Pobl nid rhewlifau a gludodd gerrig gleision o Gymru i Gôr y Cewri – ymchwil newydd

Yr Athro Richard Bevins o'n Hadran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear

Yr Athro Richard Bevins o'n Hadran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear

29 Gorffennaf 2025

Cafodd cerrig gleision byd-enwog Côr y Cewri eu cludo o Sir Benfro i Wastadfaes Caersallog gan bobl ac nid rhewlifoedd fel yr honnwyd yn flaenorol, yn ôl ymchwil wyddonol newydd.

Mae tîm o arbenigwyr dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth - ac mewn cydweithrediad â gwyddonwyr yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL), Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Caerwysg - wedi ail-ymweld â’r dadleuon ynghylch a gafodd y cerrig mawrion eu symud dros 200km o orllewin Cymru i Swydd Wilton gan rew neu bobl.

Fel rhan o’u hastudiaeth, buon nhw’n canolbwyntio ar ‘glogfaen Newall’, a gloddiwyd yn Stonehenge ym 1924 ac a fu’n ganolog i’r drafodaeth yn y degawdau diwethaf.

Mae rhai astudiaethau wedi disgrifio clogfaen Newall fel maen dyfod rhewlifol, gan gefnogi'r ddamcaniaeth mai rhew oedd yn gyfrifol am gludo'r creigiau a ddefnyddiwyd i godi’r cylch cerrig enwog ar Wastadfaes Caersallog.

Serch hynny mae aelodau o’r tîm dan arweiniad Aberystwyth wedi cynnal archwiliad manwl o glogfaen Newall – gan ddefnyddio technegau dadansoddi pelydr-x, geocemegol a microsgopig yn ogystal â dadansoddi gweadedd arwynebedd – ac maen nhw’n dweud “nad oes tystiolaeth i gefnogi’r dehongliad ei fod yn faen dyfod rhewlifol”.

Daw’r astudiaeth i'r casgliad hefyd bod clogfaen Newall yn ddarn o rhyolit oedd yn weddill o’r broses cynhyrchu offer cerrig. Fe ddaeth yn wreiddiol o Graig Rhos-y-Felin yng ngogledd Sir Benfro ac fe’i cludwyd i Gôr y Cewri gan bobl Neolithig. Hon o bosib oedd rhan uchaf Carreg 32d sydd bellach wedi torri â’i darn gwaelod wedi’i gladdu tan ddaear.

Cyhoeddir eu canfyddiadau yng nghyfnodolyn y Journal of Archaeological Science: Reports, ac fe’u disgrifir fel y crynodeb mwyaf cyflawn hyd yma o'r data gwyddonol cyhoeddedig sy’n ymwneud â chlogfaen Newall.

Dywedodd prif awdur y papur, yr Athro Richard Bevins o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth:

“Rydyn ni wedi cynnal archwiliadau manwl o glogfaen Newall Côr y Cewri a’i gymharu â channoedd o samplau o graig o Sir Benfro. Mae ein canfyddiadau’n cynnig tystiolaeth ddigamsyniol bod y clogfaen wedi’i wahanu oddi wrth biler o rhyolit a ddeilliodd o Graig Rhos-y-Felin, gyda samplau yn dangos nodweddion petrolegol a mwynegol union yr un fath nas canfuwyd yn unman arall yn Sir Benfro er gwaethaf chwilio helaeth.

“Mewn cydweithrediad â chydweithwyr archeolegol, canfuwyd tystiolaeth gref o weithgaredd chwarela helaeth yng Nghraig Rhos-y-Felin yn y cyfnod Neolithig, sy’n ategu ymhellach ein dadl mai pobl a gludodd y cerrig o Sir Benfro i Swydd Wilton. Byddai hynny wedi bod yn gamp anhygoel ond, fel y dengys Côr y Cewri ei hun, byddai wedi bod yn bosibl ac mae digon o dystiolaeth y byddai technoleg cludo ar gyfer symud cerrig trwm wedi bod ar gael i bobl Neolithig ar y pryd.

“Yn ogystal, ni ddaethpwyd o hyd i’r garreg las yn unman arall ar Wastadfaes Caersallog ac eithrio yng nghyffiniau agos Côr y Cewri ei hun. Pe baen nhw wedi’u symud yno gan rewlifoedd, byddai dosbarthiad llawer mwy gwasgaredig o gerrig tebyg ar draws y rhanbarth.”

I gloi, dywed awduron yr astudiaeth “rydyn ni’n ategu ein dehongliad blaenorol nad yw clogfaen Newall yn faen dyfod rhewlifol, nad oes tystiolaeth o rewlifiant ar Wastadfaes Caersallog, a bod y cerrig gleision wedi’u cludo i Gôr y Cewri gan bobl ac nid gan rew.”

Mae’r rhestr lawn o awduron fu’n rhan o’r astudiaeth yn cynnwys Richard E. Bevins, Nick J.G. Pearce ac Ian Saunders (Prifysgol Aberystwyth); Rob A. Ixer a Mike Parker Pearson (Coleg Prifysgol Llundain); James Scourse (Prifysgol Caerwysg); Tim Daw, Mike Pitts a David Field (ymchwilwyr annibynnol); Duncan Pirrie (Prifysgol De Cymru) a Matthew Power (Vidence inc.).

Roedd yr Athro Bevins a’r Athro Nick Pearce o Brifysgol Aberystwyth hefyd yn rhan o astudiaeth bwysig a gyhoeddwyd yn 2024 yn dangos mai tywodfaen o ogledd-ddwyrain yr Alban oedd y Maen Allor yng nghanol Côr y Cewri ac nid oedd un o’r cerrig gleision o Fynydd Preseli yn Sir Benfro fel y credwyd cyn hynny.

Mae’r Athro Bevins yn ddiolchgar i Ymddiriedolaeth Leverhulme am ddyfarniad Cymrodoriaeth Emeritws.