Pysgod yn defnyddio mwy o egni i aros yn llonydd nag a feddyliwyd yn wreiddiol, yn ôl ymchwil

Llun gan geraldrose o Pixaby
21 Awst 2025
Mae ymchwil newydd wedi canfod bod pysgod sy'n aros yn llonydd mewn dŵr yn defnyddio llawer mwy o egni nag a feddyliwyd yn wreiddiol.
Mae gallu aros yn llonydd yn y dŵr yn sgìl hanfodol i bysgod gan ei fod yn eu helpu i gadw llygad am greaduriaid ysglyfaethus, dod o hyd i ysglyfaeth mewn holltau bach mewn creigiau a chael gafael ar fwydydd sy’n anodd eu cyrraedd, fel planhigion dyfrol.
Mae pysgod yn cyflawni hyn trwy "hofran", gan symud eu hesgyll a’u cyrff i aros yn yr unfan. Heb y symudiadau hyn, byddent yn naturiol yn troi ar eu hochr neu wyneb i waered.
Darganfu'r ymchwil, a gynhaliwyd gan dîm sy'n cynnwys academydd o Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth, fod hofran yn gofyn am ddwywaith cymaint o egni o'i gymharu â gorffwys.
Y rheswm am y defnydd ychwanegol o egni yw ansadrwydd, a achosir gan y chwysigen nofio, sach llawn nwy sydd i’w chael ym mhob pysgodyn esgyrnog, bron. Er bod y chwysigen nofio yn atal pysgodyn rhag suddo, mae hefyd yn creu problem o ran sadrwydd. Oherwydd lleoliad y chwysigen nofio, mae gwahaniaeth rhwng canolbwynt màs y pysgodyn a’i ganolbwynt hynofedd, ac mae hyn yn golygu bod pysgod yn eu hanfod yn ansad. Dyma pam y gwelir pysgod marw yn arnofio ar eu hochrau neu wyneb i waered, oherwydd eu bod yn troi drosodd yn naturiol.
Gallai’r canfyddiadau fod o gymorth wrth ddylunio robotiaid dyfrol bach, mwy hydrin a sefydlog. Ar gyfer yr ymchwil hwn gosododd y tîm 13 rhywogaeth o bysgod esgyrnog mewn tanc arbenigol a chofnodi faint o ocsigen a ddefnyddiwyd tra oeddent yn hofran a thra oeddent yn gorffwys ar waelod y tanc. Defnyddiwyd camerâu cyflymder uchel i olrhain symudiadau esgyll y pysgod.
Hefyd, mesurwyd maint a siâp corff pob pysgodyn i ymchwilio i'r ffactorau sy'n dylanwadu ar ansadrwydd wrth hofran. Yna, defnyddiwyd y data hyn i greu model syml i gysylltu priodweddau cyrff pysgod â chost metabolig hofran. Mae'r model yn awgrymu bod pysgod sydd â chyrff bychain, dwfn, fel pysgod aur, yn hofran yn fwy effeithlon, tra bod pysgod main a hir fel y rummy-nose tetra yn cael mwy o anhawster.
Dywedodd Dr Otar Akanyeti o Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth: "Byddech yn meddwl bod aros yn llonydd yn hawdd, ond mae'r ymchwil wedi gwrthdroi'r rhagdybiaeth hon. Mae hofran yn sgìl hanfodol i bysgod fedru bwyta, osgoi creaduriaid ysglyfaethus neu hela ysglyfaeth, ond mae yna ganlyniadau sylweddol o ran eu defnydd o egni. Mae fel ceisio cadw’ch cydbwysedd ar diwb llawn awyr yn y pwll nofio neu'r môr, sy'n anoddach nag y mae'n edrych i ddechrau.
"Mae gan y canfyddiadau oblygiadau pwysig o ran archwilio'r môr. Yn gyntaf, maen nhw'n helpu ein gwaith modelu ecolegol i ddeall ymddygiad pysgod yn well. Yn ail, gellir eu defnyddio i wneud robotiaid tanfor yn fwy hydrin, gan gynnig y posibilrwydd y gallent gyrraedd mannau nad oedd modd eu cyrraedd o'r blaen.
"Yn draddodiadol, mae robotiaid tanfor yn fach i gynyddu eu sadrwydd, ond trwy ddefnyddio'r canfyddiadau hyn, gallwn i bob pwrpas ychwanegu rhywfaint o ansadrwydd i helpu'r robotiaid i symud yn yr un ffordd â physgod, sy'n hofran yn fwy effeithiol."
Cyhoeddwyd y canfyddiadau mewn papur yn y cyfnodolyn Proceedings of the National Academy of Sciences. Yn ogystal â Dr Akanyeti, cafodd yr astudiaeth ei gyd-awduro gan saith sefydliad. Arweiniwyd yr ymchwil gan Sefydliad Eigioneg Scripps, Prifysgol San Diego California.