Cynhadledd heddwch yn trafod ‘byd di-ryfel’

Y Prif Weinidog Eluned Morgan ac Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth Jon Timmis gyda threfnwyr y gynhadledd heddwch.
05 Mehefin 2025
Mae’r Prif Weinidog wedi agor cynhadledd heddwch arbennig ym Mhrifysgol Aberystwyth a drefnwyd i drafod sut gall Cymru gyfrannu tuag at fyd di-ryfel.
Trefnwyd y digwyddiad undydd ar y cyd gan Academi Heddwch Cymru, Prifysgol Aberystwyth a mudiad Heddwch Nain-Mamgu i nodi penllanw prosiect canmlwyddiant Deiseb Heddwch Menywod Cymru.
Roedd y menywod fu’n gyfrifol am y ddeiseb hanesyddol yn 1923-24 wedi casglu 396,290 o lofnodion o bob cwr o Gymru cyn teithio i Ogledd America i gyflwyno eu neges heddwch i fenywod yr UDA yn ogystal â’r Arlywydd yn y Tŷ Gwyn.
Wrth annerch y cynadleddwyr yn Aberystwyth heddiw (dydd Iau 5 Mehefin 2025), dywedodd Eluned Morgan AS:
"Mae stori Deiseb Heddwch Menywod Cymru yn un o'r straeon mwyaf pwerus a chyffrous yn hanes ein cenedl. Mae'n dangos i ni beth sy'n bosibl pan fydd menywod yn dod ynghyd â dewrder a phwrpas. Diolch i waith caled y gwirfoddolwyr, nid yn unig y mae gwaddol y Ddeiseb yn cael ei gadw - mae'n fyw eto ac yn cyrraedd ymhell y tu hwnt i Gymru.
“Hoffwn dalu teyrnged i'r menywod a lofnododd y Ddeiseb Heddwch. Ni ddylem byth anghofio'r hyn a wnaethant - na pham y gwnaethant hynny. Mae eu gweithredoedd yn ein hatgoffa y gall gwlad fach fel Cymru gael llais mawr yn y byd o hyd.”
Nod y gynhadledd oedd trafod sut i barhau ag ymdrechion y menywod aeth ati ganrif yn ôl i ymgyrchu dros fyd di-ryfel.
Dywedodd Mererid Hopwood, Ysgrifennydd Academi Heddwch Cymru ac Athro y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Mae hanes Deiseb Heddwch Menywod Cymru yn un hynod ac mae gwaith diflino wedi bod yn digwydd dros y flwyddyn ddiwethaf i rannu ac i ddathlu ei stori. Ond er gwaetha ymdrechion ymgyrchwyr heddwch ddoe a heddiw, rydyn ni’n dal i fyw mewn byd lle mae gwrthdaro ac anghydfod yn gyffredin. Pa ran y gall Cymru ei chwarae wrth geisio gwireddu’r uchelgais am fyd di-ryfel? Dyna fu’n sylw yn ein trafodaethau heddiw.”
Yn ystod y gynhadledd, cafwyd trafodaeth ar adroddiad ‘Cymru fel Cenedl Heddwch’ a gomisiynwyd gan Academi Heddwch ac wedi sesiwn rhyngweithiol, fe benderfynwyd sefydlu rhwydwaith newydd i weithio tuag at y nod yma.
Cafwyd cyflwyniadau hefyd ar y llu o weithgareddau a drefnwyd yng Nghymru a’r Unol Daleithiau yn 2024 fel rhan o brosiect canmlwyddiant y ddeiseb heddwch.
Dywedodd Ffion Fielding, Rheolwr Prosiect Hawlio Heddwch:
“Mae'r ymateb i’r canmlwyddiant wedi bod yn rhyfeddol, gyda miloedd o bobl yn ymateb yn eu ffordd eu hunain - yn greadigol, yn ddigidol, a thrwy ddigwyddiadau ac arddangosfeydd. Bydd y gynhadledd hon yn ein helpu i gynnal y momentwm a chreu gwaddol parhaol, teilwng.”
Ychwanegodd Dr Jenny Mathers, darllenydd yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth a chydolygydd cyfrol Yr Apêl: Hanes Rhyfeddol Deiseb Heddwch Menywod Cymru (Y Lolfa, 2023) gyda’r Athro Hopwood.
“Mae hyrwyddo heddwch drwy ymchwil a dysgu academaidd wedi bod yn nodwedd o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol y Brifysgol ers ei sefydlu ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1919 – yr adran gyntaf o’i bath ar y pryd. Ei nod bryd hynny oedd esgor ar ddimensiwn newydd ym maes cysylltiadau rhyngwladol, lle gallai gwledydd bach fel Cymru wneud cyfraniadau unigryw i heddwch byd-eang. Mae’r genhadaeth honno yn parhau wrth wraidd ein gwaith ni heddiw.”
Mae manylion pellach am Ddeiseb Heddwch Menywod Cymru i’w cael ar wefan Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru: wcia.org.uk/cy/academi-heddwch-cymru/deisebheddwch.