Prifysgol a Meddygfa Deulu yn cydweithio i gynorthwyo cyn-filwyr

Dr Olaoluwa Olusanya, sylfaenydd Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr a Darllenydd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth (chwith) a Michelle Hopewell, Ymarferydd Nyrsio ar Grŵp Meddygol Ystwyth

Dr Olaoluwa Olusanya, sylfaenydd Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr a Darllenydd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth (chwith) a Michelle Hopewell, Ymarferydd Nyrsio ar Grŵp Meddygol Ystwyth

02 Chwefror 2024

Mae prosiect ym Mhrifysgol Aberystwyth, sy'n darparu cyngor cyfreithiol a gwasanaeth cyfeirio rhad ac am ddim i gyn-filwyr a'u teuluoedd yn y DU, wedi mynd i bartneriaeth â meddygfa deulu leol i gynnig cymorth.

Wedi'i leoli yn Adran y Gyfraith a Throseddeg yn y Brifysgol, mae’r prosiect Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr yn gweithio gyda Grŵp Meddygol Ystwyth yn Aberystwyth yn rhan o fenter Cymru gyfan i ddarparu gwasanaethau cyfeillgar i gyn-filwyr ar gyfer cleifion sydd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog y DU.

Dechreuodd y peilot, y cyntaf o'i fath yn y DU, yn gynharach y mis hwn. Nod y fenter yw sicrhau bod cyn-filwyr yn ymwybodol o'r gefnogaeth sydd ar gael iddynt cyn gynted ag y byddant yn gadael y lluoedd arfog. 

Eglurodd Dr Olaoluwa Olusanya, sylfaenydd Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr a Darllenydd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth:

"Dangosodd ein hastudiaeth ddiweddar bod rhoi cyngor wedi’i deilwra yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd cyn-filwyr. Un o'r lleoedd cyntaf mae cyn-bersonél y lluoedd arfog yn mynd ar ôl gadael y fyddin yw eu meddygfa, lle maent yn cofrestru fel cleifion newydd. Trwy weithio gyda'n partneriaid yn Ystwyth, ein nod yw darparu cyswllt uniongyrchol i'n gwasanaethau.

"Mae mynd i'r afael â’r ffactorau ehangach sy’n dylanwadu ar iechyd cyn-filwyr a’u teuluoedd, drwy roi cyngor cyfreithiol a chymorth gyda materion fel incwm, cyflogaeth a thai, yn sicrhau y darperir gwasanaethau mewn modd cyfannol, ac fe ddylai wella canlyniadau iechyd a lles i’r rhai sy’n defnyddio’r gwasanaeth."

Michelle Hopewell, Ymarferydd Nyrsio sy’n gyn-filwr ei hun, sydd yn arwain y peilot ar ran Grŵp Meddygol Ystwyth.  Dywedodd:

"Rydym yn croesawu'r cyfle i weithio gyda Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr ar y prosiect peilot hwn. O blith y 8,700 o gleifion y mae ein practis yn eu gwasanaethu, rydym yn gwybod bod tua 80 ohonynt yn gyn-filwyr. Mae'r cydweithrediad hwn yn ychwanegu rhywbeth newydd at y gefnogaeth sydd ar gael i gyn-filwyr trwy ddarparu dull cyfannol o’u cynorthwyo â’u hanghenion anghlinigol – er enghraifft, bygythiadau i’w cyflogaeth, materion teuluol neu broblemau’n ymwneud â thai – a allai yn eu tro effeithio ar eu hiechyd a'u lles.

"Mae'r cydweithrediad arloesol hwn yn gam tuag at gyflawni nod Grŵp Meddygol Ystwyth o gael ei achredu yn feddygfa cyfeillgar i gyn-filwyr trwy Addysg a Gwella Iechyd Cymru."

Os bydd y peilot yn llwyddiant, mae tîm prosiect Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr yn bwriadu gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ehangu’r gwasanaeth i gynnwys meddygfeydd teulu ledled Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn ystod y misoedd nesaf.