Cadair Eisteddfod ffoadur rhyfel yn arddangosfa newydd Aberystwyth

Cadair Eisteddfod wedi'i cherfio'n gywrain gan Emile de Vynk, ffoadur o Wlad Belg
11 Mehefin 2025
Bydd Cadair Eisteddfod a wnaed gan ffoadur o Wlad Belg yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn cael ei harddangos yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth y mis hwn yn rhan o arddangosfa newydd am effaith rhyfel a dadleoli yng Nghymru.
Wedi'i churadu gan ymchwilwyr o’r Ganolfan Astudio Symudedd Pobl ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae'r arddangosfa yn dwyn ynghyd weithiau celf ac arteffactau gan bobl a gafodd eu dadleoli i Gymru ar ôl ffoi rhag rhyfel a thrais yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Mae'n adrodd straeon ffoaduriaid, carcharorion rhyfel, a faciwîs o bob cwr o Brydain a geisiodd noddfa yng Nghymru.
Mae'r arddangosfa hefyd yn tynnu sylw at brofiadau rhai sydd wedi cyrraedd yn fwy diweddar, gan gynnwys y rhai sydd wedi'u dadleoli gan wrthdaro yn yr Wcráin a Syria.
Un o'r gweithiau sy'n cael eu harddangos fydd cadair Eisteddfod 1923 wedi'i cherfio'n gywrain gan Emile de Vynk, ffoadur o Wlad Belg a gafodd gynnig lloches yng Nghricieth ym 1914, ar ôl ffoi rhag rhyfela’r Rhyfel Byd Cyntaf. Mae paentiadau gan Fred Uhlman, artist Iddewig a erlidiwyd gan y Natsïaid, hefyd wedi'u cynnwys, ochr yn ochr â ffotograffau atgofus o blant Gwlad y Basg a symudwyd ym 1937 a faciwîs o Loegr o 1940 ymlaen.
Dywedodd Andrea Hammel, Athro Almaeneg a Chyfarwyddwr y Ganolfan Astudio Symudedd Pobl:
"Nod yr arddangosfa hon yw tynnu sylw at hanes hir y dadleoli a achosir gan ryfel. Er bod coffáu diwedd yr Ail Ryfel Byd yn Ewrop y mis diwethaf yn canolbwyntio'n bennaf ar ymladdwyr a chymunedau lleol, rydym eisiau dangos profiad y rhai a oedd yn gorfod gadael eu cartrefi. Erbyn 1945 roedd 60 miliwn o bobl wedi'u dadleoli yn Ewrop yn unig, ac roedd Cymru yn darparu noddfa i lawer."
Mae'r arddangosfa yn cyferbynnu celf ac arteffactau hanesyddol â gweithiau cyfoes gan artistiaid proffesiynol a chymunedol o Syria a'r Wcráin sydd wedi ailymgartrefu yng Nghymru yn ystod y degawd diwethaf.
Ychwanegodd y cyd-guradur, Dr Morris Brodie:
"Hoffem wahodd ymwelwyr i fyfyrio ar hanes y dadleoli i Gymru, ac ar y gwersi i'w dysgu ar gyfer heddiw. Fe wnaethom gasglu cyfraniadau gan ddisgynyddion carcharorion rhyfel o’r Eidal, yn ogystal â'r gymuned Bwylaidd a De Asiaidd. Rydym hefyd yn dangos gweithiau celf a grëwyd gan aelodau o'n cymuned a ddadleolwyd yn llawer mwy diweddar."
Un artist o’r fath yw Victoria Kazimova, y mae ei phaentiadau yn pwyso a mesur effaith dadleoli ar hunaniaeth:
"Gan dynnu ar iaith weledol paentio crefyddol Ewropeaidd, rwy'n portreadu Wcreiniaid cyfoes - yn aml plant - gan ddefnyddio patrymau traddodiadol fel symbolau o hunaniaeth a pherthyn i'w cenedl - ymdeimlad sy'n dod yn arbennig o hanfodol mewn cyfnodau o ddadleoli."
Arddangosfa arall yw model o Gastell Aleppo, wedi'i grefftio gan y gof o Syria, Mohamad Karkoubi, sydd bellach yn byw yn Aberystwyth. Mae'r model yn crynhoi ei atgofion o Syria fel yr oedd cyn y rhyfel.
"Mae creu'r model yn fy ngwneud yn hiraethus am fy mhlentyndod," meddai.
Bydd yr arddangosfa i'w gweld yn Oriel 2, Canolfan y Celfyddydau , o 14 Mehefin tan 27 Hydref 2025, cyn symud i Oriel y Senedd ym Mae Caerdydd.
Cynhelir digwyddiad lansio cyhoeddus ar 14 Mehefin am 16:30, a Sgwrs gan yr Artist ar 24 Mehefin am 16:30.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Athro Andrea Hammel (anh17@aber.ac.uk).