Gallai hyfforddiant arogli wneud i gŵn anwes ymddwyn yn well – astudiaeth Prifysgol Aberystwyth

Ci yn derbyn hyfforddiant arogli. Hawlfraint: Nick Lynch (Ten77 Dog Photography)

Ci yn derbyn hyfforddiant arogli. Hawlfraint: Nick Lynch (Ten77 Dog Photography)

29 Ionawr 2024

Gallai hyfforddiant arogli wneud cŵn anwes ymddwyn yn well, yn ôl astudiaeth newydd gan academyddion o Brifysgol Aberystwyth.

Mae'r ymchwil yn awgrymu bod cŵn anwes sydd wedi'u hyfforddi i ganfod arogleuon yn meddu ar allu meddyliol gwell ac yn fwy abl i gyflawni rhai tasgau.

Mae’n hysbys bod hyfforddiant yn gwella gallu cŵn i ddatrys tasgau gwybyddol. Ond mae ymchwil blaenorol wedi canolbwyntio ar gymharu cŵn gwaith sydd wedi’u hyfforddi’n helaeth, fel rhai chwilio ac achub neu gŵn cymorth, gydag anifeiliaid anwes heb eu hyfforddi.

Mae’r astudiaeth gan ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth, mewn cydweithrediad ag Emma Stoker, perchennog Puppy Plus yn y Drenewydd, yn awgrymu y gall hyd yn oed hyfforddi cŵn anwes newid sut mae ein cŵn yn ymdopi â thasgau gwybyddol.

Profodd y tîm yr anifeiliaid, a oedd wedi cael eu hyfforddi i raddau amrywiol, gyda dwy dasg yn gofyn i’r anifeiliaid reoli eu teimladau.

Un oedd prawf i osgoi rhwystr tryloyw i gael bwyd, a elwir yn ‘dasg ddargyfeirio’. Roedd y ‘tasg A nid B’ arall yn gofyn i’r cŵn allu newid eu dewis o un pot i’r llall, yn dibynnu ar ble roedd bwyd yn cael ei roi.

Canfu'r astudiaeth, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Animals, fod cŵn a hyfforddwyd mewn gwaith arogli yn perfformio'n well yn y tasgau hyn na'r rhai nad oeddent. Mae’r ymchwil newydd yn dangos y gall hyfforddiant arogli wella gallu cŵn i osgoi ymddwyn yn fyrbwyll er mwyn cwblhau tasg benodol.

Dangoswyd bod y gallu hwn, a elwir yn reolaeth ataliol, yn gwella sgiliau cŵn i ddatrys problemau.

Yn bwysig iawn i berchnogion anifeiliaid anwes, credir mai rheolaeth ysgogol wael yw achos llawer o ymddygiadau digroeso mewn cŵn, megis ymddygiad dinistriol a mynd i’r toiled yn amhriodol. Felly, mae’r canfyddiadau newydd yn awgrymu y gallai hyfforddiant arogli fod yn ffordd i berchnogion wella ymddygiad eu cŵn.

Mae’r prosiect yn rhan o raglen addysgu ôl-raddedig Meistr trwy Ymchwil Gwyddor Anifeiliaid (MRes) ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Dywedodd Dr Sarah Dalesman, a gyd-oruchwyliodd y prosiect:

“Rydyn ni’n genedl sy’n caru cŵn ac anifeiliaid, ac am reswm da. Maen nhw’n bwysig iawn i'n bywydau ac yn chwarae amrywiaeth o rolau - o gynnig cwmnïaeth hanfodol i weithio yn y gwasanaethau brys. Am y rhesymau hynny a llawer o resymau eraill, mae'n bwysig deall eu hymddygiad a'r hyn sy'n dylanwadu arno.

“Mae’r ymchwil hwn yn dangos bod gan gŵn sy’n hyfforddi’n bennaf mewn gwaith arogli reolaeth ataliol gryfach, sy’n awgrymu y gall yr hyfforddiant hwn gael effaith gadarnhaol ar eu hymddygiad.

“Mae llawer o hyfforddwyr cŵn yn cynnig hyfforddiant arogli, ac mae’n hawdd ei ymarfer gartref. Efallai y bydd e’n cynnig ffordd wych i berchnogion wella ymddygiad eu hanifeiliaid anwes, a’n nod yw rhoi’r ddamcaniaeth hon ar brawf mewn astudiaethau yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Dr Sebastian McBride o Brifysgol Aberystwyth:

“Mae’r ymchwil hwn yn bwysig i’n helpu i ddeall dylanwad graddau hyfforddiant cŵn ar eu ymddygiad. Ar sail ein canfyddiadau, ddylai astudiaethau yn y dyfodol ddim gwahanu rhwng cŵn sydd wedi’u hyfforddi’n dda a’r rhai sydd heb eu hyfforddi yn unig, ond yn hytrach ystyried y berthynas rhwng hyfforddiant ac ymddygiad penodol.

“Fyddai’r ymchwil cyffrous hwn ddim yn bosibl heb yr holl gŵn gwirfoddol, eu perchnogion a chlybiau hyfforddi lleol sy’n cymryd rhan, felly hoffen ni ddiolch iddyn nhw i gyd am eu cefnogaeth.”

Yn ogystal â Dr Dalesman a Dr McBride, cafodd llawer o’r ymchwil ei wneud gan  Nerys Mellor, myfyrwraig MRes mewn Gwyddor Anifeiliaid.