Gwobr lles i ‘gardiau tawelwch meddwl’ myfyrwraig

Holly Abbott
10 Gorffennaf 2025
Mae myfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth wedi ennill gwobr am ei gwaith iechyd meddwl yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.
Mae Holly Abbott, sydd yn ei blwyddyn gyntaf yn astudio Addysg, wedi bod yn cynnal mudiad iechyd meddwl nid-am-elw ar ei phen ei hun am dros 5 mlynedd – ers iddi fod yn 15 mlwydd oed.
Mae hi'n creu pecynnau gofal a chardiau i bobl ledled y Deyrnas Gyfunol sy'n wynebu heriau iechyd meddwl, gan gynnwys dros 100 o staff yn ei hen ysgol uwchradd.
Mae hi wedi anfon dros 500 o gardiau a phecynnau sy’n cynnwys manylion llinell gymorth. Mae’i phrosiectau yn cynnwys pecynnau atal hunan-niweidio ‘prosiect pili-palaod’ a ‘phecynnau panicio’ ar gyfer atal digwyddiadau gorbryder.
Dyfarnwyd y wobr Pencampwraig Lles Ifanc iddi hi gan Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru ac Academic Heddwch Cymru mewn seremoni yn Llangollen.
Canmolwyd Holly, sydd o Swydd Hertford, gan y panel dyfarnu am ei ‘charedigrwydd a menter feddylgar’ ar gyfer ‘pobl sy’n cael trafferth â’u hiechyd meddwl’.
Wrth ymateb i’w llwyddiant yn y gwobrau, dywedodd myfyrwraig Prifysgol Aberystwyth Holly Abbott:
“Dwi mor ddiolchgar fy mod i wedi ennill y wobr hon. Mae Cardsofcalm wedi bod yn destun angerdd i mi am y 5 mlynedd diwethaf ac mae’n galonogol teimlo cymaint o groeso yma yn Aberystwyth. Dwi’n gobeithio parhau i gefnogi pobl yn y gymuned leol yn ogystal ag ar draws y Deyrnas Gyfunol gymaint â phosibl ochr yn ochr â’m gradd, sy’n cael ei gwneud yn bosibl achos fy adran anhygoel. Diolch iddyn nhw am ddangos cymaint o gefnogaeth i mi. Mae iechyd meddwl yn rhywbeth sy’n effeithio ar bob un ohonon ni, mewn ffyrdd cadarnhaol a negyddol, felly mae’n bwysig cydnabod a chefnogi’r rhai mewn angen yn y ffordd orau y gallwn ni. Dydych chi byth ar eich pen eich hun!”
Ychwanegodd Prysor Davies, Pennaeth Ysgol Addysg Prifysgol Aberystwyth:
“Llongyfarchiadau mawr iawn i Holly am ei gwaith gwych ac ysbrydoledig. Dros y 5 mlynedd diwethaf mae effaith Holly wedi bod yn bellgyrhaeddol gyda channoedd o bobl ifanc a staff yn ei phrifysgol, ei chymuned a thu hwnt yn derbyn cardiau, nodiadau hunangymorth neu becynnau gofal.
“Mae hi wedi dangos ei bod yn arweinydd ifanc gydag ysbryd mentrus: gan ddefnyddio ei sgiliau cyfryngau cymdeithasol a dylunio ynghyd â’i hempathi i gefnogi eraill i estyn allan. Roedd staff y brifysgol yn gwerthfawrogi’r pecynnau’n fawr iawn - fe wnaethon nhw wahaniaeth go iawn.”