Y Gymraeg ‘yn ymylol iawn’ i fargeinion twf y llywodraeth

Dr Huw Lewis, Prifysgol Aberystwyth
28 Gorffennaf 2025
Dim ond ystyriaeth ‘ymylol iawn’ a roddwyd hyd yma i’r Gymraeg wrth ddatblygu bargeinion twf rhanbarthol yng ngogledd a gorllewin Cymru, yn ôl ymchwil gan academydd o Brifysgol Aberystwyth.
Daw’r canfyddiadau newydd o adolygiad o gynnwys dogfennau polisïau datblygu economaidd gan Dr Huw Lewis sy’n dangos mai ychydig iawn o sylw a roddwyd i’r Gymraeg wrth ddatblygu bargeinion twf yn y Gogledd, y Canolbarth a’r De-Orllewin.
Mae Bargeinion Dinesig a Thwf yn becynnau ariannu sydd â’r nod o gefnogi twf, creu swyddi neu fuddsoddi mewn rhanbarthau penodol. Caiff y gwaith o’u datblygu a’u cyflwyno ei arwain gan gonsortiwm o awdurdodau lleol, gyda’r cyllid craidd yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol a Llywodraeth Cymru.
Mae canfyddiadau ymchwil Dr Lewis hefyd yn awgrymu na roddwyd unrhyw ystyriaeth ddifrifol i waith y rhaglen ARFOR hyd yma fel rhan o ddatblygiad y bargeinion twf.
Bu ARFOR yn fenter ar y cyd gan Gynghorau Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn oedd yn anelu at ddatblygu'r economi i gefnogi cadarnleoedd y Gymraeg, a ddaeth i ben ym mis Mawrth eleni.
Mewn ymateb diweddar i adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, datganodd Llywodraeth Cymru y bydd yn ‘ystyried cyfleoedd i brif ffrydio polisi cynllunio ieithyddol o fewn polisi economaidd ehangach’.
Mae’r bargeinion twf yn destun ymchwiliad cyfredol gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig Senedd Cymru.
Wrth siarad am y canfyddiadau ymchwil, dywedodd Dr Huw Lewis o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth:
“Er bod ARFOR wedi’i greu gydag amcanion iaith penodol mewn golwg dim ond un rhaglen economaidd – ac un cymharol fach – ydy hwn o blith nifer helaeth o ymyriadau.
“Ymhellach gellir tybio y bydd effaith hirdymor mentrau eraill, megis y Bargeinion Dinesig a Thwf, yn llawer mwy pellgyrhaeddol nag unrhyw beth y gellir ei ddisgwyl yn rhesymol o raglen ARFOR, o ystyried y lefelau llawer mwy o fuddsoddi cyhoeddus a phreifat sydd ynghlwm â hwy. Fodd bynnag, hyd yma, ymddengys mai dim ond ystyriaeth ymylol iawn fu’r Gymraeg fel rhan o ddatblygiad y cynlluniau hyn.
“Os ydym am ddod i ddeall yn llawn i ba raddau y mae ystyriaeth o sefyllfa’r Gymraeg yn cael ei integreiddio i’r broses o greu polisi datblygu economaidd, mae’n hollbwysig nad ydym yn canolbwyntio ar ARFOR yn unig. Mae angen ystyried i ba raddau y mae ystyriaeth i’r Gymraeg wedi’i hintegreiddio hefyd yn y broses o lunio mentrau datblygu economaidd eraill sy’n llawer mwy ac yn fwy hirdymor.
“Yn fwy penodol, dylid edrych i ba raddau y mae strategaethau neu fentrau datblygu economaidd allweddol eraill, er enghraifft y bargeinion twf a dinesig rhanbarthol, wedi ystyried eu potensial i gefnogi ardaloedd sydd â dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg neu i hwyluso mwy o ddefnydd o’r Gymraeg o ddydd i ddydd.”
Mae astudiaeth Dr Lewis hefyd yn dangos y bu gwelliant graddol yn lefel yr ystyriaeth i’r Gymraeg yn strategaethau datblygu economaidd Llywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod rhwng 2002-21. Fodd bynnag, dengys yr ymchwil fod y duedd honno wedi newid yn 2023 pan gyhoeddwyd strategaeth ddiweddaraf y Llywodraeth.
Ychwanegodd Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth:
“Mae’r rhagolygon ar gyfer ieithoedd fel y Gymraeg yn gallu cael eu dylanwadu gan benderfyniadau sy’n mynd ar draws pob maes polisi.
“Mae canfyddiadau’r ymchwil yn dangos bod gwahaniaeth amlwg rhwng lefel yr ystyriaeth a roddwyd i’r Gymraeg yn y strategaethau economaidd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru o gymharu â’r dogfennau allweddol a gyhoeddwyd wrth ddatblygu bargeinion twf Gogledd Cymru, Canolbarth Cymru a De-Orllewin Cymru. Ar lefel y bargeinion twf, roedd yr iaith yn ymylol iawn i’r polisi.
“O ystyried pa mor allweddol yw’r economi i ragolygon yr iaith Gymraeg y gobaith yw y gall canfyddiadau’r ymchwil hybu trafodaeth bellach ar sut i brif ffrydio ystyriaeth o’r iaith i holl raglenni datblygu economaidd Llywodraeth Cymru a’n hawdurdodau lleol.”
Cynhaliwyd yr ymchwil fel rhan o rhan o raglen waith tendr ymchwil 18-mis lle bu ymchwilwyr o Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cydweithio â Wavehill er mwyn adolygu a gwerthuso gwaith rhaglen ARFOR II.