Gallai robotiaid helpu i fonitro dirywiad bioamrywiaeth – astudiaeth newydd

‘Idris’, cerbyd awtomatig sy'n addas ar gyfer pob math o dir o Adran Cyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth
22 Mai 2025
Gallai robotiaid helpu i olrhain dirywiad bioamrywiaeth ar draws eangdiroedd y byd, yn ôl astudiaeth newydd.
Mae systemau robotig ac awtomatiadd eisoes yn cael eu defnyddio'n helaeth i fonitro ecosystemau cefnforol, ond hyd yma nid oes llawer o ymchwil wedi’i wneud ar ddefnyddio systemau o’r fath i fonitro bioamrywiaeth ar y tir.
Mae Dr Fred Labrosse o Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth yn rhan o'r ymgais systematig gyntaf i asesu potensial y dechnoleg i edrych ar newidiadau i fywyd ar y ddaear, yn blanhigion ac yn anifeiliaid.
Bu arbenigwyr o dros gant o wledydd yn cydweithio ar yr astudiaeth, a edrychodd ar sut y gallai technoleg helpu cadwraethwyr i olrhain newidiadau ym mhoblogaethau rhywogaethau yn gywir.
Nododd yr arbenigwyr bedwar prif math o rwystr sy’n atal gwaith monitro bioamrywiaeth: cyrraedd at safleoedd, adnabod rhywogaethau, trin a storio data, a phŵer a chysylltedd.
Yna, nododd yr arbenigwyr dechnolegau a allai oresgyn y rhwystrau hynny, a sut y gallent weithio mewn amgylcheddau eithafol. Fe wnaethant hefyd nodi nifer o dechnolegau newydd, megis synwyryddion arloesol a robotiaid bioddiraddadwy, a allai helpu.
Edrychodd yr astudiaeth, a gyhoeddwyd heddiw (22 Mai 2025) yn Nature Ecology & Evolution, ar yr heriau yn ogystal â'r cyfleoedd sy’n codi wrth ddefnyddio robotiaid i fonitro bioamrywiaeth. Mae’r prif fanteision yn cynnwys y gallu i gynnal arolygon dros raddfeydd gofodol mawr, adnabod rhywogaethau mewn amser real, a thrin symiau mawr o ddata. Mae’r heriau y byddai angen eu goresgyn yn cynnwys yr angen am symiau mawr o 'ddata hyfforddi' at ddibenion dysgu peirianyddol i adnabod rhywogaethau, a chyfyngiadau o ran ffynonellau pŵer.
Daeth yr ymchwil i'r casgliad y byddai technoleg awtomataidd a robotig yn ffordd ddefnyddiol o ategu’r dulliau presennol, yn hytrach na’u disodli.
Meddai Dr Fred Labrosse, Uwch Ddarlithydd yn yr Adran Gyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth:
"Amlygodd ein hastudiaeth pa mor fanteisiol yw mabwysiadu dull rhyngddisgyblaethol o weithio. Bu’n gyfle i arbenigwyr roboteg ddeall yr heriau ynghlwm wrth fonitro bioamrywiaeth, ac i gadwraethwyr ddysgu am dechnolegau arloesol a allai eu cynorthwyo. Roedd yn gyfle ardderchog i feddyliau ddod ynghyd, gan amlygu pwysigrwydd cydweithio rhwng arbenigwyr ym maes bioamrywiaeth a gwyddonwyr roboteg i baratoi’r ffordd ar gyfer cyd-ddatblygu technolegau a dyfeisiau arloesol yn effeithiol yn y dyfodol."
Ariannwyd yr ymchwil gan Rwydwaith Roboteg a Systemau Awtomatiadd y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol.