Astudiaeth o rewlifoedd yn yr Andes yn taflu goleuni ar effaith yr hinsawdd yn y dyfodol

Dyffryn Santa Cruz Uchaf ym Mheriw, yn dangos cribau tywyllach o farianau a adawyd ar ôl wrth i'r rhewlifoedd encilio.

Dyffryn Santa Cruz Uchaf ym Mheriw, yn dangos cribau tywyllach o farianau a adawyd ar ôl wrth i'r rhewlifoedd encilio.

22 Medi 2025

Mae ymchwil newydd wedi canfod bod rhewlifoedd yr Andes wedi tyfu yn ystod cyfnod acíwt o newid yn yr hinsawdd ar ddiwedd yr Oes Iâ ddiwethaf.

Gwnaed y darganfyddiad gan dîm rhyngwladol o rewlifegwyr, dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth, yn rhan o brosiect newydd ar rewlifoedd trofannol ym Mheriw.

Mae'r canfyddiad yn herio rhagdybiaethau hir-sefydledig ynglŷn ag ymddygiad rhewlifoedd yn ystod y cyfnod hwn.

Mae'r canfyddiadau, a gyhoeddwyd yn 'Nature Scientific Reports', yn taflu goleuni newydd ar y ffordd y mae rhewlifoedd yn ymateb i batrymau cyfnewidiol yr hinsawdd, a gallent helpu i wella rhagfynegiadau o effeithiau’r hinsawdd yn y dyfodol.

Canolbwyntiodd yr astudiaeth ar gyfnod y Dryas Diweddaraf, cyfnod o newid hinsawdd sydyn a dramatig a ddigwyddodd rhwng tua 12,900 ac 11,700 o flynyddoedd yn ôl. Yn groes i ddamcaniaethau blaenorol, sy'n awgrymu bod rhewlifoedd yn yr ardal hon o Beriw wedi encilio yn ystod y cyfnod hwn, canfu'r ymchwilwyr fod y rhai yn Nyffryn Santa Cruz ym Mheriw wedi tyfu mewn gwirionedd.

Mae'r rhewlifegwyr yn credu bod y twf hwn wedi'i yrru gan gwymp eira uwch yn sgil newidiadau tymhorol yn y Parth Cydgyfeirio Rhyngdrofannol - ardal o bwysedd isel sy'n symud rhwng yr hemisfferau ac sy’n dylanwadu ar batrymau tywydd trofannol.

Er mwyn dod i'w casgliadau, aeth y tîm ymchwil ati i ddyddio clogfeini a gludwyd gan rewlifoedd yn Nyffryn Santa Cruz, Periw. Mae'r clogfeini hyn yn dystiolaeth ffisegol o symudiadau rhewlifol dros filoedd o flynyddoedd ac maent y darparu gwybodaeth werthfawr am amodau’r hinsawdd yn hanesyddol.

Mae'r prif awdur, yr Athro Neil Glasser o Brifysgol Aberystwyth, yn geomorffolegydd rhewlifol sy'n ymchwilio i newidiadau mewn rhewlifoedd yn ne De America. Dywedodd:  

"Mae ein hastudiaeth yn awgrymu bod cwymp eira yn ffactor allweddol a fu’n gyrru twf rhewlifoedd yn yr Andes drofannol yn ystod cyfnod y Dryas Diweddaraf. Yn wahanol i lawer o rewlifoedd eraill, nid yw'r rhewlifoedd yn y rhan hon o'r Andes yn ymrannu i greu mynyddoedd iâ, lle bo darnau mawr o iâ yn datgysylltu. Nid oes ganddynt orchudd trwm o falurion chwaith, gan eu gwneud yn arbennig o addas ar gyfer ail-greu amodau hinsawdd y gorffennol. Bu hefyd modd i ni ddyddio amseriad eu twf yn fwy manwl nag erioed o'r blaen.

"Mae ein hastudiaeth yn dangos bod y rhewlifoedd hyn yn hynod sensitif i newidiadau yn yr hinsawdd, yn enwedig newidiadau mewn patrymau glaw. Mae deall hanes twf ac enciliad rhewlifoedd yn bwysig iawn oherwydd mae'n ein helpu i ragweld yn well sut y bydd y rhewlifoedd hyn yn ymateb i gynhesu yn y dyfodol. Mae hyn yn arbennig o bwysig ym Mheriw, lle mae'r rhewlifoedd yn ffynhonnell o ddŵr croyw i’w yfed, ac i’w ddefnyddio at ddibenion glanweithdra a dyfrhau cnydau."

Roedd yr astudiaeth yn ymdrech gydweithredol yn cynnwys ymchwilwyr o'r DU, yr Eidal, Canada, a Pheriw.