Arbenigwyr twbercwlosis buchol yn trafod strategaeth frechu

Siaradwyr yng nghynhadledd AberTB 2025
Heddiw (dydd Mercher 17 Medi), mae gwyddonwyr, milfeddygon a llunwyr polisi blaengar o bedwar ban Prydain wedi cyfarfod ym Mhrifysgol Aberystwyth i drafod strategaethau brechu at dwbercwlosis buchol.
Cynhaliwyd y gynhadledd gan Ganolfan Ragoriaeth Sêr Cymru ar gyfer Twbercwlosis Buchol, yr Ysgol Gwyddorau Milfeddygol, a VetHub1. Eleni, roedd cynhadledd AberTB yn canolbwyntio ar frechu, maes sydd yn datblygu’n gyflym fel rhan o’r strategaeth i reoli’r clefyd.
Agorwyd y gynhadledd ag araith gan yr Athro Syr Charles Godfray CBE FRS, Cadeirydd yr Adolygiad o’r Strategaeth Dileu Twbercwlosis Buchol ar gyfer Lloegr yn 2025. Cyflwynodd ganfyddiadau'r adolygiad diweddaraf, a gafodd ei gyhoeddi’r mis hwn, sy'n asesu datblygiadau gwyddonol ers 2018, gan hefyd dynnu sylw at rai meysydd allweddol na chawsant sylw n yr ymchwil a rheolaeth clefydau.
Yn ddiweddarach, ymunodd Syr Charles â thrafodaeth banel ochr yn ochr â’i gyd-adolygwyr, yr Athro Glyn Hewinson CBE FLSW o Brifysgol Aberystwyth a'r Athro James Wood OBE o Brifysgol Caergrawnt, dan gadeiryddiaeth Sharon Hammond, cadeirydd Bwrdd Rhaglen Dileu TB Buchol Llywodraeth Cymru.
Ymhlith y siaradwyr arbenigol eraill roedd yr Athro Helen McShane o Brifysgol Rhydychen a siaradodd am frechiadau TB dynol, yn ogystal â Dr Andy Robertson o Defra a roddodd gyflwyniad ar sut mae Defra yn bwriadu cyflymu darpariaeth brechiadau moch daear.
Cafwyd trafodaeth ar y treialon maes presennol ar frechiadau gwartheg a’u profion diagnostig cysylltiedig dan arweiniad Maria Dominguez MRCVS ac Ivelina Miteva DVM MSc o'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion.
Bu'r cynadleddwyr hefyd yn craffu ar faterion ymarferol ynglŷn â darparu rhaglenni brechu gwartheg a moch daear yng Nghymru, gan nodi’r cyfleoedd a’r rhwystrau.
Dywedodd yr Athro Glyn Hewinson, Pennaeth Canolfan Ragoriaeth Sêr Cymru ar gyfer Twbercwlosis Buchol ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Un o’n prif fwriadau yw hybu ddealltwriaeth ynglŷn â’r datblygiadau diweddaraf ar draws y sectorau gwahanol wrth fynd i’r afael â TB buchol. Roeddem yn falch iawn o groesawu grŵp o arbenigwyr mor nodedig i Aberystwyth. Gyda’r twf cyflym ym maes gwyddoniaeth frechu, mae’r gynhadledd hon yn gyfle allweddol i rannu darganfyddiadau ac i bennu dyfodol maes rheoli clefydau gwartheg a bywyd gwyllt.”
Ychwanegodd yr Athro Iain Barber, Dirprwy Is-ganghellor y Gwyddorau ym Mhrifysgol Aberystwyth:
"Gall cost economaidd ac emosiynol TB buchol mewn cymunedau gwledig fod yn ddinistriol ac mae'n effeithio ar gymaint o bobl yn y diwydiannau amaethyddol a milfeddygol yma yng Nghymru. Mae’r Gynhadledd AberTB flynyddol yn gyfle i gwrdd er mwyn cydweithio ar faes hanfodol o bwysig. Mae'r Ysgol Gwyddorau Milfeddygol, Canolfan Ragoriaeth TB Buchol Sêr Cymru a VetHub1 i gyd yn cyfrannu’n sylweddol at y diwydiant milfeddygol yng Nghymru, ac rydym ni’n ymfalchïo yn y ffaith bod Prifysgol Aberystwyth yn parhau i chwarae rhan allweddol wrth gefnogi'r ymgyrch genedlaethol i gael gwared ar TB."
Wedi'i sefydlu yn 2018, mae Canolfan Ragoriaeth Sêr Cymru ar gyfer Twbercwlosis Buchol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn darparu cyngor annibynnol ac arbenigol ynglŷn â rheoli TB buchol, gan hefyd ddatblygu ymchwil ar dda byw yng Nghymru mewn labordai milfeddygol o'r radd flaenaf.