fulton a Varna Glenstrom fel Columbine a Harlequin. Byddai'r rhaglen wedi bod ar deledu 30 llinell diffiniad isel a dim ond llond llaw o selogion teledu fyddai wedi ei gweld ar sgriniau bach iawn. Serch hynny, roedd yn ddechrau rhywbeth a dyfodd ac a ddatblygodd o hynny ymlaen.

Erbyn diwedd 1932, roedd y BBC wedi bod yn rhedeg ei wasanaeth teledu 30 llinell ei hun am bedwar mis a gwelwyd mwy o raglenni Nadolig ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno. Ar y 9fed o Ragfyr, ymddangosodd Harry Hemsley, digrifwr neuadd gerddoriaeth a radio Saesneg, ar y teledu fel Siôn Corn, a dangosodd deganau Nadolig o brif siopau Llundain i Winnie, Johnnie ac Elsie (ei blant ar y sgrin). Enghraifft gynnar o osod cynnyrch a rhoi cyhoeddusrwydd am ddim i siopau Llundain o bosib? Yna ar 27ain o Ragfyr, darlledodd y BBC sioe bypedau, ‘Robinson Crusoe’ a berfformiwyd gan bypedau Pantopuck Alexis Philpott.

Agorodd gwasanaeth teledu cyhoeddus diffiniad uchel cyntaf y byd ym mis Tachwedd 1936 yn stiwdios y BBC ym Alexandra Palace yng ngogledd Llundain. Roedd y gwasanaeth yn cyrraedd y bobl oedd ddigon ffodus i fod â set deledu o fewn cwmpas 30 milltir i drosglwyddydd Alexandra Palace.  Y Nadolig hwnnw, darlledwyd Darlith Nadolig y Sefydliad Brenhinol am y tro cyntaf ar y teledu. Roedd y disgrifiad yn y Radio Times yn darllen: ‘The Royal Institution lectures are a feature of the children’s Christmas holidays.  This year they are about ships.  G.I. Taylor, M.A., F.R.S., M.R.I., Yarrow Research Professor of the Royal Society, will give a talk and demonstration with actual experiments and models, on the stabilisation of ships and why they roll in a rough sea.’ Ac maen nhw'n parhau hyd heddiw, wrth gwrs.

Ar Noswyl y Nadolig 1936 darlledwyd Old Time Music Hall Christmas Party (a ddangoswyd yn fyw yn y prynhawn ac a ailadroddwyd wedyn am 9.30pm – nid oedd cyfleusterau recordio’n bodoli ar y pryd felly roedd ailadrodd rhaglenni yn golygu bod yn rhaid i'r actorion a'r tîm cynhyrchu ddod yn ôl i'r stiwdio i berfformio eto). Ar brynhawn Noswyl y Nadolig hefyd gwelwyd Harry Hemsley yn dychwelyd i chwarae rhan Siôn Corn, yn rhoi anrhegion i blant wrth goeden Nadolig.

Dechreuodd rhaglenni teledu dydd Nadolig 1936 am 3pm, nid gydag Araith y Brenin, ond gydag arddangosiad o sut i gerfio twrci Nadolig gan y cogydd B. J. Hulbert. Darlledu gwasanaeth cyhoeddus ar ei orau! Dilynwyd hyn gan rifyn tymhorol o'r rhaglen gylchgrawn boblogaidd Picture Page lle rhoddodd y fforiwr, Edward Shackleton sgwrs ar ‘A lonely Christmas in the Arctic‘ - dydw i ddim yn siŵr pa mor galonogol oedd y sgwrs hon, ond … Dechreuodd adloniant y noson am 9pm gyda charolau Nadolig gan ‘The Singing Boys from St. Mary-of-the-Angels Song School'. Dilynwyd hyn gan A Seasonal Tour through the Empire (a ddisgrifiwyd gan y Radio Times felA film showing various parts of the Empire at this season'). Am 9.25pm, darlledwyd rhaglen Some Unusual Christmases. Cafodd ei chyflwyno gan yr Is-gapten A. B. Campbell. Roedd y rhaglen yn edrych ar y Nadolig yn y Gogledd Rhewllyd, yn Melbourne ac, yn rhyfedd iawn, ar long ysgubo ffrwydron. Daeth y noson i ben gyda Television Party, ‘Distinguished artists from the stage and screen will be the guests of the BBC’, gan gynnwys Flanagan ac Allen a'r dawnswyr, y Buddy Bradley Girls. Rwy'n credu mai hwn oedd prototeip y rhaglenni hynny oedd yn cael eu cyflwyno gan Val Doonican a'i debyg rydw i'n eu cofio fel plentyn yn y 1970au.

Gwelwyd patrwm tebyg o raglenni dros y Nadoligau a ddaeth ar ôl y flwyddyn gyntaf honno. Darlledwyd y pantomeim teledu cyntaf, ‘Dick Whittington and his Cat’ ar 27 Rhagfyr 1937. George Benson oedd yn chwarae rhan Henadur Fitzwarren, Cyril Fletcher (o That's Life yn ddiweddarach) fel Ymerawdwr Moroco a Queenie Leonard yn y brif ran. Cafodd y cynhyrchiad cyfan ei ailadrodd ar Ddydd Calan 1938. Roedd uchafbwyntiau eraill Dydd Nadolig 1937 yn cynnwys Polite Wine Drinking lle'r oedd y cogydd Marcel Boulestin yn trafod gyda Nesta Sawyer ‘some of the characteristics of good wines and the ways in which they should be served'. Gellir dweud pwy oedd cynulleidfa darged y rhaglen  – y rhai a allai fforddio set deledu! Darlledwyd Araith y Brenin hefyd ar Ddydd Nadolig ond dim ond y sain, darllediad byw o Raglen Genedlaethol y BBC ar y radio.

Pantomeim BBC, Dick Whittington, Rhagfyr 1937. Credyd: Alexandra Palace Television Society Archive

Erbyn 1938, roedd y rhaglennu ychydig yn fwy mentrus gyda pherfformiad ‘Babes in Wood’ yn cael ei ddarlledu'n fyw o'r Theatre Royal yn Rury Lane ar 21 Rhagfyr ac, ar Ddydd Nadolig, parti plant yn fyw o Ward Plant Ysbyty St George, Hyde Park Corner.

Ni chafwyd rhaglennu teledu Nadoligaidd ym 1939. Daeth y gwasanaeth teledu i ben ar ddechrau'r rhyfel ym mis Medi 1939, ond pan ddaeth yn ôl ym 1946, sicrhawyd fod parti Nadolig i blant yn cael ei ddarlledu'n fyw o Alexandra Palace ar Ddydd San Steffan.

Erbyn diwedd y 1930au amcangyfrifwyd bod 20,000 o setiau teledu ym Mhrydain.  Nawr mae o leiaf un teledu mewn 27.3 miliwn cartref yn y Deyrnas Unedig. Felly, wrth i chi rannu'r twb o siocledi a setlo i fwynhau gwledd deledol y Nadolig eleni, cofiwch fod hwn yn hen draddodiad.