Rhodd sylweddol yn ‘hwb’ i Ysgol Filfeddygol Aberystwyth

Yr Athro R. Geoff Richards, Sefydliad Ymchwil Davos AO, gyda’r fyfyrwraig filfeddygaeth Emily Parrish-Andrew

Yr Athro R. Geoff Richards, Sefydliad Ymchwil Davos AO, gyda’r fyfyrwraig filfeddygaeth Emily Parrish-Andrew

30 Ionawr 2024

Bydd myfyrwyr Ysgol Gwyddor Filfeddygol Prifysgol Aberystwyth yn cael y cyfle i ddysgu mewn sefydliad ymchwil byd-enwog yn y Swistir yn dilyn rhodd sylweddol.

Bydd y rhodd o £54,700 gan sefydliad ymchwil meddygol y Swistir AO yn cael ei ddefnyddio i anfon rhai myfyrwyr milfeddygol Aberystwyth i gyfleuster rhag-glinigol y sefydliad yn Davos am hyd at ddeufis y flwyddyn.

Mae’r AO yn sefydliad arloesol ac addysgol byd-enwog ym maes triniaeth lawfeddygol. Mae ganddi rwydwaith byd-eang o dros 520,000 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol, y mae llawer ohonynt yn gweithio ym maes llawfeddygaeth filfeddygol.

Dechreuodd y garfan gyntaf o fyfyrwyr milfeddygol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2021 ac agorwyd yr Ysgol gan y Brenin Charles III.  Hi yw’r unig Ysgol Gwyddor Filfeddygol yng Nghymru.

Aeth y fyfyrwraig filfeddygol trydydd blwyddyn Emily Parrish-Andrew ar y lleoliad gwaith cyntaf erioed o Ysgol Gwyddor Filfeddygol Aberystwyth i Davos. Dywedodd:

“Roedd hi’n gyfle bendigedig i ddysgu mewn amgylchedd newydd yn Davos. Dwi’n wirioneddol ddiolchgar am y profiad yma a bydda i’n ei drysori am byth. Dwi mor falch o glywed am y rhodd newydd a fydd yn caniatáu i lawer o fyfyrwyr i elwa yn yr un ffordd.”

Dywedodd yr Athro Geoff Richards, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil AO Davos, sydd hefyd yn Athro er Anrhydedd a Chymrawd ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Rwy’n falch iawn o gael cyhoeddi’r rhodd hon i’m hen brifysgol, lle astudiais i ar gyfer fy BSc a’m MSc yn yr 80au ac yn hwyrach o’r Swistir ar gyfer fy noethuriaeth ac mae’n gyffrous i ni yn y Swistir gael myfyrwyr o Aberystwyth draw yma eto i ddysgu (daeth sawl myfyriwr Aberystwyth yma i astudio ar gyfer eu doethuriaeth yn y gorffennol). Mae sefydlu’r Ysgol Gwyddor Filfeddygol yn Aberystwyth wedi rhoi Cymru ar y map ac yn ddatblygiad sydd i’w groesawu’n fawr. Rwy’n gobeithio y gallwn ni barhau i gydweithio’n agos gyda’n cyfeillion yn Aberystwyth dros y blynyddoedd i ddod.”

Dywedodd yr Athro Darrell Abernethy, Pennaeth Ysgol Gwyddor Filfeddygol Prifysgol Aberystwyth:

“Mae’r rhodd yn newyddion ardderchog ac yn hwb pellach i’r Ysgol a’n myfyrwyr. Hoffwn i ddiolch yn fawr iawn i AO am y rhodd hael ac am gynnig y cyfle bendigedig yma i’r rhieni sy’n dod i astudio yma.

“Rwy’n credu bod hyn yn arwydd o ffyniant yr Ysgol sydd, wedi’r cwbl, mor bwysig i amaeth a’r diwydiannau cysylltiedig. Maen nhw’n chwarae rhan mor bwysig yn economi Cymru ac mae cyfrifoldeb arnom ni i ddarparu’r bobl a’r sgiliau a fydd yn cyfrannu at sicrhau eu bod yn llwyddo am flynyddoedd i ddod. Mae’r Ysgol Gwyddor Filfeddygol yn ychwanegu darn hollbwysig i’r jig-so, un sy’n adeiladu gwytnwch yn yr economi wledig drwy addysg ac ymchwil mewn cyfnod o newid a heriau mawr posibl.”