Ysgol Filfeddygol Aberystwyth yn cynllunio i ehangu yn sgil cymynrodd hael

Dechreuodd y myfyrwyr cyntaf yng Nghanolfan Addysg Milfeddygaeth  Prifysgol Aberystwyth ym mis Medi 2021.

Dechreuodd y myfyrwyr cyntaf yng Nghanolfan Addysg Milfeddygaeth Prifysgol Aberystwyth ym mis Medi 2021.

01 Chwefror 2024

Mae cynlluniau ar gyfer cyfleusterau ychwanegol yn Ysgol Filfeddygol Prifysgol Aberystwyth gam yn agosach diolch i rodd sylweddol.

Bydd y rhodd o £100,000 gan ystad y diweddar Gordon Burrows yn cynorthwyo ariannu efelychiad o glinig milfeddygol ar gampws Penglais y Brifysgol.

Unwaith bod yr holl gyllid wedi’i sicrhau, bydd y clinig newydd yn cynnwys cyfleusterau safonol megis ystafelloedd aros, archwiliadau a thriniaethau ynghyd â’r offer angenrheidiol ar gyfer trin anifeiliaid bach.

Caiff ei ddefnyddio i hyfforddi israddedigion ar y cwrs BVSc mewn Gwyddor Milfeddygaeth, a gyflwynir ar y cyd â’r Coleg Milfeddygaeth Brenhinol, yn ogystal â myfyrwyr ar gwrs gradd Nyrsio Milfeddygol Prifysgol Aberystwyth sy’n dechrau yn hwyrach eleni.

Dywedodd Yr Athro DarrellAbernethy, Pennaeth yr Ysgol Gwyddor Filfeddygol ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Fel rhan o’u proses addysgu, mae’n bwysig bod ein myfyrwyr yn ennyn profiad ym maes hyfforddiant milfeddygol clinigol a dealltwriaeth o’r offer allweddol a’r prosesau clinigau milfeddygol. Rydyn ni’n hynod ddiolchgar am y gymynrodd hael hon sy’n ein caniatáu i gymryd cam ymlaen gyda’n cynlluniau i ehangu’n cyfleusterau a gwella ymhellach fyth ar yr addysgu ry’n ni’n ei gynnig yn Aberystwyth.”

Dywedodd ysgutor ar ran ystad y diweddar Gordon Burrows:

“Byddai Gordon Burrows wedi bod yn falch o wybod bod ei etifeddiaeth yn ychwanegu at hyfforddiant milfeddygol ar gyfer cenedlaethau o fyfyrwyr y dyfodol. Buodd yn fraint gweithio gyda’r Brifysgol i sicrhau bod y gymynrodd er cof amdano’n gwneud cyfraniad hirdymor i waith yr Ysgol Gwyddor Filfeddygol.”

Yr Ysgol Gwyddor Filfeddygol

Cafodd Ysgol Gwyddor Filfeddygol Aberystwyth ei hagor yn swyddogol gan y Brenin Charles III yn 2021, yn dilyn buddsoddiad o dros ddwy filiwn o bunnoedd mewn adnoddau dysgu newydd ar gampws Penglais y Brifysgol.

Mae’n cynnig cyfle i fyfyrwyr ddilyn cwrs BVSc mewn Gwyddor Milfeddygaeth, ar y cyd â’r Coleg Milfeddygol Brenhinol (yr RVC).

Mae myfyrwyr yn treulio eu dwy flynedd gyntaf ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yna dair blynedd ar Gampws Hawkshead yr RVC yn Swydd Hertford.

Mae’r rhaglen yn cwmpasu’r ystod lawn o greaduriaid, o anifeiliaid anwes i anifeiliaid fferm.

Yn ogystal ag adnoddau’r Ysgol Gwyddor Filfeddygol a labordai eraill ar gampws Penglais, caiff myfyrwyr brofiad gwerthfawr hefyd ar ffermydd llaeth a defaid y Brifysgol, ynghyd â Chanolfan Geffylau Lluest.

Mae’r cwrs yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr astudio agweddau penodol o wyddor filfeddygol drwy gyfrwng y Gymraeg, wedi’u hariannu’n rhannol gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.