Profi ‘hwb’ imiwnedd brechlyn gwartheg - ymchwil newydd

Dr Amanda Gibson, Prifysgol Aberystwyth

Dr Amanda Gibson, Prifysgol Aberystwyth

16 Medi 2025

Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn arwain ymchwil ar sut y gall brechlyn cyffredin hybu imiwnedd cyffredinol mewn da byw.

Bydd yr astudiaeth pedair blynedd yn ymchwilio i'r cysyniad o 'imiwnedd hyfforddedig' - math o gof imiwnedd a sbardunir gan frechlyn, sy'n ail-raglennu'r system imiwnedd i ymateb yn fwy effeithiol i heintiau eraill yn y dyfodol.

Bydd y tîm ymchwil yn astudio effaith y brechlyn BCG, gyda’r gobaith o’i ddefnyddio i helpu i reoli TB mewn gwartheg, sydd wedi dangos ei fod yn achosi imiwnedd hyfforddedig.

Gan ddefnyddio uwch dechnegau labordy a samplau meinwe gwartheg, bydd y tîm yn astudio'r mecanweithiau moleciwlaidd sy'n arwain at imiwnedd hyfforddedig mewn da byw wedi'u brechu.

Gallai'r astudiaeth arwain at dda byw iachach, llai o ddibyniaeth ar wrthfiotigau, a ffermio yn cael llai o effaith ar yr amgylchedd.

Mae Dr Amanda Gibson, Darlithydd mewn Imiwnoleg Gynhenid ​​yng Nghanolfan Ragoriaeth Sêr Cymru ar gyfer TB Buchol, yn arwain yr ymchwil. Dywedodd:

“Mae hwn yn gyfle gwych i ymchwilio i botensial imiwnedd hyfforddedig mewn da byw ac i gyfrannu at ddatblygu systemau ffermio mwy cynaliadwy a gwydn. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr ar draws disgyblaethau a sectorau i gyflwyno ymchwil a all gael effaith go iawn ar iechyd anifeiliaid a chynaliadwyedd amgylcheddol.”

Dywedodd yr Athro Iain Barber, Dirprwy Is-Ganghellor Cyfadran y Gwyddorau ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Mae gwaith Dr Gibson yn mynd i’r afael â rhai o’r heriau mwyaf dybryd ym maes iechyd anifeiliaid ac amaethyddiaeth gynaliadwy. Rydym ni’n falch o’i chefnogi wrth iddi arwain y rhaglen gyffrous ac effeithiol hon, sy’n adlewyrchu’r ymchwil o’r radd flaenaf sy’n digwydd yma yn Aberystwyth.”

Bydd Dr Gibson yn cydweithio â phartneriaid gan gynnwys yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA), Swyddfa Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Arwain DGC (Defnydd Gwrthficrobaidd Cyfrifol), a Sefydliad Roslin.

Dywedodd Dr Camille Harrison, prif wyddonydd twbercwlosis buchol yn APHA:

“Rwy’n edrych ymlaen at weithio’n agosach gyda Dr Amanda Gibson a’i thîm i ddatblygu prosiectau cydweithredol sy’n cefnogi ymdrechion i ddileu TB ac yn dyfnhau ein dealltwriaeth o lwybrau imiwnolegol.”

Cefnogir y gwaith gan Gymrodoriaeth Arweinwyr y Dyfodol UKRI, a ddyfarnwyd i Dr Gibson i gydnabod ei harweinyddiaeth ym maes imiwnoleg ac iechyd anifeiliaid.

Dywedodd Prif Weithredwr UKRI, yr Athro Syr Ian Chapman:

“Mae Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol UKRI yn cynnig cefnogaeth hirdymor i ymchwilwyr rhagorol, gan eu helpu i droi syniadau beiddgar yn ddatblygiadau sy’n gwella bywydau a bywoliaeth yn y Deyrnas Gyfunol a thu hwnt.

“Mae’r cymrodoriaethau hyn yn parhau i gymell rhagoriaeth a chyflymu’r daith o ddarganfyddiad i fudd cyhoeddus. Rwy’n dymuno pob llwyddiant iddynt.”

Ymunodd Dr Gibson â Phrifysgol Aberystwyth yn 2020 o'r Coleg Milfeddygol Brenhinol, Llundain, lle sefydlodd y grŵp imiwnoleg gynhenid. Mae ganddi radd BSc (Anrh) mewn Imiwnoleg o Brifysgol Glasgow a PhD mewn Imiwnoleg Foleciwlaidd o Brifysgol Llundain. Mae ei gyrfa'n cwmpasu diwydiant (Philips Healthcare), y gwasanaeth sifil (Asiantaeth Diogelu Iechyd, bellach UKHSA), a'r byd academaidd.