Aberystwyth yw Prifysgol Gymreig y Flwyddyn y Daily Mail

Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth
14 Awst 2025
Mae Aberystwyth wedi’i henwi'n Brifysgol Gymreig y Flwyddyn 2026 gan y Daily Mail sy’n canmol y sefydliad am “ragoriaeth” ei addysg uwch.
Gyda chyfanswm o 12 meincnod perfformiad yn amrywio o foddhad myfyrwyr ag ansawdd yr addysgu i gynhwysiant cymdeithasol, tabl cynghrair y Daily Mail yw'r system sgorio ehangaf o 128 o brifysgolion y Deyrnas Gyfunol.
Yn y tabl cynghrair diweddaraf, perfformiodd Prifysgol Aberystwyth yn arbennig o gryf am ansawdd ei haddysgu, cefnogaeth i fyfyrwyr a phrofiad ehangach y myfyrwyr - yn cyrraedd y 12 uchaf yn y Deyrnas Gyfunol ar bob un o'r tri mesur perfformiad. Tynnwyd sylw gan y beirniaid at yr Ysgol Filfeddygaeth fel ystyriaeth allweddol hefyd - yr unig un yng Nghymru.
Gwobr Prifysgol Gymreig y Flwyddyn yw’r diweddaraf mewn cyfres o lwyddiannau nodedig i'r Brifysgol.
Aberystwyth oedd y brifysgol orau yng Nghymru am foddhad myfyrwyr yn ôl yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr diweddaraf, a hynny am y degfed flwyddyn yn olynol.
Fel Coleg Prifysgol cyntaf Cymru, roedd hefyd ar y brig yng Nghymru a Lloegr am brofiad myfyrwyr yng Nghanllaw Prifysgolion Da 2025 The Times/Sunday Times.
Dywedodd yr Athro Jon Timmis, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:
“Mae’r wobr hon yn dyst i ymrwymiad a rhagoriaeth ein staff. Yn dilyn ein canlyniadau gwych yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, gall pob aelod o’n cymuned yma yn Aberystwyth fod yn falch o’n traddodiad hir a balch o wthio ffiniau arloesi a gwybodaeth.
“Ers dros ganrif a hanner, mae ein rhagoriaeth dysgu ac ymchwil wedi ysbrydoli cenedlaethau o bobl i newid bywydau er gwell: yn meithrin gwybodaeth, adeiladu cymunedau a chryfhau Cymru a’r byd yn ehangach.
“Mae’r wobr hon hefyd yn tanlinellu ein statws fel un o’r mannau astudio mwyaf ysbrydoledig yn y Deyrnas Gyfunol. Mae ein tref yn adnabyddus fel cymuned gyfeillgar a bywiog, mewn lle diogel a fforddiadwy sy’n croesawu staff a myfyrwyr o bob cwr o’r byd i wneud Aberystwyth yn gartref iddynt.”
Dywedodd Alastair McCall, Golygydd Canllaw Prifysgolion y Daily Mail:
“Mae myfyrwyr wrth eu bodd ag Aberystwyth. Ers blynyddoedd lawer bellach, mae myfyrwyr wedi rhoi sgoriau rhagorol i’r Brifysgol yn yr Arolwg Cenedlaethol blynyddol o Fyfyrwyr am ansawdd yr addysgu, y gefnogaeth i fyfyrwyr a’r profiad myfyrwyr yn ehangach. Doedd eleni ddim yn eithriad gyda’r Brifysgol yn y 10 uchaf yn y Deyrnas Gyfunol neu ychydig y tu hwnt iddo ar draws y tri mesur perfformiad, yn ôl dadansoddiad gan y Daily Mail.
“Chwaraeodd barn ei myfyrwyr ei hun ran allweddol wrth wneud Aberystwyth yn Brifysgol Gymreig y Flwyddyn y Daily Mail ar gyfer 2026. Mae enw da Aber am ddarparu addysg a phrofiad prifysgol rhagorol ar gynnydd gyda cheisiadau’n rhedeg ar lefelau record. Ymhlith y cyfleusterau rhagorol mae’r unig ysgol filfeddygol yng Nghymru.
“Mae ei lleoliad godidog ar arfordir gorllewin Cymru yn ddiamau yn rhan o’r atyniad, ochr yn ochr â maint y dref a’r Brifysgol, sy’n caniatáu i fyfyrwyr fod yn enwau ac nid rhifau. Mewn byd sydd weithiau’n fanila, mae Aber yn darparu addysg uwch rhagorol. Gyda’i hapêl ar ei huchaf erioed, Aberystwyth oedd yr ymgeisydd dihafal i fod yn Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru y Daily Mail.”