Cydnabyddiaeth newydd am waith gwrth-hiliol y Brifysgol

Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth yr Athro Jon Timmis, Swyddog Cydraddoldeb Hiliol Sheree-Ann Jonas, sy'n dal Nod Safon Efydd y Siarter Cydraddoldeb Hil, a Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant y Brifysgol Dylan Eurig Jones

Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth yr Athro Jon Timmis, Swyddog Cydraddoldeb Hiliol Sheree-Ann Jonas, sy'n dal Nod Safon Efydd y Siarter Cydraddoldeb Hil, a Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant y Brifysgol Dylan Eurig Jones

02 Mehefin 2025

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi llwyddo i gyrraedd safon Efydd y Siarter Cydraddoldeb Hil, a ddyfernir gan AU Ymlaen, am ei gwaith yn gwella cynrychiolaeth a chynhwysiant i bobl o leiafrifoedd ethnig.

Mae Safon Efydd y Siarter Cydraddoldeb Hil yn helpu sefydliadau i ganfod y rhwystrau sy'n wynebu staff a myfyrwyr o leiafrifoedd ethnig, ac i ymdrin â’r rhwystrau hynny, ac mae’n darparu fframwaith i wella. 

Wedi'u dyfarnu gan AU Ymlaen, elusen ar gyfer y sector addysg uwch, mae'r safonau hyn yn  cydnabod y cynnydd a wnaed gan sefydliadau yn y sector addysg uwch.

Yn 2023, lansiodd Prifysgol Aberystwyth Gynllun Gweithredu ar Hil fel fframwaith i hybu cydraddoldeb, amrywioldeb a chynhwysiant, yn rhan o'i hymrwymiad i ymdrin â hiliaeth ac i fod yn weithredol wrth-hiliol. Ers hynny, cyflwynodd nifer o fentrau newydd, gan gynnwys ymrwymo i benodi nifer benodol o aelodau ethnig leiafrifol i’r Cyngor, sefydlu Grŵp Gweithredu ar Hil, cynnal trafodaethau rheolaidd am gydraddoldeb hil ar y lefel uchaf, a chyhoeddi adroddiad ar y bwlch cyflog ethnigrwydd.

Dywed y Brifysgol y bydd ei chamau pellach, dros y pum mlynedd nesaf, yn rhoi blaenoriaeth i ymgorffori diwylliant gwrth-hiliol yn y Brifysgol: yn cynyddu amrywioldeb ethnig y staff, y myfyrwyr a’r grwpiau penderfynu; yn helpu staff a myfyrwyr o leiafrifoedd ethnig i ddatblygu a llwyddo, a helpu i gadw’r staff a’r myfyrwyr hynny; ac yn gwella sut mae data am ethnigrwydd yn cael ei gasglu, ei ddadansoddi a’i ddarparu, er mwyn ei fwydo i’r prosesau penderfynu.

Dywedodd yr Athro Jon Timmis, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Ni fydd anghydraddoldeb hil yn diflannu heb ymdrech a chamau gweithredu dros gyfnod estynedig i herio a dileu gwahaniaethu ar sail hil, a gwella profiad staff a myfyrwyr o leiafrifoedd ethnig.  

"Mae gennym oll ran i'w chwarae yn hyn, ac mae'r dyfarniad hwn yn dangos pa mor bell mae’r sefydliad wedi dod. Rwy'n hynod falch bod ein gwaith wedi cael ei gydnabod gan AU Ymlaen. Daliwn ni ati i weithio'n galed i hybu cydraddoldeb, amrywioldeb a chynhwysiant, yn y Brifysgol a’r tu allan iddi."

Dywedodd Sheree Ann-Jonas, Swyddog Cydraddoldeb Hil ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i fynd i'r afael â hiliaeth ac i fod yn weithredol wrth-hiliol.  Mae cyrraedd y Safon Efydd yn cydnabod yr hyn a wnaethom dros y blynyddoedd diwethaf, ond gwyddom nad yw gwaith yn y maes hwn byth yn dod i ben."

Dywedodd Anne Mwangi, Pennaeth y Siarter Cydraddoldeb Hil: "Mae’r Safon Efydd yn gydnabyddiaeth o sylfaen gadarn sefydliad ar gyfer gweithio i ddileu anghydraddoldebau hil, datblygu diwylliannau cynhwysol, a symud o’r ymrwymiad tuag at weithredu cynaliadwy ac integredig, beiddgar ac uchelgeisiol.

"Mae AU Ymlaen yn edrych ymlaen at gefnogi Prifysgol Aberystwyth wrth iddi fwrw ymlaen â'i chynlluniau gweithredu i hybu cydraddoldeb hil."