Llyfr newydd Owain Glyndŵr yn datgelu delweddau newydd o gefnogwyr y gwrthryfel

Rhai o ddelweddau newydd y llyfr: Catrin Glyndŵr (Enduring Daughter), Iolo Goch a Rhys Ddu (Rhys the Protector)
16 Medi 2025
Mae haneswyr Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi llyfr newydd o bwys am y prif gymeriadau a gefnogodd gwrthryfel Owain Glyndŵr ar y diwrnod cenedlaethol i’w goffáu.
Dechreuodd y gwrthryfel Cymreig ar 16 Medi 1400 pan ymgasglodd pymtheg dyn blaenllaw o’r gogledd-ddwyrain yng nghartref Glyndŵr yng Nglyndyfrdwy ac, ar y cyd, ei gyhoeddi yn Dywysog Cymru. Dros y blynyddoedd nesaf heidiodd pobl o bob cefndir yn eu miloedd i gefnogi’r achos.
Cyfrannodd y miloedd hyn at ymgyrch Glyndŵr, ac mae’r llyfr dwyieithog newydd, ‘Llys Glyndŵr’, yn taflu goleuni ar garfan ddethol ohonynt a gafodd ddylanwad nodedig ar weledigaeth a hynt a helynt y gwrthryfel.
Gyda phortreadau gweledol gan yr arlunydd uchel ei barch Dan Llywelyn Hall, sydd â’i waith yn ymddangos mewn nifer o gasgliadau cyhoeddus, mae’r cyhoeddiad yn cynnwys portreadau cwbl newydd o aelodau Llys Glyndŵr, gan gynnwys ei ferch Catrin a’i wraig Marged.
Wedi’u cyhoeddi ochr yn ochr â cherddi gan feirdd o fri megis yr Athro Mererid Hopwood, Myrddin ap Dafydd, Ifor ap Glyn a Menna Elfyn, a rhagair gan Dafydd Iwan, mae’r llyfr yn ymgais newydd i fynd o dan groen unigolion allweddol o'r gorffennol ac ystyried ein ymateb ni iddynt heddiw.
Cyd-olygwyd y llyfr gan Dr Rhun Emlyn o Adran Hanes a Hanes Cymru Prifysgol Aberystwyth ynghyd â’r Athro Emeritws Gruffydd Aled Williams o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd. Dywedodd Dr Rhun Emlyn:
“Rydym ni wir yn gobeithio y bydd y llyfr newydd hwn yn codi llen ar rai o unigolion pwysig ond llai enwog y cyfnod. Wrth feddwl am Wrthryfel Glyndŵr rydym yn tueddu i ganolbwyntio ar Owain Glyndŵr ei hun. Wedi’r cwbl, dyma’r gŵr a gyhoeddwyd yn Dywysog Cymru, ef oedd yn denu dilynwyr ffyddlon ac yn ysbrydoli nifer i wrthryfela, ac ef a ddefnyddiodd rym ei bersonoliaeth i lywio cyfeiriad y gwrthryfel ac i sicrhau ei fod wedi parhau gyhyd.
“Ac eto, roedd y gwrthryfel yn fwy nag Owain Glyndŵr ei hun. Nid band un dyn oedd y gwrthryfel, nac ychwaith ymgyrch i sicrhau cyfiawnder i un dyn yn unig, ond ymgais i ymateb i gwynion pobl ar draws Cymru benbaladr. Roedd yn wrthryfel cenedlaethola gododd oherwydd rhwystredigaethau a wynebai’r genedl gyfan ac fe dderbyniodd gefnogaeth eang ar draws y wlad. Felly, mae’r llyfr yn ymgais i roi wyneb i rai eraill oedd yn rhan annatod o’r gwrthryfel, o’r bardd Iolo Goch i ryfelwyr fel Rhys Ddu a Henry Dwnn.”
Ychwanegodd yr arlunydd Dan Llywelyn Hall:
“Mae’n rhaid bod gan Owain dyrfa fawr o gefnogwyr er mwyn creu gwrthryfel mor eang ac yn y bywgraffiadau niferus a ddarllenais prin iawn y nodwyd pwy oedd y ffigyrau hyn; ar y gorau dim ond cipolwg cil llygad a gawn. Roedd absenoldeb llwyr cofnodion gweledol o Owain yn ogystal â’r ffigyrau ymylol a gefnogai ei ymgyrch yn peri penbleth i mi. Roedd yn rhaid i mi gonsurio fy mhortreadau fy hun o’r cylch dethol o wynebau a wnaeth y gwrthryfel yn bosibl. Gobeithio bod y llyfr felly yn gyfraniad gwerthfawr at amlygu rhai o’u cefnogwyr nad ydynt wedi cael eu sylw dyledus.”