Myfyrwyr yn ennill gwobrau mawreddog yn seremoni'r Gymdeithas Deledu Frenhinol

Enillodd Matthew Tyler-Howells, Emily Hogg a Vic Kolbe (nad yw yn y llun) Wobr Achub y Blaned yng Ngwobrau Cymdeithas Deledu Frenhinol Cymru 2024. Llun gan Rahim Mastafa, Cymdeithas Deledu Frenhinol Cymru Wales

Enillodd Matthew Tyler-Howells, Emily Hogg a Vic Kolbe (nad yw yn y llun) Wobr Achub y Blaned yng Ngwobrau Cymdeithas Deledu Frenhinol Cymru 2024. Llun gan Rahim Mastafa, Cymdeithas Deledu Frenhinol Cymru Wales

24 Ebrill 2024

Mae myfyrwyr a graddedigion diweddar dawnus o Brifysgol Aberystwyth wedi ennill gwobrau yn seremoni wobrwyo flynyddol Cymdeithas Deledu Frenhinol Cymru Wales.

Enillodd chwe myfyriwr a graddedigion o’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu wobrau uchel eu bri yn y seremoni fawreddog a gynhaliwyd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar 12 Ebrill.

Enillodd Paulina Baran a Jordan Higgs, a raddiodd yn 2023, wobr y Ddrama Orau am eu ffilm fer am alar, euogrwydd a chariad, Woe.

Cyflwynwyd y wobr Comedi / Adloniant Gorau i Tom Stoker, a raddiodd yn 2023, am ei hunan-astudiaeth o gynnyrch a chysondeb creadigol trwy gynhyrchu cerddoriaeth, o'r enw The Struggles for Creative Consistency.

Cyflwynwyd Gwobr Achub y Blaned i Matthew Tyler-Howells a Vic Kolbe, ill dau yn raddedigion diweddar, ac Emily Hogg, sy’n fyfyrwraig ôl-raddedig, am eu ffilm ddogfen, Fibres: The Roots of Industrial Hemp, sy’n edrych ar briodweddau, manteision a gwahanol gymwysiadau cywarch diwydiannol.

Wrth ymateb i'w gwobr, dywedodd Matthew Tyler-Howells:

"Mae'n anrhydedd mawr derbyn Gwobr Teledu Myfyrwyr y Gymdeithas Deledu Frenhinol am ein ffilm raddedig. Cawsom lawer o hwyl wrth ei wneud, gan deithio ar draws y wlad i gasglu'r holl ddarnau ynghyd. Mae'n wych gweld ein gwaith caled yn cael ei gydnabod, ac yn syml, ni fyddai wedi bod yn bosibl heb ein cyfranwyr, a'r gefnogaeth eithriadol a gawsom gan ddarlithwyr a staff technegol yr adran ThFfTh".

Dywedodd Elin Morse, Uwch Ddarlithydd mewn Ymarfer Ffilm yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu:

"Gwobrau Cymdeithas Deledu Frenhinol Cymru Wales yw'r gwobrau cenedlaethol uchaf eu bri y gall myfyrwyr eu hennill am ffilmiau a rhaglenni teledu. Mae ein hadran yma ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi llwyddo i ennill nifer sylweddol o enwebiadau a gwobrau gan y Gymdeithas Deledu Frenhinol yn y gorffennol, ond mae nifer y gwobrau a enillwyd eleni yn eithriadol, ac mae'n dyst i waith caled a chreadigrwydd ein myfyrwyr.

Ychwanegodd Dr Greg Bevan, Uwch Ddarlithydd mewn Ymarfer Ffilm a Chyfryngau, a Chydlynydd Gwyliau a Gwobrau’r Adran:

"Mae'n bleser gweld ein myfyrwyr a'n cyn-fyfyrwyr yn cael cydnabyddiaeth am eu doniau, eu creadigrwydd a'u harloesedd yng ngwobrau Cymdeithas Deledu Frenhinol Cymru Wales eleni. Llongyfarchiadau mawr i'n henillwyr ar eu llwyddiant haeddiannol."