Parasitolegwyr yn cydweithio i fynd i'r afael â chlefydau llyngyr dinistriol

Dr Russ Morphew
05 Medi 2025
Mae arbenigwr parasitoleg o Brifysgol Aberystwyth wedi ymuno â rhwydwaith newydd ledled y DU i yrru ymchwil fyd-eang yn y frwydr yn erbyn clefydau parasitig mewn pobl ac anifeiliaid.
Mae clefydau llyngyr parasitig - neu heintiau a achosir gan lyngyr - yn niweidio iechyd biliynau o bobl ac anifeiliaid ledled y byd ac maent yn rhai o'r afiechydon anoddaf i'w trin.
Bydd y ganolfan newydd, Canolfan Eco-Iechyd Llyngyr y DU, a ariennir gan Gyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC), yn cychwyn yn gynnar yn 2026 ac yn para am dair blynedd. Bydd yn uno gwyddonwyr yn y DU i yrru ymchwil arloesol gyda'r nod o leihau clefydau llyngyr parasitig ledled y byd.
Mae Dr Russ Morphew o Ganolfan Barrett ar gyfer Rheoli Llyngyr, Prifysgol Aberystwyth, canolfan sy'n cael ei chydnabod yn rhyngwladol am ei gwaith ar lyngyr parasitig, yn rhan o'r rhwydwaith newydd. Meddai:
"Mae rheoli heintiau llyngyr mewn modd cynaliadwy yn cael ei rwystro gan heriau tyngedfennol, gan gynnwys ymwrthedd i gyffuriau sy’n dod i’r amlwg a chyfyngiadau'r dulliau diagnostig presennol. Er mwyn goresgyn y rhwystrau hyn, mae gofyn am ymchwil cydlynol a rhyngddisgyblaethol sy'n integreiddio arbenigedd ar draws meysydd.
"Mae'r rhwydwaith hwn yn gam sylweddol ymlaen wrth ddod â gwyddonwyr o bob cwr o'r DU at ei gilydd i gyflymu'r gwaith o ddatblygu’r ddiagnosteg a’r therapïau sydd eu hangen ar frys ar gyfer rheoli clefydau yn gynaliadwy."
Bydd Hwb Eco-Iechyd Llyngyr y DU yn cefnogi ystod o weithgareddau gan gynnwys prosiectau ymchwil cydweithredol, rhannu adnoddau, a chyfnewid gwybodaeth i gryfhau safle’r DU ym maes ymchwil i lyngyr yn fyd-eang.
Ynghyd â Phrifysgol Aberystwyth, mae'r rhwydwaith yn cynnwys ymchwilwyr o Brifysgol y Frenhines Belfast, Sefydliad Moredun, Prifysgol Glasgow, Prifysgol Lerpwl ac Ysgol Meddygaeth Drofannol Lerpwl.