Prifysgol Aberystwyth yn cyhoeddi Cymrodoriaethau a Doethuriaethau er Anrhydedd 2025

Rakie Ayola, Elizabeth Treasure CBE, Jamal Hassim, Linda Tomos CBE, Rob McCallum FRGS, Sara Clancy

Rakie Ayola, Elizabeth Treasure CBE, Jamal Hassim, Linda Tomos CBE, Rob McCallum FRGS, Sara Clancy

10 Gorffennaf 2025

Bydd Cymrodoriaethau er Anrhydedd yn cael eu cyflwyno i bobl eithriadol ym meysydd technoleg y cyfryngau, y celfyddydau perfformio a'r sector addysg uwch yn seremonïau graddio Prifysgol Aberystwyth.

Cyflwynir y anrhydeddau gan y Brifysgol i bobl sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol yn eu maes ac sydd â chysylltiad ag Aberystwyth neu â Chymru.

Dyma Gymrodyr er Anrhydedd 2025:

  • Rakie Ayola: cynhyrchydd ac actor sydd wedi ennill sawl BAFTA a chlod gan y beirniaid
  • Jamal Hassim: cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Bolt Global, ymarferydd yn y cyfryngau ac arloeswr digidol blaenllaw.
  • Elizabeth Treasure CBE: arweinydd addysg uwch a chyn Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.

Yn ogystal, bydd tri unigolyn yn derbyn Doethuriaeth er Anrhydedd i gydnabod llwyddiant eithriadol yn eu meysydd, sef:

  • Sara Clancy: cefnogwr a hyrwyddwr ymarfer busnes cyfrifol a chynaliadwy yn Affrica.
  • Rob McCallum FRGS: ffigwr o fri rhyngwladol ym meysydd archwilio’r dyfnforoedd, gwyddoniaeth ddyngarol a chadwraeth.   
  • Linda Tomos CBE: Llyfrgellydd Cenedlaethol benywaidd cyntaf Cymru, a weithiodd am dros 50 mlynedd ym mhroffesiwn llyfrgellyddiaeth.

Dywedodd yr Athro Jon Timmis, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: "Mae graddio yn golygu dod at ein gilydd i ddathlu llwyddiant ein graddedigion ac i roi croeso cynnes i'w cefnogwyr. Mae'n benllanw blynyddoedd o ymroddiad, dyfalbarhad a thwf deallusol, ac mae'n briodol iawn iddynt gael y clod y maent yn ei haeddu.

"Braint hefyd yw dathlu llwyddiannau ein Cymrodyr a'n Doethurion er Anrhydedd. Mae pob un o'r unigolion hyn wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu maes arbenigol, boed hynny yn y celfyddydau, addysg uwch, y cyfryngau, archwilio, treftadaeth ddiwylliannol Cymru neu weithgareddau elusennol. Edrychaf ymlaen at eu hanrhydeddu am eu cyfraniad."

Cynhelir dathliadau graddio'r Brifysgol rhwng 15-17 Gorffennaf mewn saith seremoni yn Neuadd Fawr Canolfan y Celfyddydau.