Lansio arolwg troseddau gwledig Cymru i fesur cynnydd

Dr Wyn Morris (chwith) o Ysgol Fusnes Aberystwyth a Dr Gareth Norris o'r Adran Seicoleg Prifysgol Aberystwyth, sydd wedi bod yn gyfrifol am ddatblygu’r arolwg o droseddau mewn ardaloedd gwledig.
18 Awst 2025
Mae arolwg newydd ar droseddau fferm a chefn gwlad ar draws Cymru wedi’i lansio gan Brifysgol Aberystwyth.
Caiff 'Astudiaeth Troseddau Gwledig - LPIP 2025' ei ariannu gan brosiect ymchwil ‘Cymru Wledig LPIP Rural Wales’ a’i gynnal mewn cydweithrediad â phob un o’r pedwar gwasanaeth heddlu yng Nghymru.
Mae arolygon blaenorol a gynhaliwyd ers 2017, wedi arwain at newidiadau yn y ffordd y mae ardal Dyfed-Powys yn cael ei phlismona.
Nod yr astudiaeth ddiweddaraf hon yw asesu'r cynnydd sydd wedi’i wneud wrth fynd i'r afael â chanfyddiadau cymunedol o droseddau fferm a chefn gwlad.
Mae'r arolwg yn ailystyried y prif faterion a godwyd mewn arolygon blaenorol i asesu effeithiolrwydd ymyriadau a barn rhanddeiliaid. Mae ar agor i ffermwyr a thrigolion gwledig sy’n cael eu gwasanaethu gan bedwar heddlu Cymru.
Bydd y canfyddiadau’n llywio gwaith yr heddlu, ffermwyr a chymunedau gwledig ynghyd â chyfrannu at ymchwil academaidd.
Mae'r arolwg wedi'i rannu'n bedair adran allweddol:
- dwyn a difrod i ffermydd
- troseddu yn eich ardal chi
- bywyd gwyllt a'r amgylchedd
- effaith troseddu ar bobl a llesiant
Dywedodd Dr Wyn Morris o Ysgol Fusnes Aberystwyth:
“Mae’r arolwg hwn yn gyfle hollbwysig i ddeall pa mor bell y mae Cymru wedi dod o ran mynd i’r afael â throseddau fferm a chefn gwlad. Drwy edrych ar y canfyddiadau ochr yn ochr ag arolygon blaenorol, byddwn ni’n gallu amlygu’r hyn sy'n gweithio, asesu effaith ymyriadau, nodi heriau parhaus a llywio'r ffyrdd gorau o gefnogi cymunedau gwledig i’r dyfodol.”
Ychwanegodd Dr Gareth Norris o'r Adran Seicoleg:
“Mae troseddau gwledig yn effeithio ar ymdeimlad pobl o ddiogelwch a lles, cymaint ag y mae'n effeithio ar eiddo. Bydd yr Astudiaeth Troseddau Gwledig newydd hwn yn edrych ar effaith y mesurau a gymerwyd i gefnogi cymunedau sydd mewn perygl, ac yn sicrhau bod lleisiau ffermwyr a thrigolion gwledig yn cael eu clywed a'u hadlewyrchu wrth lunio strategaethau cymorth a phlismona.”
Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys:
“Rydyn ni’n deall pa mor ddwfn y gall troseddau gwledig effeithio ar y rhai sy’n cael eu targedu’n uniongyrchol ac mae deall anghenion ein cymunedau gwledig yn parhau i fod yn hanfodol i ddarparu plismona effeithiol ledled ardal Dyfed-Powys. Mae’r arolwg hwn yn gyfle pwysig i bobl rannu eu profiadau a lleisio’u barn drwy gwblhau’r arolwg, ac rwy’n annog trigolion i gymryd ychydig funudau i gwblhau’r arolwg.”
Gellir cwblhau’r arolwg yn dd-ienw ar-lein: https://app.onlinesurveys.jisc.ac.uk/s/aber/rural-crime-survey-lpip-2025-cymraeg