Wynebau ceffylau yn adrodd cyfrolau - astudiaeth newydd yn mapio’u hiaith wyneb gyfoethog

Dr Sebastian McBride. Llun gan Jay Williams

Dr Sebastian McBride. Llun gan Jay Williams

05 Mehefin 2025

Mae ymchwil newydd wedi datgelu bod gan geffylau "iaith" wyneb llawer mwy soffistigedig a llawn mynegiant na’r hyn a ystyriwyd yn flaenorol.

Mae'r astudiaeth yn awgrymu y gallai amrywiol symudiadau ac ymddygiad wyneb ceffylau ddarparu allwedd i ddeall eu hemosiynau, eu bywydau cymdeithasol a’u lles yn well.

Mae'r tîm ymchwil, sy'n cynnwys arbenigwr ym maes ymddygiad anifeiliaid o Brifysgol Aberystwyth, wedi creu'r ethogram (catalog o ymddygiadau wyneb) cynhwysfawr cyntaf erioed, yn seiliedig ar ryngweithiadau cymdeithasol go-iawn ymhlith ceffylau domestig.

Cofnododd yr astudiaeth dros 800 cyfuniad o symudiadau wyneb yn systematig, ac mae’n cynnig darlun digynsail o’r ffordd y mae ceffylau yn defnyddio’u hwynebau i gyfathrebu mewn gwahanol gyd-destunau cymdeithasol.

Dywedodd Dr Sebastian McBride o Adran y Gwyddorau Bywyd ym Mhrifysgol Aberystwyth:

"Canfu ein hymchwil bod ceffylau’n defnyddio amrywiaeth eang o symudiadau wyneb, sy'n amrywio yn dibynnu ar y cyd-destun cymdeithasol. 

"Yr hyn sy'n arbennig o ddiddorol yw bod rhai o'r ymddygiadau wyneb hyn, yn enwedig wrth iddynt chwarae, yn adlewyrchu'r rhai a welir mewn rhywogaethau fel tsimpansîaid a chŵn, sy’n ategu'r rhagdybiaeth bod yr ymddygiadau wyneb hyn o bosib wedi'u gwreiddio'n ddwfn ym mioleg mamaliaid. Mae'n cynnig cipolwg hynod ddiddorol ar sut mae esblygiad wedi ffurfio cyfathrebu ar draws rhywogaethau."

Bu’r tîm ymchwil yn arsylwi ar geffylau yn ystod rhyngweithiadau cysylltiol (cyfeillgar), agonistig (gwrthdaro), sylwol, a chwareus.  Yna, defnyddiwyd technegau codio wyneb datblygedig i edrych ar ymddygiad wynebau ar lefel symudiadau cyhyrau unigol.

Yna, dadansoddwyd yr arsylwadau hyn i adnabod pa symudiadau wyneb oedd wedi’u cysylltu gryfaf â phob math o ryngweithio.

Dywedodd Dr Leanne Proops, Athro Cyswllt mewn Ymddygiad a Lles Anifeiliaid yn y Ganolfan Seicoleg Gymharol ac Esblygiadol ym Mhrifysgol Portsmouth:

"Dyma'r tro cyntaf i ni allu cofnodi’n systematig sut mae ceffylau yn cyfuno symudiadau wyneb i greu mynegiant ystyrlon. Mae'n cynnig posibiliadau newydd ar gyfer deall emosiynau ceffylau a gwella eu lles. 

"Mae'r gwaith hwn yn drawsnewidiol i unrhyw un sy'n gweithio gyda cheffylau. Mae'n ein galluogi i weld a dehongli eu hymddygiad trwy lens newydd, gan arwain yn y pen draw at well gofal a pherthynas gryfach rhwng bobl ac anifeiliaid."

Llun gan Frauke Riether, Pixabay

Canfu'r ymchwilwyr fod ceffylau yn aml yn pwyntio eu clustiau tuag ymlaen ac yn estyn eu trwyn yn ystod rhyngweithiadau cyfeillgar, sy’n awgrymu sylwgarwch ac ymgysylltu cymdeithasol.

Yn ystod gwrthdaro neu ymddygiad i ddangos goruchafiaeth, gwelwyd ceffylau yn gwastadau eu clustiau, lledu eu ffroenau, a gostwng eu pennau, sy’n arwyddion o densiwn neu ymosodedd.

Pan fo ceffylau’n fywiog neu'n ymchwilio i ysgogiadau, arsylwodd yr ymchwilwyr fod eu clustiau fel arfer tuag ymlaen, eu bod yn amrantu neu’n hanner amrantu yn amlach, ac yn addasu safle eu pen i optimeiddio’u mewnbwn synhwyraidd.

Darganfu'r tîm ymchwil mai symudiadau’r wyneb pan fo ceffylau’n chwareus oedd y rhai mwyaf deinamig, gan gynnwys cegau agored, gwefusau isaf wedi’u gwthio ar i lawr, genau wedi'u codi ar i fyny, gwyn y llygaid yn weladwy, a’r clustiau wedi'u troi tuag yn ôl.  Mae'r nodweddion hyn yn debyg iawn i "wynebau chwarae" primatiaid a chŵn.

Ar ben hyn, canfu’r astudiaeth symudiad wyneb nas dogfennwyd o'r blaen mewn ceffylau. Mae AUH21, neu'r "tynhawr wyneb", a achosir gan y cyhyr platysma, yn symudiad a welwyd mewn bodau dynol a giboniaid yn unig hyd yma.  Gallai’r darganfyddiad hwn helpu ymchwilwyr i ddeall emosiynau ceffylau yn well a hyd yn oed canfod arwyddion o boen.

Mae i’r ymchwil hwn oblygiadau pellgyrhaeddol, nid yn unig i wyddonwyr, ond i'r rhai sy'n gweithio gyda cheffylau, neu’n gofalu amdanynt. Trwy ddeall yr arwyddion cynnil y mae ceffylau yn eu defnyddio i fynegi eu hunain, gall hyfforddwyr, milfeddygon a pherchnogion ceffylau ddehongli eu cyflwr emosiynol yn well ac ymateb yn fwy priodol.

Cynhaliwyd yr ymchwil gan Brifysgol Portsmouth, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Surrey ac Ysbyty Brooke ar gyfer Anifeiliaid yn Llundain.