Penodi academydd o Brifysgol Aberystwyth i rôl allweddol yn y sector gofal iechyd

Yr Athro Reyer Zwiggelaar

Yr Athro Reyer Zwiggelaar

09 Mehefin 2025

Mae academydd o Brifysgol Aberystwyth wedi’i benodi’n llysgennad ac eiriolwr dros ymchwil iechyd a gofal yng Nghymru mewn asiantaeth fawr a gefnogir gan Lywodraeth Cymru.

Bydd yr Athro Reyer Zwiggelaar o'r Adran Gyfrifiadureg, yn gweithredu fel un o Uwch Arweinwyr Ymchwil, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae gan y rhai a ddewiswyd oll hanes o ddatblygu ymchwilwyr ac adeiladu gallu a chapasiti ymchwil Cymru, yn ogystal ag integreiddio cyfranogiad cleifion a'r cyhoedd mewn ymchwil.

Wedi'u rheoli a'u cefnogi gan Gyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, bydd yr Uwch Arweinwyr Ymchwil yn parhau i neilltuo amser i gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau'r Gyfadran, gan gynnwys paneli cyllido, byrddau a phwyllgorau.

Mae'r Athro Zwiggelaar yn Athro yn yr Adran Gyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ei gefndir ymchwil yw dadansoddi delweddau meddygol a dysgu peirianyddol. Dywedodd:

“Mae’n anrhydedd cael fy mhenodi’n Uwch Arweinydd Ymchwil gyda Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Rwy'n edrych ymlaen at hyrwyddo'r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial i wella ac achub bywydau pobl.”

Dywedodd Gareth Cross, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwyddoniaeth, Ymchwil a Thystiolaeth Llywodraeth Cymru:

"Bydd arbenigedd ac ymroddiad yr Uwch Arweinwyr Ymchwil yn allweddol wrth feithrin arloesedd, cydweithredu a rhagoriaeth yn ein cymuned ymchwil, ac edrychwn ymlaen at weld y cyfraniadau gwerthfawr y byddant yn eu gwneud dros y tair blynedd nesaf."