Anrhydeddau academaidd i bedwar gwyddonydd o Aberystwyth

Dr Changjing Shang, yr Athro Jon Timmis, Dr Arwyn Edwards, yr Athro Huw Jones
29 Ebrill 2025
Mae pedwar academydd blaenllaw ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi eu hethol yn Gymrodyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
Mae’r arbenigwr geneteg planhigion yr Athro Huw Jones, y cyfrifiadurwr Dr Changjing Shang a’r microbiolegydd Dr Arwyn Edwards wedi derbyn yr anrhydedd academaidd ynghyd â’r cyfrifiadurwr ac Is-Ganghellor y Brifysgol, yr Athro Jon Timmis,.
Mae etholiad i’r Gymrodoriaeth yn gydnabyddiaeth gyhoeddus o ragoriaeth academaidd. Etholir Cymrodyr yn dilyn asesiad trylwyr o’u cyflawniadau yn eu meysydd perthnasol.
Dywedodd yr Athro Jon Timmis, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:
“Mae’n anrhydedd ymuno â’r grŵp nodedig hwn sy’n gwneud llawer i ddathlu rhagoriaeth ein sector addysg uwch. Mae’n braf gweld cymaint o academyddion Prifysgol Aberystwyth yn cael eu cynrychioli eleni yn etholiadau’r Gymrodoriaeth.”
Dywedodd Dr Changjing Shang:
“Mae’n anrhydedd fawr i gael fy ethol yn Gymrawd i Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae’n gydnabyddiaeth o’r gwaith rwyf wedi cael y fraint o’i wneud ochr yn ochr â chydweithwyr a myfyrwyr ardderchog. Rwyf hefyd yn ddiolchgar iawn i bawb a’m henwebodd a chefnogodd fy etholiad, yn y Brifysgol a thu hwnt, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.”
Dywedodd Dr Arwyn Edwards:
"Rwyf wrth fy modd â’r newyddion. Rwy'n gobeithio defnyddio'r Gymrodoriaeth i helpu i ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol o wyddonwyr o Geredigion i gyflawni er lles Cymru a'r byd."
Ychwanegodd yr Athro Huw Jones o Adran Gwyddorau Bywyd Prifysgol Aberystwyth:
“Mae’n anrhydedd sylweddol i ymuno â chymrodyr nodedig niferus y Gymdeithas. Rwy’n falch bod fy ngwaith academaidd ym meysydd genomeg planhigion a’r oruchwyliaeth reoleiddiol o fiotechnoleg wedi’u cydnabod yn y fath fodd.”