Academydd milfeddygol o Brifysgol Aberystwyth yn derbyn cymrodoriaeth uchel ei bri

Dr Gwenllian Rees, Ysgol Gwyddor Filfeddygol Aberystwyth
20 Awst 2025
Mae academydd o’r unig Ysgol Filfeddygaeth yng Nghymru wedi cael ei hanrhydeddu â chymrodoriaeth uchel ei bri i gydnabod ei chyfraniad eithriadol i'r proffesiwn.
Mae Dr Gwenllian Rees, darlithydd yn Ysgol Filfeddygaeth Prifysgol Aberystwyth, wedi cael ei henwi'n Gymrawd Coleg Brenhinol y Milfeddygon – teitl sydd wedi cydnabod rhagoriaeth yn y maes ers dros 140 mlynedd.
Nod y Gymrodoriaeth yw hyrwyddo safonau milfeddygol trwy wasanaethu fel adnodd sy’n cynnig arbenigedd annibynnol er budd y proffesiwn a'r gymdeithas yn ehangach.
Eleni mae Coleg Brenhinol y Milfeddygon wedi croesawu 51 o filfeddygon i'w Gymrodoriaeth, i ddathlu eu cyflawniadau eithriadol ym meysydd ymarfer clinigol, ymchwil, addysg, gwasanaeth cyhoeddus, ac arweinyddiaeth.
Dr Gwenllian Rees, a ymunodd â Phrifysgol Aberystwyth yn 2021, yw arweinydd y Rhwydwaith Hyrwyddwyr Presgripsiynu Milfeddygol arobryn ar gyfer Arwain DGC - menter gydweithredol sy'n dwyn ynghyd academyddion, milfeddygon a'r diwydiant iechyd anifeiliaid yng Nghymru i helpu i fynd i'r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd.
Cymhwysodd fel milfeddyg o Brifysgol Lerpwl, a bu’n gweithio am sawl blwyddyn mewn practis ffermydd gwledig a cheffylau yng Nghymru a Seland Newydd, gan ennill ei PhD o Brifysgol Bryste.
Hi yw Uwch Is-lywydd Cangen Cymru o Gymdeithas Filfeddygol Prydain ac mae’n Ymddiriedolwr y Sefydliad Lles Anifeiliaid.
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Dr Rees o Brifysgol Aberystwyth:
"Rwy'n falch iawn o dderbyn y Gymrodoriaeth hon. Mae'n fraint cael fy nghydnabod ochr yn ochr â chymaint o gydweithwyr ysbrydoledig sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ar draws y proffesiwn. Rwy'n teimlo’n angerddol am hyrwyddo gwyddoniaeth ac addysg filfeddygol, ac edrychaf ymlaen at gyfrannu at waith Coleg Brenhinol y Milfeddygon i hyrwyddo rhagoriaeth a chefnogi dyfodol gofal milfeddygol."
Dywedodd Dr Niall Connell FRCVS, Cadeirydd Bwrdd Cymrodoriaethau Coleg Brenhinol y Milfeddygon:
"Mae'n dda gweld y Gymrodoriaeth yn croesawu ystod mor eang ac amrywiol o dalent a rhagoriaeth milfeddygol i'w rhengoedd unwaith eto.
"Ymhlith y rhai sy'n cael eu croesawu eleni mae gennym filfeddygon sy'n fwyaf adnabyddus fel clinigwyr neu academyddion neu ymchwilwyr neu ymgyrchwyr neu arweinwyr busnes neu weision cyhoeddus. Fodd bynnag, yr hyn sy'n uno pob un ohonynt yw eu hymroddiad i hyrwyddo'r proffesiwn milfeddygol a'r cyfraniad y gall ei wneud i iechyd a lles anifeiliaid, iechyd y cyhoedd a’r gymdeithas yn ehangach."
Bydd Dr Rees a'i chyd-dderbynwyr yn cael eu croesawu'n ffurfiol yn Niwrnod Cymrodoriaethau blynyddol Coleg Brenhinol y Milfeddygon a gynhelir ar 27 Tachwedd yn One Great George Street, San Steffan.