Mapio microbau pyllau glo Cymru i helpu i gynhesu cartrefi

Guglielmo Persiani yn casglu samplau dŵr o hen gloddfeydd yn Ne Cymru.
26 Awst 2025
Mae gwyddonwyr o Gymru wedi mapio’r microbau cuddiedig sy’n ffynnu ym mhyllau glo segur de Cymru, gan helpu i oresgyn y rhwystrau i ddefnyddio dŵr y pyllau i gynhesu cartrefi Prydain.
Mae’r posibiliadau ar gyfer gwresogi geothermal yn fawr gan fod eiddo tua chwarter poblogaeth y DU uwchben pyllau glo segur.
Yn 2023, yn nhref Gateshead, sefydlwyd system arloesol i gyfnewid gwres sy’n cynhesu 350 o gartrefi a nifer o fusnesau gan ddefnyddio dŵr o byllau glo wedi ei gynhesu’n naturiol. Mae prosiect mwy o faint ar y gweill yn Swydd Durham lle bydd 1,500 o gartrefi yn cael eu gwresogi yn gyfan gwbl gan y dull hwn.
Mae’r dŵr daear mewn hen weithfeydd glo sydd bellach o dan ddŵr yn cael ei gynhesu gan brosesau geothermal naturiol ac mae’n fan bridio cynhyrchiol i facteria sy’n bresennol yn naturiol. Gall y microbau hyn ddylanwadu’n sylweddol ar natur gemegol dŵr y cloddfeydd, ac mae iddynt oblygiadau i effeithiolrwydd a hirhoedledd systemau geothermal.
Samplwyd y dŵr a oedd yn llifo o hen gloddfeydd yn Ne Cymru gan dîm o ficrobiolegwyr o Brifysgol Aberystwyth gan ddefnyddio dilyniannau DNA uwch i ddadansoddi’r poblogaethau bacteria a mapio’r llu o ficrobau oedd yn bresennol.
Gall bacteria ddylanwadu ar gipio ynni geothermal mewn sawl ffordd, gan gynnwys effeithio ar gemeg y dŵr a ddefnyddir, rhydu pibau, a biolygru - lle gwelir sylweddau biolegol yn cronni ar yr arwynebedd sy’n trosglwyddo’r gwres gan leihau’r perfformiad a’r effeithlonrwydd.
Meddai Andy Mitchell, Athro Geocemeg Microbaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Mae’r dŵr mewn pyllau glo yn ffynhonnell enfawr o ynni carbon isel a allai gynhesu cartrefi a busnesau ledled Prydain ac sydd heb gael ei ddefnyddio ddigon. Hyd yn hyn, mae’r gwaith o gloriannu posibiliadau’r adnodd hwn fel ffynhonnell gwres geothermal yn cynnwys profi tymheredd ac asesu a ellir tynnu dŵr allan yn llwyddiannus a’i ail gyflwyno i wythïen lo wahanol ar ôl adennill y gwres.
Fodd bynnag, mae hefyd yn hanfodol deall sut y gallai gweithgarwch microbau effeithio ar ba mor ymarferol yn y tymor hir fydd peiriannau cyfnewid dŵr i wres.”
Mae’r gwaith ymchwil wedi’i gyhoeddi yng nghyfnodolyn Ffederasiwn Cymdeithasau Microbiolegol Ewropeaidd Microbiology Ecology, ac mae wedi dangos sut mae cymunedau tanddaearol microbaidd yn chwarae rhan bwysig wrth gylchu haearn a swlffwr - proses sy’n gallu dylanwadu ar asidedd, y metel sy’n bresennol, ac ansawdd cyffredinol y dŵr daear.
Dywedodd Dr Arwyn Edwards, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ryngddisgyblaethol ar gyfer Microbioleg Amgylcheddol yn y Brifysgol:
“Yn y cyd-destun byd eang, mae’r astudiaeth hon yn dangos bod pyllau glo segur De Cymru yn cynnig dealltwriaeth ddefnyddiol i ni wrth graffu ar fywydau ecsotig y triliynau a thriliynau o ficrobau sy’n guddiedig yng nghrombil y ddaear.”
“ Mae ein canfyddiadau yn dangos nad yw’r cymunedau microbaidd yn nyfroedd y glofeydd hyn wedi eu dosbarthu ar hap. Yn hytrach, maent yn cael eu dylanwadu’n gryf gan y ddaeareg waelodol a sut mae’r dŵr daear yn llifo trwy’r meysydd glo. Gallai gweithgaredd a chylchdro bywyd y bacteria hyn gyfrannu at gynhesrwydd y dŵr sy’n codi o ddyfnderoedd y meysydd glo, ac maent yn chwarae rhan allweddol wrth lunio geocemeg y dŵr mewn cloddfeydd. Mae deall eu swyddogaeth yn hanfodol i gynllunio systemau geothermal effeithiol a gwydn.
Cynhaliwyd llawer o’r gwaith ymchwil gan Dr André Soares pan oedd yn fyfyriwr PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth o dan arolygaeth yr Athro Andy Mitchell a Dr Arwyn Edwards; a chan Dr Sara Rassner, Cymrawd Ymchwil yn y Ganolfan Ryngddisgyblaethol ar gyfer Microbioleg Amgylcheddol ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Cefnogwyd y gwaith ymchwil gan Rwydwaith Ymchwil Cenedlaethol Sêr Cymru ar gyfer Carbon Isel, Ynni a’r Amgylchedd, prosiect Geo-Carb-Cymru a Chyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol.