Ydy te gwyrdd yn gallu atal clefydau mewn pobl hŷn? Prosiect ymchwil

Prawf EEG yn Adran Seicoleg Prifysgol Aberystwyth.

Prawf EEG yn Adran Seicoleg Prifysgol Aberystwyth.

25 Ionawr 2024

Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn profi sut y gall maetholion mewn te gwyrdd effeithio ar afiechydon sy’n gysylltiedig â heneiddio drwy fonitro gweithgaredd ymennydd pobl.

Bydd yr arbenigwyr bwyd ac ymddygiad yn profi a yw atchwanegiadau sy’n cynnwys blendiau naturiol o ginseng ac olewau omega yn gallu gwella iechyd pobl.

Wrth i ni heneiddio mae ein corff yn mynd yn llai abl i brosesu maetholion o’n diet ac mae hyn yn cyfrannu at rai o’r anawsterau iechyd y gallwn ni eu profi wrth i ni heneiddio.

Mae newidiadau i’n cyrff wrth i ni heneiddio yn cynnwys trafferthion treulio bwyd sydd, yn eu tro, yn gallu ein gwneud yn fwy agored i glefydau, gan gynnwys diabetes a chlefyd cardiofasgwlaidd, ond dirywiad gwybyddol yn ogystal.

Mae’r astudiaeth yn defnyddio’r cyfleuster EEG (Electroenceffalogram) yn Adran Seicoleg y Brifysgol i fesur a oes unrhyw berthynas rhwng sut mae’r perfedd yn gweithio a gweithgaredd yr ymennydd – y cof yn yr achos hwn ac agweddau amrywiol ar brosesu gwybodaeth.

Dywedodd Dr Amanda Lloyd o Brifysgol Aberystwyth:

“Mae gwella iechyd pobl hŷn yn ffocws mawr i lawer o’n gwaith dietegol, iechyd a bwyd y dyfodol yma yn Aberystwyth. Rydyn ni’n gwybod y gall diet wneud gwahaniaeth mawr o ran gwella lles pobl, lleihau salwch ac, yn ei dro, leihau'r pwysau ar ein gwasanaeth iechyd. Dyna pam mae'r math hwn o ymchwil mor bwysig.

“Mae hwn yn brosiect hynod ddiddorol a allai fod o fudd sylweddol i bobl hŷn, yn ogystal â lleihau’r baich ar y gwasanaeth iechyd. Rydyn ni'n gwybod y gall cynhyrchion penodol wella'r berthynas rhwng y perfedd a'r ymennydd. Ond bydd yr astudiaeth hon yn edrych a oes gan y cynhyrchion hyn fudd iechyd cyffredinol. Rydym yn bwriadu astudio’r newidiadau mewn gwybyddiaeth a marcwyr llid, mewn carfan o bobl hŷn sy’n cymryd yr atchwanegiadau hyn yn eu diet dros gyfnod o 30 diwrnod.”

Ychwanegodd yr Athro Nigel Holt, Pennaeth yr Adran Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Mae’r berthynas perfedd-ymennydd wedi cael cryn dipyn o sylw yn ddiweddar, ac fe welwch chi bob math o bethau mewn siopau a’r wasg am probiotegau ac atchwanegiadau bwyd. Mae gennym ni ddiddordeb mewn gwerthuso hyn, a thechnegau arloesol i’n galluogi i weithio ar draws disgyblaethau i ddod o hyd i’r atebion mwyaf cywir y gallwn ni. Rydyn ni i gyd yn gwybod bod bwyta'n iawn yn ein helpu’n gorfforol, ac rydyn ni nawr yn edrych ar sut y gallai atchwanegiadau ein helpu'n wybyddol.”

Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng Prifysgol Aberystwyth, y cwmni Agroceutical Products Cyf o Gymru, Neurodyn Life Sciences Inc yng Nghanada, a PostBiotics Inc o’r Unol Daleithiau. Ariennir yr ymchwil drwy gystadleuaeth Gwell Bwyd i Bawb Innovate UK.

Y cynhyrchion a gaiff eu profi fel rhan o'r astudiaeth fydd Cerbella, fformiwleiddiad naturiol sy'n seiliedig ar gynnyrch a ddatblygwyd gan Neurodyn Life Sciences sy'n cyfuno cydrannau penodol o ginseng, te gwyrdd, ac asidau brasterog hanfodol, ac atodiad dietegol Postbiotics Inc POZIBIO sy'n gwella gweithrediad y llwybr gastroberfeddol.