Arddangosfa ffotograffiaeth arloesol i ddarlunio dyfodol Cymru, yr Alban a Chatalwnia

'Port Talbot' gan David Mayne

'Port Talbot' gan David Mayne

07 Chwefror 2024

Mae academyddion Prifysgol Aberystwyth yn curadu arddangosfa ffotograffiaeth sy'n edrych ar agweddau tuag at annibyniaeth yng Nghymru, yr Alban a Chatalwnia.

Bydd ‘Pen Rheswm/Gwrando’r Galon: Darlunio’r Dyfodol: Ffotograffiaeth o Gymru, yr Alban a Chatalwnia’ yn arddangos 46 o ffotograffau gan 35 o ffotograffwyr o’r tair cenedl. Bydd yn cael ei gynnal yn Oriel Carn Caernarfon rhwng 10-17 Chwefror.

Bydd yr arddangosfa yn cynnig cipolwg i ymwelwyr ar sut y gall profiadau bywyd pobl effeithio ar y ffordd maent yn meddwl ac yn teimlo am ddyfodol eu gwlad. Mae’r arddangosfa hefyd yn casglu teimladau a meddyliau ymwelwyr wrth ofyn y cwestiwn: ‘Beth sy’n bwysig i chi am ddyfodol Cymru?’

Wedi’i threfnu gan Dr Elin Royles a Dr Anwen Elias o Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae’r arddangosfa yn rhad ac am ddim ac yn rhan o’u hastudiaeth academaidd ar y teimladau a’r profiadau sy’n llunio safbwyntiau pobl ar annibyniaeth.

Dywedodd Dr Elin Royles:

“Elfen hanfodol o’n hymchwil yw’r arddangosfa hon, sy’n cyfleu emosiynau a theimladau pobl. Rydyn ni eisiau deall yn well y ffordd mae pobl o gefndiroedd gwahanol, o wahanol genhedloedd, yn meddwl ac yn teimlo am eu dyfodol gwahanol, a pha brofiadau sydd yn dylanwadu ar eu barn.

“Yn hynny o beth, mae'r ffotograffau yma’n cynnig ymateb trawiadol i bwnc annibyniaeth. Trwy gapsiynau sy'n cyd-fynd â'r ffotograffau, gall ymwelwyr asesu i ba raddau mae eu hargraffiadau nhw o’r delweddau yn cyfateb â’r hyn oedd y ffotograffwyr yn ceisio'i gyfleu. Byddwn yn rhannu canfyddiadau’r ymchwil yng Nghaerdydd fis Mai.”

Bydd y dull newydd yma a fydd yn herio dibyniaeth gonfensiynol academyddion ar ymatebion arolygon a data demograffig, fel oedran, rhyw neu ddosbarth, wrth archwilio agweddau at annibyniaeth.

Yn ôl Dr Anwen Elias, aelod o’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru:

“Mae ffotograffiaeth yn arf pwerus i ddarparu dealltwriaeth fwy cyflawn o’r hyn sy’n digwydd, ac i helpu i benderfynu i ba raddau mae emosiwn yn dylanwadu ar safbwyntiau pobl ar faterion fel annibyniaeth. Rwyf yn sicr wedi cael fy mherswadio gan y fethodoleg newydd hon, sydd yn fy marn i â rôl bwysig i’w chwarae wrth barhau â’r sgwrs am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru.”

Cyn derbyniad swyddogol yr arddangosfa ar 15 Chwefror, dywedodd y gwestai arbennig Siân Gwenllïan (AS Arfon):

“Mae’r arddangosfa ffotograffiaeth gyffrous hon yn Oriel CARN, dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth, yn agoriad llygad go iawn. Rydw i wedi cael fy nharo’n arbennig gan y ffaith bod tensiwn yn aml iawn rhwng y pen a’r galon. Beth bynnag fo’ch barn wleidyddol, mae hyn yn cyfrannu haen newydd o ddealltwriaeth i’r trafodaethau parhaus am ddyfodol cyfansoddiadol yng Nghymru, yr Alban a Chatalwnia.”

Mae'r arddangosfa yn cynnwys gwaith gan ffotograffwyr o Glwb Camera Aberystwyth; Oriel y Gweithwyr yn Ynyshir, y Rhondda; Foto-Cine Mataró d’UEC (Clwb Camera Mataró); ac IEFC: Institut d’Estudis Fotogràfics de Catalunya (Sefydliad Astudiaethau Ffotograffig Catalonia).

Mae dau o luniau’r ffotograffydd o ogledd Cymru, Richard Jones, yn yr arddangosfa:

“Mae fy ffotograffau ‘Dolbadarn yn deffro’ ac ‘Annibyniaeth Barn’ yn mynegi’r math o wawr newydd y credaf y gall annibyniaeth ddod i Gymru. Gan nad yw’r arddangosfa ei hun yn hyrwyddo safbwynt arbennig ar annibyniaeth, mae wedi bod yn ddadlennol gweld fy ffotograffau ochr yn ochr â gwaith ffotograffwyr ar ddwy ochr y ddadl.”

'Dragon in a cage' gan Lonnie Morris

Dywedodd Menna Thomas, Cydlynydd CARN:

“Rydym yn falch iawn o fod yn lleoliad ar gyfer yr arddangosfa arloesol hon, sy’n ysgogi’r meddwl, yn Oriel CARN, yng Nghaernarfon. Byddem yn annog y cyhoedd yn fawr iawn i ddod draw i archwilio’r casgliad hynod ddiddorol hwn o dros 40 o ffotograffau a chyfrannu at brosiect Prifysgol Aberystwyth os ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny.”

Mae'r arddangosfa yn rhan o brosiect wedi’i ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) (Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru), fel rhan o Ganolfan Ymchwil Chymdeithas Sifil WISERD/ESRC.

ARDDANGOSFA

  • Pen Rheswm/Gwrando’r Galon: Darlunio’r Dyfodol
  • Oriel CARN, Caernarfon
  • 10-17 Chwefror 2024; 10am-3pm (ag eithrio dydd Sul)
  • Mynediad: Am ddim (gweithgareddau i’r holl deulu ar gael)