Angen ailfeddwl gwerthuso natur i daclo’r argyfwng bioamrywiaeth – astudiaeth

Jasper Kenter, Cymrawd Ymchwil Athrawol mewn Economeg Ecolegol Ymgynghorol yn Ysgol Fusnes Prifysgol Aberystwyth.
23 Medi 2025
Mae’r ffordd o feddwl economaidd hen ffasiwn yn arwain at golli bioamrywiaeth, yn ôl astudiaeth ryngwladol newydd a arweinir gan academyddion o Brifysgol Aberystwyth, sy'n galw am newid sylfaenol yn y ffordd y mae natur yn cael ei gwerthuso.
Wedi'i gyhoeddi yn y cyfnodolyn Proceedings of the National Academy of Sciences, mae'r ymchwil newydd yn cynnig dull trawsnewidiol o economeg - un sy'n cydnabod natur nid yn unig fel adnodd, ond fel system fyw sydd wedi'i chydblethu'n ddwfn â hunaniaeth, diwylliant a lles dynol.
Mae'r canfyddiadau'n adeiladu ar Asesiad Gwerthoedd Platfform Rhynglywodraethol ar Fioamrywiaeth a Gwasanaethau Ecosystem (IPBES) y Cenhedloedd Unedig, sy'n dadlau dros ddealltwriaeth fwy cynhwysol o werth natur.
Mae'r papur newydd yn tynnu sylw at bwysigrwydd gwerthoedd perthynol - fel treftadaeth, goruchwyliaeth a chysylltiad ysbrydol - wrth lunio sut mae pobl yn rhyngweithio â'r byd naturiol ac yn gofalu amdano.
Dywedodd yr awdur arweiniol, yr Athro Jasper Kenter, Cymrawd Ymchwil mewn Economeg Ecolegol Ystyriol yn Ysgol Fusnes Aberystwyth:
“Rydym ni’n ymwneud â natur mewn ffyrdd dirifedi. Dyw hi ddim yn fater o ystyried ecosystemau neu adnoddau yn unig — mae bioamrywiaeth yn llunio ein cymunedau, ein hiechyd meddyliol a chorfforol, ein synnwyr o le a pherthyn, ein hysbrydolrwydd.
“Mae meddwl economaidd traddodiadol wedi bod yn rhy gul a thechnocrataidd i ystyried y gwerthoedd amrywiol hyn, gan arwain at wrthdaro yn aml ynghylch defnydd tir a blaenoriaethau cadwraeth. Er mwyn gwneud penderfyniadau gwell sy’n adlewyrchu profiadau byw pobl, mae angen newid sylweddol arnon ni.”
Mae’r papur yn cyflwyno fframwaith newydd — economeg bioamrywiaeth berthynasol — sy’n ceisio gwreiddio’r gwerthoedd ehangach hyn wrth wneud penderfyniadau economaidd.
Mae’r ffordd newydd hon o feddwl yn ffordd wahanol, fwy cynhwysol yn gymdeithasol, o gloriannu penderfyniadau cymhleth, megis cydbwyso defnydd tir ar gyfer cynhyrchu bwyd, tai, storio carbon, a chadwraeth natur.
Ychwanegodd y cyd-awdur, yr Athro Mike Christie, sydd hefyd o Ysgol Fusnes Aberystwyth ac yn gyd-gadeirydd Asesiad Gwerthoedd IPBES y Cenhedloedd Unedig:
“Mae atal colli bioamrywiaeth yn ei gwneud yn ofynnol i ni ailystyried sylfeini gwneud penderfyniadau economaidd. Ond mae hyn am fwy nag economeg yn unig — mae'n ymwneud ag ailddychmygu ein perthynas â'r byd naturiol.
“Drwy gydnabod bod pobl ac economïau wedi'u hymgorffori o fewn natur, gallwn ni adeiladu dyfodol mwy gwydn, cynhwysol a chynaliadwy.”
“Mae'r gwaith hwn yn ychwanegu at gorff cynyddol o dystiolaeth sy'n galw am newid trawsnewidiol yn y ffordd y mae cymdeithasau'n deall ac yn ymgysylltu â natur — newid a allai fod yn allweddol i wrthdroi dirywiad bioamrywiaeth.”
Ariannwyd yr ymchwil gan UKRI trwy brosiect NAVIGATE, gyda chefnogaeth ychwanegol gan Gyngor Ymchwil Strategol y Ffindir a Gweinyddiaeth Wyddoniaeth ac Arloesi Sbaen. Roedd yn cynnwys cydweithwyr o Brifysgolion Aberystwyth ac East Anglia, Natural England, Prifysgol Helsinki (Y Ffindir), a Chanolfan Newid Hinsawdd Gwlad y Basg.