Gwyddonwyr o Aberystwyth yn helpu i fonitro beleod

Myfyrwraig ôl-raddedig, Nadine Johnson, yn paratoi DNA bele'r coed ar gyfer dadansoddiad moleciwlaidd yn y labordy ym Mhrifysgol Aberystwyth
12 Mai 2025
Mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth yn helpu i fonitro llwyddiant yr ymdrechion i ailgyflwyno mamal prinnaf ond un Prydain.
Mae beleod yn aelod o deulu’r carlymoliaid, sydd hefyd yn cynnwys gwencïod, carlymod, moch daear a dyfrgwn, ac maent yn debyg o ran maint i gath ddomestig fach. Yn gigysyddion sy’n anodd dod o hyd iddynt, maent fel arfer yn byw mewn ardaloedd coediog, lle mae eu diet yn cynnwys mamaliaid bach yn bennaf, yn ogystal â ffrwythau ac aeron.
Ar un adeg roeddent yn gyffredin iawn ledled yr Alban, Lloegr a Chymru, ond o ganlyniad i or-hela a cholli cynefinoedd maent bellach yn un o gigysyddion prinnaf Prydain.
Dros y degawd diwethaf, mae sawl prosiect i’w hailgyflwyno wedi llwyddo i adleoli anifeiliaid o'r boblogaeth frodorol gymharol gryf yn Ucheldiroedd yr Alban i gynefinoedd addas yng Nghymru a Lloegr.
Mae ymchwilwyr o’r Adran y Gwyddorau Bywyd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cydweithio ag Ymddiriedolaeth Natur Vincent i gynnal dadansoddiad moleciwlaidd o feleod yn yr Alban ac mewn ardaloedd lle maent wedi cael eu hailgyflwyno.
Gan ddefnyddio offer genetig a ddatblygwyd yn benodol ar gyfer y rhywogaeth, bydd gwyddonwyr yn Aberystwyth yn dadansoddi samplau o flew a charthion beleod, a gasglwyd gan Ymddiriedolaeth Natur Vincent, o 15 o feleod a drawsleolwyd o'u poblogaeth frodorol yn yr Alban ac a ryddhawyd yn Nyfnaint y llynedd.
Dywedodd Dr Niall McKeown o Adran Gwyddorau Bywyd Prifysgol Aberystwyth:
“Bydd ein dadansoddiad moleciwlaidd yn ein galluogi i gadarnhau perthynasrwydd yr anifeiliaid a ailgyflwynwyd, tra hefyd yn caniatáu i ni fonitro iechyd yr anifeiliaid yn yr Alban a Dyfnaint. Mae'r wybodaeth hon yn hanfodol er mwyn gwarchod y rhywogaeth hon.”
“Bydd y dystiolaeth wyddonol a ddarperir gan yr astudiaeth yn cyflwyno gwybodaeth ac argymhellion ar gyfer y strategaeth gadwraeth ar gyfer y rhywogaeth hon sydd mewn perygl difrifol.”
Dywedodd Nadine Johnson, myfyrwraig ôl-raddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Yr hyn sy'n gwneud y prosiect hwn yn wirioneddol gyffrous yw bod yr offer genetig newydd y byddwn yn gweithio â nhw wedi’u datblygu'n benodol ar gyfer dadansoddi moleciwlau beleod.
“Y gobaith yw y bydd ein hymchwil yn helpu i ganfod a yw trawsleoli beleod o un ardal i ardal arall yn arwain at boblogaethau hyfyw a ffyniannus mewn rhanbarthau lle’r oeddent wedi diflannu’n llwyr o’r blaen.”
Mae Ymddiriedolaeth Natur Vincent wedi bod yn cynnal gwaith cadwraeth ac ymchwil ar feleod ers deugain mlynedd. Dywedodd Dr Jenny Macpherson, prif wyddonydd yn Ymddiriedolaeth Natur Vincent:
“Mae datblygiadau mewn technegau moleciwlaidd yn rhoi cipolwg newydd i ni ar iechyd poblogaeth yr anifeiliaid hyn.”