Yr Athro Syr Charles Godfray i draddodi’r prif anerchiad mewn cynhadledd ar dwbercwlosis buchol

Mae cynhadledd flynyddol AberTB yn llwyfan ar gyfer cydweithio yn y frwydr yn erbyn TB buchol.
04 Medi 2025
Bydd yr Athro Syr Charles Godfray CBE FRS, Cadeirydd yr Adolygiad o Strategaeth Dileu TB Buchol Lloegr a gynhaliwyd yn 2025, yn traddodi’r prif anerchiad mewn cynhadledd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ddiweddarach y mis hwn.
Wedi’i threfnu gan Ganolfan Ragoriaeth Sêr Cymru ar gyfer Twbercwlosis Buchol ym Mhrifysgol Aberystwyth, thema cynhadledd AberTB eleni yw 'Brechu', sy'n adlewyrchu pwysigrwydd cynyddol strategaethau imiwneiddio yn y frwydr yn erbyn clefydau buchol.
Bydd y digwyddiad yn dod â gwyddonwyr blaenllaw, llunwyr polisi a rhanddeiliaid ynghyd i drafod y datblygiadau diweddaraf o ran y treialon brechu gwartheg a moch daear sydd bellach yn mynd rhagddynt yn y DU.
Yn ei anerchiad, bydd yr Athro Godfray yn rhannu canfyddiadau Panel Godfray 2025, grŵp a arbenigwyr annibynnol a gomisiynwyd gan DEFRA i asesu tystiolaeth newydd a chyfleoedd i wella strategaeth dileu TB buchol Lloegr. Bydd ei anerchiad yn trafod canfyddiadau'r panel a'u goblygiadau o ran llunio polisïau i reoli clefydau yn y dyfodol.
Ar ôl yr anerchiad bydd yr Athro Godfray yn ymuno â thrafodaeth banel ochr yn ochr â chyd-aelodau o Banel Godfray 2025 - yr Athro Glyn Hewinson CBE FLSW (Prifysgol Aberystwyth) a'r Athro James Wood OBE (Prifysgol Caergrawnt). Bydd y sesiwn yn cael ei chadeirio gan Sharon Hammond, Cadeirydd Bwrdd Rhaglen Dileu TB Buchol Llywodraeth Cymru.
Bydd y siaradwyr eraill yn y gynhadledd yn cynnwys yr Athro Helen McShane FRCP PhD FMedSci (Prifysgol Rhydychen), Dr Andy Robertson (DEFRA), a Maria Dominguez MRCVS ac Ivelina Miteva DVM MSc (Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion).
Wrth edrych ymlaen at y digwyddiad, dywedodd yr Athro Glyn Hewinson, Cadair Ymchwil Sêr Cymru yn y Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Twbercwlosis Buchol ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Mae Adolygiad 'Godfray' o strategaeth TB Defra, a gynhaliwyd yn 2018, wedi bod yn allweddol wrth lunio cyfeiriad polisïau TB buchol yn Lloegr, a bydd yn fraint cael croesawu Syr Charles i gynhadledd AberTB eleni. Rydym yn awyddus iawn i glywed ei sylwadau am ganfyddiadau'r panel diweddaraf a'u goblygiadau o ran yr ymdrechion i ddileu twbercwlosis.
"Gyda’i rhaglen lawn a'r cyfle i glywed gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad o ran rheoli clefydau a llunio polisïau ar sail gwyddoniaeth, bydd AberTB 2025 yn gwneud cyfraniad amserol ac adeiladol i'r ymdrech barhaus i ddileu twbercwlosis buchol o Gymru a datblygu gwyddoniaeth brechu.”
Cynhelir AberTB ddydd Mercher 17 Medi ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae'r rhaglen lawn ar gael yn vethub1.co.uk/cms/events ac mae tocynnau (£85) ar gael yn: tinyurl.com/4wv2v3tp
Sefydlwyd Canolfan Ragoriaeth Sêr Cymru ar gyfer Twbercwlosis Buchol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2018 i ddarparu sylfaen o dystiolaeth wyddonol gref ar gyfer dileu'r clefyd ac i gynyddu a meithrin arbenigedd ymchwil academaidd yng Nghymru.