Canlyniadau campus i Brifysgol Aberystwyth mewn arolwg myfyrwyr y DU

Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth
09 Gorffennaf 2025
Aberystwyth yw’r brifysgol orau yng Nghymru am foddhad myfyrwyr am y degfed flwyddyn yn olynol yn ôl yr arolwg diweddaraf o farn myfyrwyr am ansawdd eu cyrsiau.
Mae rhifyn 2025 o’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr awdurdodol, sydd wedi ei gyhoeddi heddiw, wedi’i lunio gan ddefnyddio dros 357,000 o ymatebion gan fyfyrwyr o bob rhan o’r Deyrnas Gyfunol.
Gyda chyfradd boddhad myfyrwyr gwell a chyson uchel, mae 86% o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn fodlon ag ansawdd eu cwrs, 4 pwynt canran yn uwch na chyfartaledd y sector yng Nghymru.
Ar sail y sefydliadau addysg uwch sydd wedi eu rhestru yng nghanllaw prifysgolion diweddaraf The Times / Sunday Times, mae 90% o fyfyrwyr y Brifysgol yn fodlon â’r dysgu, yn gosod Aberystwyth yn y 10 uchaf yn y Deyrnas Gyfunol.
Mae Aberystwyth hefyd yn y 5 uchaf yn y Deyrnas Gyfunol ar gyfer ‘Cymorth Academaidd’ ac ‘Adnoddau Dysgu’ ac yn y 10 uchaf yn y Deyrnas Gyfunol ar gyfer ‘Asesu ac Adborth’ a ‘Trefniadaeth a Rheolaeth’.
Mae Aberystwyth wedi perfformio’n well na’r sector ar draws y Deyrnas Gyfunol ym mhob un o saith thema graidd yr arolwg eleni: Addysgu ar Fy Nghwrs, Cyfleoedd Dysgu, Asesu ac Adborth, Cymorth Academaidd, Trefniadaeth a Rheolaeth, Adnoddau Dysgu a Llais Myfyrwyr.
Dywedodd yr Athro Anwen Jones, Dirprwy Is-Ganghellor dros Addysg a Phrofiad Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth:
“Dyma newyddion ffantastig. Mae gan ein Prifysgol enw da hir sefydlog a rhagorol am foddhad myfyrwyr ac mae canlyniadau heddiw’n tanlinellu hynny. Maen nhw’n dangos unwaith eto bod ein myfyrwyr o’r farn fod Prifysgol Aberystwyth yn un o’r prifysgolion gorau yn y Deyrnas Gyfunol, gan adlewyrchu ymroddiad ein staff i ddarparu’r profiad dysgu gorau posibl.
“Mae canlyniadau’r arolwg yn rhagor o dystiolaeth ein bod ni’n le penigamp i ddysgu ac addysgu.
“Mae Aberystwyth yn lle cynhwysol, croesawgar a chefnogol, wedi’n lleoli yn un o’r mannau astudio mwyaf ysbrydoledig yn y Deyrnas Gyfunol. Mae ein tref yn gymuned gyfeillgar a bywiog, a lle diogel a fforddiadwy sy’n croesawu staff a myfyrwyr o bob cwr o’r byd.”
Dywedodd Undeb Aber, y corff myfyrwyr yn y Brifysgol:
“Mae’n wych gweld yr NSS unwaith eto’n cefnogi’r hyn rydyn ni eisoes yn ei wybod - mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig profiad gwych i fyfyrwyr. Rydym ni’n falch o weithio ochr yn ochr â staff y Brifysgol i wneud yn siŵr bod myfyrwyr Aber wrth eu bodd â bywyd myfyrwyr. Mae’r canlyniad hwn yn dyst i’r gwaith anhygoel sy’n parhau i ddigwydd ar draws y sefydliad.”
Mae’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn arolwg blynyddol o fyfyrwyr mewn prifysgolion, colegau a darparwyr eraill ar draws y DU.
Mae'n gofyn i fyfyrwyr israddedig sydd yn eu blwyddyn olaf i sgorio eu prifysgol ar draws ystod eang o fesuriadau boddhad myfyrwyr.
Roedd cyfle hefyd i fyfyrwyr yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon i fynegi boddhad cyffredinol gyda’u prifysgol.
Caiff yr arolwg ei reoli gan Swyddfa’r Myfyrwyr (Office for Students – OfS) ar ran cyrff cyllido a rheoleiddio’r DU – Adran yr Economi (Gogledd Iwerddon), Cyngor Cyllido’r Alban a Medr.