Labordy’r Traeth yn dychwelyd i lan y môr Aberystwyth gyda robotiaid a hwyl gyfrifiadurol

Beachlab 2024

Beachlab 2024

22 Mai 2025

Mae digwyddiad poblogaidd Labordy’r Traeth Prifysgol Aberystwyth yn dychwelyd ddiwedd y mis, gan ddod â roboteg hynod a'r dechnoleg ddiweddaraf i lan y môr.

Bydd y digwyddiad, sydd bellach yn ei 15fed flwyddyn, yn arddangos cerbydau hunan-yrru, R2D2 steampunk eiconig y Brifysgol a dronau yn y Bandstand yn Aberystwyth ar 31 Mai rhwng 10:00 a 15:30.

Bydd modd i ymwelwyr ddefnyddio robotiaid rheoli o bell a chymryd rhan mewn gweithgareddau megis ystyried pa mor glyfar y gall DA fod, gweld sut mae cylchedau'n gweithio a rhoi cynnig ar amrywiaeth o offer rhaglennu. Byddant hefyd yn gweld sut y gallant barhau â'u taith roboteg eu hunain trwy adnoddau ar-lein, gan gynnwys gêm addysgiadol newydd a grëwyd gan fyfyrwyr.

Bydd rhai o gerbydau robotig yr Adran Gyfrifiadureg yn cael eu harddangos megis bygis hunan-yrru oddi ar y ffordd a cherbydau crwydro ar y traeth. Bydd yna hefyd rai robotiaid mwy gyda Doris y Dalek a K9 o Doctor Who yn gwneud ymddangosiad.

Meddai Dr Patricia Shaw, Uwch Ddarlithydd yn yr Adran Gyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Mae Labordy’r Traeth yn un o uchafbwyntiau calendr yr Adran Gyfrifiadureg ac rydym yn falch iawn o fod nôl yn y Bandstand i ddangos ein gwaith a dod â rhywfaint o hwyl robotig i lan y môr.

"Eleni rydyn ni eisiau dangos i bobl sut mae roboteg yn dechrau o'r synwyryddion lleiaf oll i'r cerbydau a'r robotiaid y byddant yn eu gweld yn y digwyddiad.

"Mae cyfrifiadureg yn bwnc hynod bwysig a gall wella sawl agwedd ar ein bywydau. Mae gennym labordy cartref clyfar ar y campws, sy'n pwyso a mesur sut y gall y dechnoleg ddiweddaraf gynorthwyo mewn gofal cymdeithasol, ac rydym yn rhan o daith ExoMars i blaned Mawrth, yn ogystal ag ymchwil arall i ddeallusrwydd artiffisial a gofal iechyd."