Helpu ffermwyr i fynd i'r afael â chlefyd parasitig difrifol mewn da byw

Dr Rhys Aled Jones sy’n arwain y prosiect ymchwil ar leihau achosion o lyngyr yr iau mewn da byw.

Dr Rhys Aled Jones sy’n arwain y prosiect ymchwil ar leihau achosion o lyngyr yr iau mewn da byw.

23 Gorffennaf 2025

Mae angen canllawiau gwell ac offer ymarferol i helpu ffermwyr i fynd i'r afael mewn ffordd gynaliadwy â'r broblem fawr o heintiau llyngyr yr iau mewn da byw, yn ôl ymchwil newydd.

Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi siarad yn eang â ffermwyr ledled Cymru ac yn dweud bod eu canfyddiadau cynnar yn dangos bod yna gryn ansicrwydd ynghylch rheoli'r clefyd parasitig yma sy'n effeithio ar y rhan fwyaf o ddiadelloedd defaid a buchesi gwartheg yn y Deyrnas Gyfunol.

Credir bod yr haint yn costio hyd at £300 miliwn y flwyddyn i ddiwydiant da byw'r DG yn sgil lefelau cynhyrchiant is, cyfraddau marwolaethau uwch a chostau milfeddygol.

Yn ogystal, mae ymwrthedd cynyddol i'r cyffuriau a ddefnyddir i drin y clefyd tra bod newidiadau yn yr hinsawdd yn creu amodau mwy ffafriol lle gall y parasit ffynnu.

Fel rhan o brosiect tair blynedd a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Biotechnoleg a Biolegol (BBSRC), mae

ymchwilwyr yn datblygu dulliau newydd o reoli'n fwy effeithiol y llyngyren parasitig sy'n achosi llyngyr yr iau.

Maen nhw’n torri tir newydd trwy ddefnyddio technegau DNA amgylcheddol i ganfod yn fanwl gywir bresenoldeb malwod mwd ar dir fferm. Y falwen hon sy'n gweithredu fel llu canolradd rhwng y parasit a da byw.

Maen nhw hefyd yn cynnal dadansoddiad manwl o amodau pridd ar y fferm i nodi ble mae'r falwen mwd yn fwyaf tebygol o fyw a ffynnu.

Prif Ymchwilydd y prosiect, Dr Rhys Aled Jones o Adran Gwyddorau Bywyd y Brifysgol, sy’n amlinellu buddion posibl yr ymchwil:

“Ein nod yw datblygu strategaethau cynaliadwy, arloesol a rhoi gwell canllawiau ac offer ymarferol i ffermwyr fel eu bod yn cael gwell cefnogaeth yn eu hymdrechion i reoli llyngyr yr iau, sydd wedi datblygu’n broblem ddifrifol ar ffermydd ledled Cymru a gweddill y Deyrnas Gyfunol.

“Os gall ein hymchwil helpu i reoli’r parasit hwn yn fwy effeithiol, bydd manteision economaidd drwy gynhyrchiant gwell yn ogystal â manteision amgylcheddol. Mae llyngyr yr iau yn haint niweidiol felly bydd manteision hefyd o ran lles anifeiliaid ac mae sicrhau bod anifeiliaid yn iach yn un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o liniaru effaith amgylcheddol systemau cynhyrchu da byw.”

Fel rhan o brosiect FlukeMAP, a lansiwyd yn 2023, mae parasitolegwyr a gwyddonwyr milfeddygol y Brifysgol wedi bod yn gweithio’n agos gyda 16 o ffermwyr defaid o bob cwr o Gymru.

Mae eu hymchwil helaeth wedi cynnwys cynnal cyfweliadau manwl gyda’r ffermwyr, cynnal arolygon cynhwysfawr yn asesu risgiau haint ar draws tir fferm a monitro lefelau haint mewn defaid sy’n pori.

Mae sawl thema gyffredin eisoes wedi dod i’r amlwg o ddadansoddi’r cyfweliadau a’r data a gasglwyd fel rhan o’r prosiect, fel yr eglura Dr Gwen Rees o Ysgol Filfeddygaeth Aberystwyth:

“Mae llyngyr yr iau yn glefyd cymhleth, ac mae’r cyngor sydd ar gael i ffermwyr gan filfeddygon a’r diwydiant yn gymysg ac weithiau’n gwrthdaro. Nid yw’n syndod efallai ein bod wedi canfod bod llawer o ansicrwydd, gyda ffermwyr yn aml yn ansicr ynghylch sut i wneud diagnosis, pryd orau i drin, pa ardaloedd allai fod yn gynefin tebygol i’r haint ac a oes ganddyn nhw broblem llyngyr yr iau ai peidio.

“O ganlyniad i’w hancsicrwydd ynghylch risg clefydau a’r ffordd orau o’i reoli, roedd ffermwyr yn aml yn nodi bod angen defnyddio cyffuriau lladd llyngyr yr iau fel mesur rhagofalus, ond gall hyn arwain at ymwrthedd i’r driniaeth yn ogystal ag at weddillion meddyginiaeth yn yr amgylchedd.”

Amlygwyd ansicrwydd pellach gan arolygon a wnaed i asesu ardaloedd ar ffermydd lle roedd yr haint yn risg, meddai Dr Rhys Aled Jones:

“Mae risg llyngyr yr iau fel arfer yn gysylltiedig ag amodau gwlyb. Fodd bynnag, mae amseriad a hyd yr amodau gwlyb hyn yn hanfodol wrth bennu risg haint. Gwnaeth ein hymchwil ganfod hefyd gysylltiadau cryf rhwng nodweddion pridd, yn enwedig lefelau pH a deunydd organig a phresenoldeb y falwen mwd sy’n gyfrifol am drosglwyddo llyngyr yr iau i dda byw. Anaml y byddai ffermwyr yn ystyried y ffactorau yma wrth asesu risg ar eu tir ac mae hyn yn dangos yr angen i ddarparu canllawiau gwell i gefnogi asesiadau risg mwy cywir.”

“Gall nodi’n fanwl gywir ardaloedd lle mae llyngyr yr iau yn risg ar ffermydd gefnogi strategaethau rheoli mwy cynaliadwy. Mae’r rhain yn cynnwys gwneud y defnydd gorau o brofion diagnostig a thriniaethau, a gweithredu arferion rheoli tir a phori wedi’u targedu i leihau’r tebygolrwydd o haint.”

Mae ymchwilwyr yn rhannu eu canfyddiadau diweddaraf gyda chynulleidfa o ffermwyr a chynrychiolwyr y diwydiant ar faes Sioe Frenhinol Cymru ar ddydd Mercher 23 Gorffennaf.

Wedi'i ariannu gan y BBSRC a Phrifysgol Aberystwyth, mae FlukeMAP yn brosiect ymchwil cydweithredol sy'n dwyn ynghyd bartneriaid allweddol gan gynnwys Cyswllt Ffermio, Canolfan Gwyddor Filfeddygol Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru a chwmni Ridgeway Research.

Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect ar wefan y Brifysgol: https://www.aber.ac.uk/cy/rbi/research/research-in-action/helping-farmers-to-fight-liver-fluke/