Trapiau fioled yn well ar gyfer rheoli pryfed sy'n cnoi - ymchwil

Mae rheoli pryfed yn rhan bwysig o reoli clefydau – Llun gan David Cardinez o Pixabay

Mae rheoli pryfed yn rhan bwysig o reoli clefydau – Llun gan David Cardinez o Pixabay

26 Mehefin 2025

Mae trapiau lliw fioled yn well am reoli pryfed na’r rhai glas a du traddodiadol, yn ôl ymchwil newydd.

Mae Dr Roger Santer o Brifysgol Aberystwyth wedi gweithio gydag academyddion yng Nghenya i wella’r targedau wedi'u gorchuddio â phryfleiddiaid a ddefnyddir i reoli pryfed sy'n cario clefydau yn Affrica Is-Sahara.

Trwy fodelu golwg pryfed, llwyddodd Dr Santer i ganfod pa nodweddion mewn lliwiau sy’n atyniadol i bryfed, gan ei alluogi i greu lliw a fyddai’n atyniad cryfach iddynt. 

Gan ganolbwyntio i ddechrau ar bryfed tsetse, y mae eu brathiadau yn trosglwyddo parasitiaid sy'n gallu achosi 'Clefyd Cysgu' mewn pobl a chlefyd 'nagana' mewn gwartheg, creodd y tîm ymchwil ffabrig polyester fioled, gan gadarnhau ei fod yn fwy atyniadol na’r ffabrigau glas neu ddu a ddefnyddir yn draddodiadol.

Fe wnaeth yr ymchwil ddiweddaraf, a gyhoeddwyd yn y Journal of Economic Entomology, astudio dwy rywogaeth arall o bryfed sy'n trosglwyddo clefydau i bobl ac anifeiliaid – sef pryfed y cyrn a chlêr - a dangoswyd fod targedau fioled hefyd yn perfformio'n well na thargedau glas a du traddodiadol wrth ddenu'r rhywogaethau hyn.

Dywedodd Dr Roger Santer o Adran y Gwyddorau Bywyd ym Mhrifysgol Aberystwyth:

"Tra bod pryfed tsetse yn effeithio ar iechyd a lles pobl a da byw yn Affrica Is-Sahara, mae pryfed y cyrn a chlêr yn broblem fyd-eang."

"Mae ein darganfyddiad newydd fod targedau fioled yn gallu rheoli nifer o blâu arwyddocaol ar yr un pryd yn pwysleisio mor bwysig yw dealltwriaeth fiolegol wrth reoli plâu yn ymarferol, ac mae’n agor y drws i greu offer cost-effeithiol i reoli clêr, a allai wella iechyd a chynhyrchiant da byw, a lleihau trosglwyddiad clefydau ledled y byd."

Cleren - Llun gan Jin Yeong Kim o Unsplash

Roedd yr astudiaeth yn cynnwys treialon maes yng Nghenya, lle bu’r ymchwilwyr yn cymharu faint o bryfed oedd yn cael eu dal gan dargedau a wnaed o bolyester fioled o’i gymharu â’r ffabrigau glas a du safonol.

Dywedodd Dr Mike Okal, gwyddonydd yng Nghanolfan Ryngwladol Ffisioleg ac Ecoleg Pryfed pan gynhaliwyd yr ymchwil:

"Roedd yn anrhydedd cael cyfrannu ein harbenigedd wrth gynnal treialon yng Nghenya. Mae'r ymdrech gydweithredol hon gyda Dr Santer a Phrifysgol Aberystwyth wedi arwain at greu offer addawol ar gyfer lliniaru effaith pryfed sy'n peri bygythiadau sylweddol i iechyd milfeddygol ac i iechyd y cyhoedd."

Ariannwyd yr astudiaeth gan Gronfa Ymchwil i Heriau Byd-eang CCAUC a ddosbarthwyd trwy’r Ganolfan Ymchwil Datblygu Rhyngwladol yn Aberystwyth, a Gweinyddiaeth Cydweithredu a Datblygu Economaidd yr Almaen trwy'r Deutsche Gesellschaft fur Internationale Zusammenarbeit a ddyfarnwyd i Ganolfan Ryngwladol Ffisioleg ac Ecoleg Pryfed, Kenya.