Penodi academyddion o Aberystwyth i asesu rhagoriaeth ymchwil y DU

Prifysgol Aberystwyth

Prifysgol Aberystwyth

04 Medi 2025

Cyhoeddwyd bod wyth academydd arall o Brifysgol Aberystwyth wedi’u penodi’n aelodau o is-baneli nodedig sy'n asesu rhagoriaeth ymchwil yn sector addysg uwch y DU gan ddod â'r cyfanswm i naw.

Mae'r paneli'n rhan o Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2029. Bydd pob academydd yn eistedd ar banel o fewn eu maes arbenigedd penodol.

Mae'r FfRhY yn chwarae rhan hanfodol yn sector addysg uwch y DU. Mae is-baneli yn asesu ansawdd ymchwil ar draws 34 o feysydd pwnc gwahanol. Defnyddir canlyniadau’r FfRhY i bennu dyraniad blynyddol o gyllid cyhoeddus gwerth £2 biliwn ar gyfer ymchwil mewn prifysgolion.

Bydd yr wyth a gyhoeddwyd heddiw yn ymuno â'r Athro Qiang Shen o'r Adran Gyfrifiadureg. Fe'i penodwyd ym mis Mehefin i gadeirio'r is-banel Cyfrifiadureg a Gwybodeg a bydd hefyd yn gwasanaethu fel aelod o Brif Banel y Gwyddorau Ffisegol, Peirianneg a Mathemateg.

Yr academyddion a ddewiswyd yw:

  • Yr Athro Berit Bliesemann de Guevara, Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol: Is-banel 19 (Gwleidyddiaeth ac Astudiaethau Rhyngwladol)
  • Dr Cathryn Charnell-White, Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd: Is-banel 25 (Astudiaethau Ardal)
  • Dr Kim Knowles, Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu: Is-banel 33 (Cerddoriaeth, Drama, Dawns, Celfyddydau Perfformio, Astudiaethau Ffilm a Sgrin)
  • Yr Athro Jamie Medhurst, Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu: Is-banel 34 (Cyfathrebu, Astudiaethau Diwylliannol a Chyfryngau, Llyfrgell a Rheoli Gwybodaeth)
  • Yr Athro Peter Merriman, Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear: Is-banel 14 (Daearyddiaeth ac Astudiaethau Amgylcheddol)
  • Yr Athro Phillipp Schofield, Adran Hanes a Hanes Cymru: Is-banel 28 (Hanes)
  • Yr Athro Rattan Yadav, Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig: Is-banel 6 (Amaethyddiaeth, Milfeddygaeth a Gwyddor Bwyd)
  • Yr Athro Reyer Zwiggelaar, Adran Gyfrifiadureg: Is-banel 12 (Peirianneg)

 

Dywedodd yr Athro Angela Hatton, Dirprwy Is-Ganghellor dros Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi:

“Rwy’n falch iawn o weld cymaint o academyddion o Brifysgol Aberystwyth yn cael eu cydnabod yn haeddiannol fel arbenigwyr yn eu meysydd. Mae’n arwydd o gryfder ac ehangder yr ymchwil sy’n digwydd yma bob dydd.

“Mae ein rhagoriaeth mewn ymchwil wedi ysbrydoli cenedlaethau o bobl o bob rhan o’r byd i newid bywydau er gwell: tyfu gwybodaeth, adeiladu cymunedau a chryfhau Cymru a’r byd ehangach.”

Dywedodd Cyfarwyddwr y FfRhY, Rebecca Fairbairn:

“Mae wedi bod yn fraint gweithio gyda’r cyrff sector a chadeiryddion y paneli ar y dull recriwtio agored newydd hwn. Rwy'n ddiolchgar am eu cyfraniadau a'u harweinyddiaeth drwy gydol y broses.

“Mae wedi bod yn ysbrydoledig gweld dyfnder, cryfder ac ymrwymiad cymuned ymchwil y DU, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at groesawu aelodau newydd y panel i’r tîm.”