Cryfderau hanesyddol ac arloesi i yrru dyfodol Aber

Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth.

Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth.

02 Chwefror 2024

Yn ôl Is-Ganghellor newydd Prifysgol Aberystwyth fe fydd llwyddiant y sefydliad yn y dyfodol yn cael ei adeiladu ar addysg ac ymchwil sy’n creu newidiadau gwirioneddol, yn creu cyfleoedd newydd mewn bywyd, ac yn sicrhau gwelliannau i’r gymdeithas ehangach yn lleol a byd-eang.

Ychwanegodd yr Athro Jon Timmis y bydd angen i'r sector addysg uwch cyfan addasu i rai o'r heriau ariannol y mae'n eu hwynebu ar hyn o bryd. Gwnaeth ei sylwadau wrth i'r Brifysgol gyhoeddi ei Hadroddiad Blynyddol am 2022/23. Hefyd, diolchodd yr Is-Ganghellor i staff a myfyrwyr am yr hyn a gyflawnwyd ganddynt yn ystod y flwyddyn honno. Fe ddechreuodd yn swydd yr Is-Ganghellor ym mis Ionawr 2024 ar ôl dod i Aberystwyth o Brifysgol Sunderland lle'r oedd yn Ddirprwy Is-Ganghellor (Masnachol).

Mae'r Adroddiad Blynyddol yn crynhoi perfformiad y Brifysgol yn ystod y cyfnod hwnnw o 12 mis, mewn meysydd megis addysgu, ymchwil, cyllid, a chyfraniad y Brifysgol i'r gymdeithas ehangach.

Yn ystod y cyfnod, gwelwyd cynnydd mewn incwm, cyllid ymchwil, a niferoedd myfyrwyr o wledydd Prydain a myfyrwyr rhyngwladol. Nodwyd diffyg gweithredol sylfaenol o £2.5 miliwn am y flwyddyn (o fewn gwarged cyffredinol ar ôl treth o £3.8 miliwn), yn dilyn lefelau uchel o chwyddiant a chynnydd yng nghyfraddau llog sydd wedi effeithio ar y sector addysg uwch ehangach.

Yn ôl adroddiad diweddar a gomisiynwyd gan Universities UK mae pedair o bob pum prifysgol yng ngwledydd Prydain yn wynebu diffyg ariannol ym mlwyddyn academaidd 2023/24 os yw niferoedd myfyrwyr rhyngwladol yn parhau i ostwng yn sylweddol.

Meddai’r Athro Timmis: "Mae'n amlwg bod angen i'r sector addysg uwch addasu i'r heriau mae pob prifysgol unigol yn eu hwynebu. Mae angen i’r sector fuddsoddi a rheoli costau. Rhaid rhoi blaenoriaeth i ddenu myfyrwyr, ond mewn ffordd gynaliadwy. Mae angen cofleidio'r cyfleoedd y gall technoleg megis deallusrwydd artiffisial eu rhoi, dulliau dysgu newydd, a meysydd newydd ar gyfer twf, a’r cwbl wrth aros yn driw i'r hyn sy'n gwneud sefydliad yn un arbennig. Mae angen i brifysgolion addasu i fyd sy'n newid.

"Dyw Prifysgol Aberystwyth ddim gwahanol. Mae perfformiad ariannol ein sefydliad yn dangos sut mae dylanwadau ehangach yn effeithio arnom, ac mae'r rhain yn ddylanwadau a fydd yn parhau i effeithio arnom eleni eto, a thu hwnt o bosibl.  Rhaid i ni felly ddal ati i newid y ffordd rydyn ni’n gwneud pethau. Gallwn wneud hynny trwy ddefnyddio cryfderau niferus y Brifysgol mewn addysgu ac ymchwil yn sylfaen, ond hefyd trwy ein herio ein hunain i ganfod meysydd twf newydd, i arloesi, ac i gyflawni ar gyfer ein myfyrwyr a'r gymdeithas ehangach mewn ffordd gynaliadwy sy'n adlewyrchu ein hoes gyfnewidiol.

"Mae’r swyddogaeth sydd gan y Brifysgol hon yn ein tref ac yng nghanolbarth Cymru’n ehangach yn hynod bwysig i mi. Mae gen i uchelgais i ddod â mwy eto o fuddion i'r gymuned hon, wrth barhau i gael effaith ar lwyfan byd-eang."

Ymhlith yr uchafbwyntiau a restrir yn Adroddiad Blynyddol 2022/23 mae’r canlynol:

  • Enwi Prifysgol Aberystwyth yn Brifysgol orau Cymru am ragoriaeth dysgu a bodlonrwydd myfyrwyr, yng Nghanllaw Prifysgolion Da y Times a’r Sunday Times 2023.
  • Twf cadarn mewn incwm ymchwil ar draws amryw ddisgyblaethau, o archwilio'r gofod i'r gwyddorau amgylcheddol.
  • Cynnydd yn nifer y myfyrwyr o wledydd Prydain a myfyrwyr rhyngwladol.
  • Agor fferm solar gwerth £3 miliwn, a fydd yn torri mwy na 500 tunnell y flwyddyn oddi ar allyriadau carbon y Brifysgol.
  • Cychwyn cyfnod adfer prosiect yr Hen Goleg.
  • Dathlu 150 mlynedd ers i Brifysgol Aberystwyth agor ei drysau am y tro cyntaf.

Meddai’r Athro Timmis: "Mae cyflawniadau Prifysgol Aberystwyth a welir yn yr Adroddiad Blynyddol yn dangos bod y sefydliad wedi'i godi ar dir cadarn. Mae’n Brifysgol sy’n cael ei pharchu’n briodol a’i chydnabod am ansawdd ei haddysgu a'i hymchwil, a'r rhan bwysig y mae'n ei chwarae yng Nghymru a thu hwnt.

"Bydd y blynyddoedd nesaf yn gyfnod o newid i'r sector addysg uwch, ond mae gen i bob hyder y bydd hanes a llwyddiannau Aberystwyth, ynghyd â'i hawydd i gofleidio dulliau newydd, meysydd twf a ffrydiau ymchwil newydd, yn diogelu ei dyfodol ac yn dod â manteision i ni i gyd. Staff a myfyrwyr sydd wrth wraidd y newid hwn a hoffwn ddiolch iddynt am yr hyn a gyflawnwyd ganddynt yn 2023. Hoffwn yn arbennig ailfynegi fy ngwerthfawrogiad enfawr i'm rhagflaenydd, yr Athro Elizabeth Treasure, ac i gyn Gadeirydd y Cyngor, Dr Emyr Roberts, am eu cyfraniadau anferth i ddyfodol ein sefydliad."

Meddai Cadeirydd newydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth, Meri Huws: "Bu’n amlwg o'r dechrau bod yr Athro Timmis yn gwybod bod angen i'r sector addysg uwch esblygu, a’i fod yn gweld beth sydd angen i’n sefydliad ni ei wneud er mwyn meithrin diwylliant o arloesi. Fel aelodau'r Cyngor rydym yn edrych ymlaen at elwa ar ei weledigaeth ar gyfer Prifysgol Aberystwyth.

Ychwanegodd Meri Huws, a gychwynnodd yn ei rôl fel Cadeirydd ar ddechrau 2024: "Hoffwn ddiolch i’n staff a’n myfyrwyr am eu gwaith caled yn ystod y flwyddyn.  Rwy’n ddiolchgar hefyd i’n partneriaid yn y gymuned, yn ogystal â’r rhai rhanbarthol a chenedlaethol y mae eu cefnogaeth, eu cyngor a’u hysbryd yn golygu cymaint i Brifysgol Aberystwyth. Rwy’n edrych ymlaen at weld cyfleoedd i gryfhau’n gwaith gyda nhw dros y blynyddoedd sydd i ddod."