Dyfais AI i adfer lleferydd yn ennill gwobrau myfyrwyr

Enillwyr y gwobrau o'r chwith i'r dde: Harry Warne, Ellis Peares, Louis Angelo Summers, Ash Jayy Simmons Black ac Eleni Ziu gyda Phennaeth Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Prifysgol Aberystwyth Bev Herring a'r Is-Ganghellor yr Athro Jon Timmis.
30 Medi 2025
Myfyriwr a greodd ddyfais i helpu pobl ag amhariad lleferydd, ac un a ddechreuodd fusnes i dyfu te yn lleol oedd ymhlith enillwyr cystadleuaeth dechrau busnes myfyrwyr.
Mae'r gwobrau, a gefnogir drwy roddion gan gyn-fyfyrwyr, yn dathlu creadigrwydd ac arloesedd myfyrwyr a graddedigion diweddar Prifysgol Aberystwyth.
Bellach gwerth mwy na £20,000 at ei gilydd, fe’u sefydlwyd i gefnogi mentrau yn eu dyddiau cynnar o ran datblygiad.
Ar y cyd ag eraill, enillodd y myfyriwr doethuriaeth Harry Warne y Wobr Menter Gymdeithasol a'r Wobr Gwyddoniaeth a Thechnoleg am ddyfais prototeip sy'n defnyddio technoleg Deallusrwydd Artiffisial i helpu pobl ag amhariad lleferydd i gyfathrebu'n fwy effeithiol.
Dywedodd Harry Warne:
"Rwy'n ddiolchgar iawn i'r trefnwyr a'r beirniaid am eu cefnogaeth. Mae ennill y gystadleuaeth yn golygu fy mod i’n gallu symud ymlaen o’r cam o brofi’r cysyniad tuag at brototeip cludadwy. Rwy’ hefyd yn gallu datblygu busnes i gefnogi datblygu fy syniad ymhellach. Mae gen i ffordd anodd ond gyffrous o'm blaen i, ac rwy'n teimlo'n ffodus iawn i gael fy nghefnogi yn y cyfnod cynnar hwn."
Cyd-enillwyr y Wobr Gwyddoniaeth a Thechnoleg oedd myfyrwyr doethuriaeth o Aberystwyth ac UCL, Louis Angelo Summers a Toby Allington, sy'n datblygu atchwanegiad ac ap er mwyn ymdrin ag iechyd y galon mewn ffordd holistaidd. Fel rhan o’u gwobr, derbyniodd eu tîm, Heartguard, aelodaeth am ddim i gampws ymchwil ac arloesi ArloesiAber yng Ngogerddan.
Enillodd y fyfyrwraig ddoethuriaeth mewn Cyfrifiadureg, Eleni Ziu, sydd wedi datblygu busnes a fydd yn tyfu te yn lleol, y Wobr Eco-Fusnes. Enillodd Ash Jayy Simmons Black, sydd wedi graddio mewn Llenyddiaeth Saesneg a Ffrangeg, y Wobr Celfyddydau Creadigol am ei asiantaeth cysylltiadau cyhoeddus i helpu nofelwyr rhamant i hyrwyddo eu gwaith ar y cyfryngau cymdeithasol.
Aeth y Wobr Menter Leol i'r fyfyrwraig Ffiseg Katelyn Crowther, Alex Parker a Louis Bales o'r Adran Gwyddorau Bywyd a'r myfyriwr Cyfraith Ellis Peares. Fel tîm, maent yn rheoli busnes garddio, gan ddarparu gwasanaethau garddio fforddiadwy i drigolion Aberystwyth a chynnig hyfforddiant a gwaith rhan-amser hyblyg i fyfyrwyr.
Bu’r gwobrau’n bosibl diolch i roddion hael gan gyn-fyfyrwyr drwy Gronfa Aber a thrwy Gronfa Arloesi Ymchwil Cymru.
Wrth ddathlu’r holl gystadleuwyr, ychwanegodd Bev Herring, Pennaeth Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Prifysgol Aberystwyth:
“Mae’n hyfryd gweld cymaint o fyfyrwyr a graddedigion diweddar yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth Dechrau Busnes Myfyrwyr eleni. Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr - mae eu syniadau, eu harloesedd a’u hymrwymiad wedi bod yn drawiadol. Mae’r gystadleuaeth yn cynnig cyfle gwerthfawr i fyfyrwyr arddangos beth sy’n gwneud eu mentrau’n unigryw a sut y gallan nhw droi syniadau’n fusnesau hyfyw. Rydym ni’n falch o’u cefnogi wrth iddyn nhw gymryd y camau nesaf yn eu taith entrepreneuraidd, ac yn ddiolchgar i’r beirniaid, ein Tîm Menter o fewn y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd a phawb arall a oedd yn rhan o wneud y digwyddiad eleni yn llwyddiant.”