Academydd Aberystwyth yn cyhoeddi archwiliad newydd cyfareddol i’r goruwchnaturiol

Dr Alice Vernon
11 Medi 2025
Apêl oesol chwilio am ysbrydion yw testun llyfr newydd a gyhoeddir gan academydd o Gymru heddiw.
‘Ghosted: A History of Ghost Hunting and Why We Keep Looking’ yw llyfr diweddaraf Dr Alice Vernon, Darlithydd Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae’r llyfr yn ymchwiliad hynod ddiddorol i’r agweddau diwylliannol, gwyddonol ac emosiynol ar chwilio am ysbrydion.
O seansau oes Fictoria, i chwilio am ysbrydion ar raglenni realaeth ar y teledu, a thwf aruthrol ymchwilwyr y paranormal ar YouTube, mae Dr Vernon yn dilyn esblygiad ein diddordeb yn y goruwchnaturiol, gan ofyn pam – er gwaethaf ein oes amheugar a thechnolegol – rydym yn dal i chwilio am ysbrydion.
Ar ei thaith bersonol i ddod o hyd i ysbryd, mae Dr Vernon yn sôn am ei hymweliadau â rhai o leoliadau mwyaf aflonydd ym Mhrydain ac yn gwahodd y darllenwyr i fyfyrio am eu credau eu hun.
Yn sôn am y llyfr, dywedodd Dr Vernon:
“Mae cynifer ohonom yn cael ein denu at syniad y goruwchnaturiol, hyd yn oed os ydym yn amau ei fod yn bodoli o gwbl. Roedd ysgrifennu Ghosted yn ffordd o archwilio’r croesddywediad hwnnw. Ac, er mai llyfr am chwilio am ysbrydion ydyw, mae hefyd yn ymwneud â galar, atgofion, a’r straeon a adroddwn i wneud synnwyr o’r anhysbys.
“P’un ydyn nhw’n amau neu’n credu, gobeithiaf fod Ghosted yn gwahodd y darllenwyr i ystyried beth yw ystyr yr aflonyddu hwn— a pham mae’r profiad hwnnw mor sylfaenol ddynol.”
Cwblhaodd Dr Alice Vernon ei Doethuriaeth yn ymchwilio i’r modd y portreadir insomnia mewn ffuglen, yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Erbyn hyn mae hi'n Ddarlithydd yn yr adran ar Lenyddiaeth y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg ac Ysgrifennu Creadigol, yn dysgu myfyrwyr am hanfodion adrodd straeon. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar baraseicoleg, anhwylderau cwsg a genre arswyd.
Yn ei llyfr cyntaf, Night Terrors, a gyhoeddwyd yn 2022, archwiliodd i gwsg aflonydd mewn llên a diwylliant. Fe’i disgrifiwyd gan The Sunday Times fel “a remarkable debut” ac fe’i dewiswyd yn Llyfr yr Wythnos i Radio 4 y BBC.
Cyhoeddwyd ei llyfr diweddaraf ‘Ghosted: A History of Ghost Hunting and Why We Keep Looking’ ar 11 Medi 2025 gan Bloomsbury Sigma.