Cyfle i gymunedau gwledig Cymru ennill grant gwerth £20,000 i sbarduno newid

09 Gorffennaf 2025
Gwahoddir cymunedau gwledig ledled Cymru i wneud cais am grant newydd gwerth £20,000 i ystyried syniadau a allai helpu i greu dyfodol gwell i'w hardal.
Bydd y Grant Ymchwil Gweithredu a Arweinir gan y Gymuned yn ariannu hyd at chwe phrosiect ymchwil ac yn darparu hyfforddiant a chefnogaeth gan fentor academaidd a chyfleoedd i gysylltu â chymunedau ac ymchwilwyr eraill.
Darperir y grant gan Bartneriaeth Polisi ac Arloesi Lleol (LPIP) Cymru Wledig, a arweinir gan Brifysgol Aberystwyth.
Meddai'r Athro Mike Woods o Brifysgol Aberystwyth, Cyfarwyddwr Cymru Wledig LPIP Rural Wales:
"Diben y rhaglen hon yw rhoi'r adnoddau a'r gefnogaeth i gymunedau gwledig i ymchwilio i'r hyn sy'n bwysicaf iddyn nhw - boed gwella lles, mynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd, neu gryfhau’r diwylliant lleol - ac i droi'r wybodaeth honno'n gamau gweithredu."
"Mae hwn yn gyfle i gymunedau gymryd yr awenau wrth lunio eu dyfodol eu hunain, ac rydym yn falch o gefnogi prosiectau sy'n adlewyrchu creadigrwydd, gwytnwch ac uchelgais cymunedau yng nghefn gwlad Cymru."
Mae'r grant yn agored i gymunedau yn ardaloedd gwledig Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd, Ynys Môn, Sir Fynwy, Sir Benfro, Powys a Bro Morgannwg.
Rhaid i brosiectau gydweddu ag o leiaf un o bedair thema allweddol Cymru Wledig LPIP Rural Wales, sef: adeiladu economi adfywiol; cefnogi'r pontio i Sero Net; grymuso cymunedau ar gyfer adferiad diwylliannol; neu wella lles yn ei le.
Mae rhagor o wybodaeth am y Grant Ymchwil Gweithredu a arweinir gan y Gymuned, sydd ar agor am geisiadau tan 29 Awst 2025, ar gael ar wefan Gyda'n Gilydd Dros Newid.
Darperir y gronfa gan Ymchwil ac Arloesi y DU (UKRI), y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC), ac Innovate UK fel rhan o Cymru Wledig LPIP Rural Wales, dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth.